Treddafydd
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Treddafydd yn rhes o dai teras ym mhentref Pen-y-groes. Am flynyddoedd y rhain oedd y tai cyntaf yn y pentref y byddai teithiwr yn eu cyrraedd wrth deithio o Gaernarfon i Dremadog. Fe'u codwyd gan Robert Williams - y credir mai teiliwr ydoedd o ran ei alwedigaeth - a hynny ym 1836.[1] Telid £10 y flwyddyn am rent y tir nes i Ystad Bryncir werthu'r brydles rywbryd rhwng 1891 a 1898.[2] Mae'n debyg mai Treddafydd yw un o'r enghreifftiau cynharaf yng Ngwynedd o dai a godwyd ar gyfer gweithwyr diwydiannol, a hynny ar ffurf tai teras.