Chwarel y Fron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:57, 24 Chwefror 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel y Fron ger Mynydd Mawr, y Fron. Roedd yn rhannol ar ochr y bryn ac yn rhannol mewn twll. Yn y dyddiau cynnar fe'i galwyd yn Chwarel Fron y Tychan.[1]

Agorwyd hi o bosibl yn y 18g., ac erbyn 1813, roedd yn rhan o eiddo Cwmni Cilgwyn - er i Dr Lindsay ddweud mai tua 1830 y'i hagorwyd. Ar ôl cyfnod o segurdod, fe'i hail-agorwyd ym 1860; erbyn 1872 roedd y cynnyrch blynyddol wedi cyrraedd 1500 tunnell. Cyn hynny, ym 1868, roedd Chwarel y Fron a Chwarel Braich-rhydd wedi dod yn un.[2] Ym 1882, datblygwyd y chwarel yn sylweddol pan unwyd hi â chwarel yr Hen Fraich, pan oedd 62 o ddynion yn cael eu cyflogi yno, gan gynhyrchu dros 1,000 tunnell y flwyddyn. Yn dilyn dirywiad yn yr ugeinfed ganrif, parhaodd i weithredu dan O.J. Hughes a'i fab; ym 1937 7 o ddynion oedd yn gweithio yno, a pharhaodd ar agor ar raddfa fechan hyd y 1950au.[3][4]

Tan 1881, anfonwyd y llechi i lawr inclein Tramffordd John Robinson i gyrraedd Rheilffordd Nantlle. Wedyn, defnyddiwyd Tramffordd y Fron i anfon cynnyrch i lawr Inclein Bryngwyn i gyrraedd Cangen Bryngwyn o gwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru.[5]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

[6]

  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.239
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.218, 239
  3. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  4. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), t. 319.
  5. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), t. 319.
  6. Ysgrifennwch droednodyn fan hyn