Gareth Maelor Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Gareth Maelor)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Y Gareth Maelor ifanc yn archwilio cymorthion clyweled

Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, treuliodd gyfnod yn y Weinidogaeth Bresbyteraidd yn Harlech ac Abersoch, gan ddod dan ddylanwad rhai a arloesai ym maes defnyddio deunyddiau clyweled. Wedyn, daeth y Parchedig Gareth Maelor Jones i Uwchgwyrfai fel warden Cartref Bontnewydd; yn y man fe symudodd i fod yn bennaeth yr Adran Ysgrythur yn Ysgol Dyffryn Nantlle, gan fyw ym mhentref Dinas, Llanwnda. Bu'n gyfrifol, ar y cyd â'r Parch. Harri Parri, am sefydlu Gwasg Tŷ ar y Graig, a fu'n gyfrifol hefyd am ryddhau nifer o recordiau, yn cynnwys recordiau cyntaf y canwr enwog Trebor Edwards.[1] Yn ystod ei gyfnod fel athro ym Mhen-y-groes, bu'n rhannol gyfrifol am sefydlu siop lyfrau Cymraeg a fu'n weddol lwyddiannus am nifer o flynyddoedd. Fe ymddeolodd o'r swydd honno ym 1996.[2]

Fe'i hurddwyd yn Dderwydd er Anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cylch, Meifod, 2003.

Roedd Gareth Maelor (fel y'i gelwid yn aml, heb y Jones) yn awdur toreithiog, yn bennaf ar themâu crefyddol - ond heb fod yn drymaidd, ac wedi'u hanelu at ddarllenwyr iau. Bu hefyd yn olygydd cylchgrawn plant y Methodistiaid Calfinaidd.[3]

Bu farw yn 2006.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Na-Nog, [1], cyrchwyd 30.07.2019
  2. Gwefan "North Wales Live", [2], cyrchwyd 30.07.2019
  3. Gwybodaeth bersonol; manylion oddi ar Wicipedia.