Afon Llifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Llifon yn codi yng nghorsydd rhan uchaf plwyf Llandwrog, nid nepell o'r Bryngwyn, gan redeg trwy geunant ger Maes Tryfan. Yna mae'n mynd dan bont y lôn fawr a'r ddwy hen reilffordd ger Llwyn-y-gwalch, ac ar draws y caeau nes croesi Lôn Cefn Glyn dan bont nas gwelir bron, ac i mewn i Barc Glynllifon, lle mae'n llifo trwy'r Cwm Coed. O flaen Plas Glynllifon mae wedi ei ffurfio fel camlas at ddibenion hwylio cychod bach ac ati, cyn mynd ymlaen i droi melin y stâd. O'r fan honno, mae'n llifo trwy'r parc, dan Bont Plas Newydd ac i'r môr rhwng ffermydd Tŷ Mawr a Maes Mawr.

Ar un adeg bu'r afon yn troi nifer o felinau (gweler Melinau Afon Llifon). Dichon bod enw'r afon yn cyfeirio at gyflymder y dŵr, yn arbennig ger Maes Tryfan.