Afon Reil

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:23, 13 Hydref 2020 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae peth dirgelwch ynglŷn â pha nant yw Afon Reil sy'n rhedeg trwy gorsydd rhan uchaf plwyf Llandwrog. Croesai'r lôn tua hanner ffordd rhwng Rhosgadfan ac Y Fron ym mhlwyf Llandwrog ac mae'n bur sicr y cafwyd ei henwi ar ôl inclein lein fach y chwareli a groesodd dan y ffordd ger Glan-y-gors a Fron Heulog. Nid yw'r enw'n hysbys ar y we ond ar lun o hen dabl arosfannau bws Express Motors dyddiedig Tachwedd 1931. Yn sicr, un o flaen-nentydd Afon Llifon yw hi. Yn ôl Ifor Williams yng Nghylchlythyr Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru,[1], dyna enghraifft o newidiadau diwydiannol yn creu (neu newid) enwau lle newydd. Mae Pont y Reil gerllaw.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Ifor Williams, Afon Reil, (Cylchlythyr Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, rhif 4 (Hydref 2013)), t.7