Sefydliad y Merched Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dechreuwyd Sefydliad y Merched yn Y Groeslon ym 1931, gan gyfarfod yn Neuadd Y Groeslon. Mrs Henry K. Jones oedd y Llywydd, a gwraig y ficer yn Is-lywydd. Yr arfer oedd cwrdd ar nos Lun gyntaf bob mis. Yr oedd llawer o'u gweithgareddau wedi'u hanelu at roi cymorth i'r neuadd glirio'r ddyled; ymysg y gweithgareddau hyn roedd "bazaars" ac arwerthiannau o nwyddau ail-law. Bu'r Sefydliad yn cyfrannu at yr ymgyrch cynhyrchu bwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd trwy gynnal sesiynau cyson yn Ysgol Penfforddelen i botelu ffrwythau - proses a fyddai'n cadw ffrwythau'n ffres am gyfnod hir dros y gaeaf. Yr oedd rhyw Miss Bladon yn dysgu crosio a gwnio i'r aelodau yn gyson. Cafwyd parti yng Ngwesty'r Llew Coch, Pen-y-groes ym 1952 i ddathlu 21 mlynedd ers ffurfio'r Sefydliad, gyda'r Fonesig Olwen Carey-Evans, merch David Lloyd George yn wraig wadd. Pan ddathlwyd pen-blwydd 50 mlynedd, roedd tair o'r aelodau gwreiddiol yn parhau'n aelodau.[1]

Daeth y Sefydliad i ben yn y Groeslon ym 1995, gyda'r aelodaeth wedi lleihau ac efallai oherwydd y gystadleuaeth oddi wrth Merched y Wawr Y Groeslon oedd wedi denu'r to iau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. ‘’Hanes y Groeslon’’, (Caernarfon, 2000), tt.98-9