Tafarndai Pen-y-groes
Yn ystod cyfnod tŵf poblogaeth Dyffryn Nantlle rhwng, dyweder, 1860 a 1900, roedd o leiaf saith, os nad naw, o dafarndai ym mhentref Pen-y-groes yn y 19g. Datblygodd sawl un ar dir oedd yn eiddo i Ystad Bryncir, ond gyda thŵf yn y mudiad dirwest, codwyd gwrthwynebiad i'r diod cadarn ac nid oedd yr ynadon a roddai trwyddedau i dafarndai yn gwbl fyddar i'w dadleuon.
Enwau'r tafarndai a fu'n gwasanaethu Pen-y-groes oedd:
- Tafarn yr Afr (neu'r Goat), ger Gorsaf reilffordd Pen-y-groes. Yn dal ar agor.
- Tafarn y Pembroke Arms, gyferbyn â Thafarn y Stag. Caewyd 1891-2.
- Tafarn y Prince Llewelyn ger safle'r Ganolfan Hamdden heddiw. Caewyd 1903.
- Tafarn y Prince of Wales ger safle'r Neuadd y Farchnad. Caewyd 1903.
- Gwesty'r Red Lion, ar ben uchaf Heol y Dwr, gyferbyn â Capel Soar. Caewyd 1956.
- Tafarn y Stag, hen dafarn oes y coets fawr, a safai wrth hen groesffordd y dyffryn, ac sydd bellach yn eiddo i gwmni Siop Griffiths fel caffi'r Orsaf
- Gwesty Victoria, adeilad sy'n dal i sefyll ar gornel prif groesffordd y pentref. Caewyd 2010.
Am fwy o fanylion am y tafarndai unigol, gweler yr erthyglau amdanynt.
Ceir sôn hefyd fod tafarn o'r enw "Traveller's Rest" ger Treddafydd a thafarn gyferbyn â'r Red Lion.[1]
Tafarn yr Afr yw'r unig dafarn sydd yn dal ar agor. Rhaid cofio, fodd bynnag, am Glwb y Cyn-filwyr yn y pentref sydd yn gwasanaethu fel clwb yfed ymysg pethau eraill.