Express Motors

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Bws 'Pilipala' tua 1960

Cwmni a ddarparai wasanaethau bws yn ardal Uwchgwyrfai a thu hwnt oedd Express Motors.

Owen Wyn Owen

Gweithio yn y chwarel oedd Owen Wyn Owen, ac yn byw yng Nhae Gwyn Rhostryfan. Fe ofynnodd am ganiatâd i fynd i ddysgu gyrru cerbydau, ac i ffwrdd i Lundain yr aeth. Ar ôl cael ei drwydded, fe brynodd fws, a gyrhaeddodd ar y trên i Bwllheli ym 1908. Ei daith gyntaf oedd mynd â chriw Capel Bedyddwyr Cricieth am drip dros fwlch Llanberis; pan gyrhaeddodd y bws Gaernarfon, fe'u croesawyd ar y Maes yng Nghaernarfon gan neb llai na David Lloyd George.

Motor Mawr Cae Gwyn

Ar lafar Motor Mawr Cae Gwyn oedd yr enw ar gwmni'r bws. (Mwy o wybodaeth i ddod)

Bysiau Express Motors ar eu diwrnod olaf 2017

Bysus Robin Huw

Fe briododd Myfanwy, un o ferched Owen Wyn Owen, â gŵr o'r Groeslon, Robert Hughes Jones, Bryn Golau, a gymerodd y busnes drosodd. Ar lafar Bysus Robin Huw oedd enw'r cwmni, ond Express Motors yn swyddogol.[1]

Cwmni bysiau a redai o Gaernarfon i gyfeiriad Y Fron yn y lle cyntaf, oedd Express Motors, a hynny cyn yr ail ryfel byd. Sefydlwyd y cwmni ym 1907 gan Eric Jones. Fe alwyd y bysiau hyn yn "fysus Robin Huw" ar dafod leferydd. Yn ystod y 1970au, rhedai'r cwmni hen fws Leyland coch, yn debyg i'r bysiau unllawr Crosville gynt. Fodd bynnag, fe werthwyd teithiau'r cwmni i gwmni arall lleol, sef Moduron Seren Arian neu "Silver Star", yn ystod y 1970au.

Maes o law prynwyd yr enw gan y perchnogion presennol, ac o dipyn i beth ehangwyd y teithiau, yn gyntaf i leoedd eraill cyfagos megis Nantlle a Dinas Dinlle, ond yn fwy diweddar (ar ôl agor depo ym Mlaenau Ffestiniog) cyn belled ag Aberystwyth, Llanrwst, Llandudno, Porthmadog a'r Bermo. Yn 2010, prynwyd pedwar llwybr taith ("route") Seren Arian a arweiniodd at ehangu pellach. Erbyn 2012, roedd y cwmni'n rhedeg 25 o fysiau a 15 o goetsys.[2]

Yn wreiddiol defnyddiodd y perchnogion newydd liwiau gwyrddlas a gwyn ar fysiau Express ond, ar ôl i gwmni Arriva ddod i'r ardal gyda'i lifrai gwyrddlas, newidiwyd lliwiau Express i felyn a gwyn.[3]

Ataliwyd holl wasanaethau cwmni Express ar ddiwedd 2017, wedi i'r Comisiynydd Traffig atal eu trwydded. Wedi hynny, erlynwyd y perchnogion am dwyll, a chawsant ddedfrydau sylweddol o garchar. Chwalwyd y garej ym Mhen-y-groes fis Tachwedd 2020, a'r bwriad yw codi canolfan iechyd ar y safle. Erbyn hyn, Bysiau Dilwyn a Bysiau Gwynfor o Ynys Môn sydd wedi ymgymryd â'r rhan fwyaf o'u gwasanaethau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Dogfennau teulu drwy law gor wyres Owen Wyn Owen
  2. Tudalen Wikipedia am Express Motors
  3. Gwybodaeth bersonol