Melinau Afon Llifon
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Yr oedd o leiaf chwe Melin ar Afon Llifon er bod Afon Llifon yn un o'r afonydd llai sy'n rhedeg trwy'r cwmwd. Am rannau helaeth o'i hyd, fodd bynnag, mae wedi ffurfio ceunentydd cul sydd yn creu llif cyflym a chryf, yn addas iawn i droi peiriannau melinau. Oherwydd hyn, nid yw'n glir i ba raddau roedd angen ffrwd melin i gryfhau grym y dŵr (heblaw am y rhai ger Glynllifon).
Yn cychwyn o'i tharddiad, ceid y canlynol ar lannau Afon Llifon:
- Gwaith Llechi Llifon, melin lechi, ger Hafod-boeth
- Ffatri Tryfan, melin wlân
- Melin Forgan, melin ŷd
- Melin Llwyn-y-gwalch, melin ŷd
- Pandy Glynllifon, melin bannu
- Melin y Plant, ffoledd
- Melin Goed Glynllifon, melin goed
- Melin Llifon
Gweler tudalennau ar wahân am fanylion pob melin, trwy glicio ar yr enw yn y rhestr uchod. Mae rhestr lawn o holl felinau gwybyddus Uwchgwyrfai, a gwybodaeth amdanynt, hefyd i'w chael yn yr Is-gategori Diwydiant a Masnach yn Cof y Cwmwd.