Tafarn yr Afr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn yr Afr (neu'r "Goat" ar dafod leferydd y fro) yn Ffordd yr Orsaf, Pen-y-groes yw'r unig dafarn sydd yn dal ar agor yn y pentref heddiw (2023). Mae'n sefyll mewn man oedd yn lle strategol hanner ffordd rhwng Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes a'r orsaf a hynny ar adeg pan oedd sawl bargen yn cael ei tharo dros beint. Er nad oes sicrwydd pryd yr adeiladwyd y dafarn, mae'n debyg y digwyddodd hynny ar ôl agor y rheilffordd, pan ddatblygwyd y rhan honno o'r pentref. Yn sicr, roedd wedi agor cyn 1892[1] ac ym 1903 adroddwyd yn y wasg fod cwmni Greenall Whitley wedi prynu'r lle. Yn y Sesiwn Drwyddedu y flwyddyn honno, a than bwysau oddi wrth y Mudiad Dirwest a oedd yn gwrthwynebu pob tafarn, gwrthododd yr ynadon adnewyddu trwyddedau tafarnau eraill Greenall Whitley ym Mhen-y-groes, sef Tafarn y Prince Llewelyn a Thafarn y Prince of Wales ynghyd â Thafarn y Bermo yn Llanllyfni.[2]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQA/L/9/98
  2. Gwalia, 10.3.1903, t.8