Gwesty'r Red Lion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn ar Stryd Fawr Pen-y-groes oedd Gwesty'r Red Lion, a "Red Lion" yw enw'r adeilad hyd heddiw. Gan fod Pen-y-groes yn tyfu'n bentref sylweddol ac yn ganolfan siopau yn ail hanner y 19g., bu cynnydd yn nifer y tafarnau a wasanaethai'r ardal. Mae'n debyg (a barnu oddi wrth y Cyfrifiad) fod y Red Lion wedi agor yn ystod y 1870au. Gallwn fod yn sicr ei bod yn agored erbyn mis Chwefror 1877 gan fod achos ym Mrawdlys Caernarfon yn cyfeirio at y lle.[1] Ym 1881 yr oedd Ann Roberts, gwraig weddw, yn cadw'r dafarn. Dynes leol 49 oed oedd hi, gyda dau blentyn i'w cynnal, ac yr oedd ei brawd, a oedd yn ddyn glo, hefyd yn byw yno, ynghyd â gwas.

Ym 1891, yr oedd Ann Roberts yn dal i gadw'r lle. Ni enwir y dafarn yn nogfen y Cyfrifiad ond fe'i rhestrwyd fel tŷ ar y Stryd Fawr; serch hynny, yr oedd Ann Roberts wedi cael ei disgrifio fel ceidwad tŷ tafarn ac felly gallwn fod yn bur sicr mai sôn am y Red Lion y mae'r ddogfen. Yr oedd ei brawd, y dyn glo, yn dal i fyw gyda hi; ac felly yr oedd hi ym 1901, ond erbyn hynny, ac Ann Roberts yn agosáu at ei 70 oed, yr oedd hi wedi symud o'r Red Lion ym 1897[2] gyda'i brawd i Ogwen House gerllaw. Y disgrifiad ohoni erbyn hynny oedd dynes yn "byw ar ei harian", sydd yn tueddu i awgrymu fod busnes y Red Lion wedi bod yn ddigon llewyrchus yn ei dwylo.

Rywbryd tua dechrau'r ganrif ddiwethaf, mae'n debyg, yr ailadeiladwyd y dafarn yn ei ffurf bresennol, a barnu oddi wrth newid yn safon y ddarpariaeth (yn ôl y Cyfrifiad) a hefyd natur y bensaernïaeth, sy'n adlewyrchu dylanwadau mudiad celf a chrefft y cyfnod yn ei hadeiladwaith. Nid oes sicrwydd pwy a adeiladodd y dafarn ar ei newydd wedd, ond dichon mai dyn o’r enw Robert H. Evans a wnaeth hynny. Cafodd hwnnw ei eni tua 1871 yng Nghricieth, yn fab i Griffith Evans a arferai gadw’r Black Lion ym Mhwllheli yn ystod y 1890au, ac yn ôl achos yn Llys Trwyddedu’r Ynadon dywedwyd ei fod wedi bod yn byw yn y Red Lion ym Mhen-y-groes er 1896.[3] Yr oedd y dafarn erbyn hyn yn cael ei galw'n westy, a Robert Evans yn cael ei ddisgrifio yn nogfennau’r Cyfifiad ym 1901 fel ceidwad gwesty a meistr y tŷ. Yn ogystal â Robert Evans, yr oedd rheolwraig yn byw yn y gwesty a byddai'n gweithio hefyd y tu ôl i'r bar. Winifred Roberts oedd ei henw, dynes 24 oed yn hanu o Ffestiniog. Yr oedd gwas cyffredinol yn byw yno hefyd, ynghyd â William G. Evans, 35 oed, yntau hefyd yn hanu o Gricieth - tybed, yng ngoleuni'r cyfenw a oedd yn gyffredin rhyngddo fo a Robert, ai brawd hŷn Robert ydoedd. Mae William yn cael ei ddisgrifio fel gyrrwr ac ostler (sef dyn a ofalai am geffylau). Yn sicr, mae mynediad at stabl neu gertws yn rhan o du blaen yr adeilad.

Ym 1904, trosglwyddwyd y drwydded dros dro i Elias Hughes, Llanfrothen; tybed ai perthynas i Winifred, rheolwraig Robert Evans ydoedd. Bu newid eto o ran y rhai a oedd yn rhedeg y gwesty ym 1906. Robert James Edwards, gŵr 42 oed a aned yng Nghaer oedd y tafarnwr newydd,[4] gyda’i wraig Catherine a hanai o Rhuthun. Diddorol yw sylwi ar hanes y mab a oedd yn 16 oed ym 1906: fe gafodd ei eni yn Nhreharris, nid nepell o Abercynon a Merthyr Tudful. Daeth y teulu i Ben-y-groes o Ynysowen ger Merthyr. Dyma deulu, mae’n amlwg, a oedd wedi arfer symud o fan i fan; serch hynny roeddent ill tri yn Gymry Cymraeg [5]

Parhaodd y gwesty’n agored tan y 1950au – mae cofnod i Sefydliad y Merched Y Groeslon ddathlu 21 mlynedd ers ei ffurfio trwy gynnal swper yno ym 1952. Awgryma hyn fod y Red Lion yn lle ‘parchus’ yr adeg honno, yn hytrach na thafarn gyffredin.[6]

Daeth y Red Lion i’r newyddion ym 1958, fodd bynnag, a hynny am reswm arswydus. Bu farw Marjorie Buckland yno wedi i’w gŵr ei lladd; yn ddiweddarach cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar am ddynladdiad.[7] Caeodd y dafarn yn fuan ar ôl i hynny ddigwydd, a bu’n gartref i nifer o fusnesau ac ati. Am ychydig yn y 1980au bu’n siop modelau. Yn 2007, symudodd teulu yno o Essex – er iddynt hanu o Nigeria’n wreiddiol, ac fe sefydlwyd Eglwys Watersprings yno, sydd yn dal i ffynnu. Y tu ôl i’r fenter oedd Margaret (neu Maggie) Ogunbanwo. Bu'n rhedeg caffi yn yr adeilad am rai blynyddoedd yn cynnig cymysgedd o fwydydd Cymreig ac Affricanaidd eu naws. Sefydlodd gwmni Maggie’s Exotic Foods i gynhyrchu sawsiau a sbeisys. Mae’r busnes yn dal i ffynnu er nad oes caffi yno bellach ac mae’r teulu wedi dod yn rhan o’r gymuned Gymraeg. Mae mab y teulu, Sage Todz, yn rapiwr sydd yn perfformio yn y Gymraeg a Saesneg; mae ganddo lawer o ddilynwyr ar YouTube.

Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, 1.3.1877, t.5
  2. Yr Herald Cymraeg, 4.5.1897, t.4
  3. Y Genedl Gymreig, 16.10.1900, t.6
  4. Yr Herald Cymraeg, 1.5.1906, t.5
  5. Yr Herald Cymraeg, 23.2.1904, t.5; 6.3.1906, t.8; Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1871-1911
  6. Hanes y Groeslon (Caernarfon, 2000), t.98-9
  7. Gwefan Black Kalendar [1], cyrchwyd 28.6.2022