Tafarn y Pembroke Arms

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn ar brif stryd Pen-y-groes oedd y Pembroke Arms, a godwyd ar dir yn perthyn i Ystad Bryncir. Sonnir amdani ar ddogfen adeg pennu'r degwm ym 1841.[1] Yr adeg honno, dyn o'r enw Thomas Jones oedd y tafarnwr, a'r perchennog oedd Syr Joseph Huddart, Ystad Bryncir. Safai gyferbyn â thafarn y Stag. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai J. Roberts oedd y tafarnwr.[2]

Ceir sawl hanes am y dafarn, y rhan fwyaf ohonynt yn tueddu i awgrymu mai un o dafarnau llai trefnus yr ardal ydoedd. Er enghraifft, cafodd y dafarnwraig ar y pryd, Jane Evans, ei dirwyo ym 1873 am werthu diod nad oedd yn fesur llawn.[3] Bum mlynedd yn ddiweddarach, bu goryfed yno a arweiniodd at i un o'r meddwon a oedd yno gael ei drywanu gan un arall a oedd wedi meddwi'n rhacs.[4] Ym 1880, cyhuddwyd y perchennog, Robert Thomas, o ganiatáu meddwdod yn y dafarn, er na chafodd ei ddirwyo.[5] Ni ellir bod yn siŵr pa mor brysur oedd y dafarn. Yn ôl Cyfrifiad 1881, roedd Robert Thomas nid yn unig yn cadw tafarn y Pembroke ond hefyd yn gweithio fel chwarelwr trwy'r dydd - tybed a oedd yn rhy flinedig i gadw trefn bob amser?[6]

Ym 1891, prynwyd y dafarn oddi ar Ystad Bryncir yn arwerthiant mawr yr ystad honno, a hynny gan ŵr o Bwllheli, Solomon Jones; y pris oedd £250. Aeth Solomon Jones ati i geisio sicrhau tenant newydd, ond (mae'n ymddangos) heb lwyddiant, gan nad oedd y dafarn wedi bod yn agored ers sawl mis pan geisiodd adnewyddu'r drwydded. Roedd y mudiad dirwest ar ei gryfaf bryd hynny a gwrthwynebodd eu twrnai ail-drwyddedu'r dafarn pan ystyriodd yr ynadon yr achos. Derbyniodd y llys y ddadl nad oedd wedi bod yn agored ers amser ac felly nad oedd mo'i hangen. Dyna oedd diwedd yr adeilad fel tafarn, ac fe'i trowyd yn dŷ.[7]

Cyfeiriadau

  1. LlGC, Map a Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llanllyfni
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  3. North Wales Chronicle, 17.5.1873, t.5
  4. North Wales Express, 8.2.1878, t.6
  5. North Wales Express, 22.10.1880, t.8
  6. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1881
  7. Y Genedl Gymreig, 7.9.1892, t.5; North Wales Express, 16.9.1892, t.7; North Wales Chronicle, 17.9.1892, t.6