Merched y Wawr Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd cangen o'r mudiad i ferched, Merched y Wawr, yn Y Groeslon ym 1977, ac mae'r gangen yn dal i ffynnu hyd heddiw. Mrs Megan Williams, Cefn Tryfan, oedd y Llywydd cyntaf. Mae nifer o'r aelodau gwreiddiol hefyd yn dal i fynychu'r cyfarfodydd. Gŵr gwadd y cyfarfod cyntaf oedd y Parch. Gareth Maelor. Ymysg y gweithgareddau oedd dawnsio gwerin, gosod blodau, cynnal ffug-eisteddfodau a chynnal teithiau cerdded. Mae'r gangen wedi cyfarfod yn Neuadd Y Groeslon ar hyd y blynyddoedd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Hanes y Groeslon (Caernarfon, 2000), t.99