Cartref Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Cartref Bontnewydd fel cartref i blant amddifaid ym 1907 yn Y Bontnewydd. Gweinyddid y Cartref gan Ymddiriedolaeth yn perthyn i enwad y Methodistiaid Calfinaidd. Fe'i sefydlwyd o ganlyniad i weledigaeth Robert Bevan Ellis ac fe arhosodd yn agored yn unol â'r weledigaeth wreiddiol tan 1983. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gofalwyd am dros 500 o blant. Warden olaf y cartref oedd y Parch. Gareth Maelor.

Dywedir mai'r rheswm am i'r cartref gau oedd y duedd i symud i ffwrdd oddi wrth y cysyniad o gartrefi i blant a hyrwyddo maethu fel y dull dewisol o ofalu am blant mewn angen gofal. Fe'i hail-agorwyd fel canolfan leoli deuluaidd dan bartneriaeth rhwng yr ymddiriedolwyr a'r Cyngor Sir. Ail-agorwyd rhan o'r adeilad gan Gyngor Sir Gwynedd ym 1988 fel cartref plant, gan brydlesu'r adeilad oddi wrth yr ymddiriedolaeth.

Gwerthwyd yr holl adeiladau yn 2015, a bellach mae un hanner yn dŷ preifat a'r llall yn swyddfa Age Cymru.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau