Tramffordd y Fron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:50, 26 Tachwedd 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Tramffordd y Fron yn gledrffordd drac cul, tua 2'0" rhwng y cledrau a adeiladwyd rywbryd rhwng diwedd 1877 a 1881 (pan gafodd brydles i adeiladu lein, arol gwneud hynny o bosibl) i gludo llechi o Chwarel Braich, Chwarel y Fron a chwareli eraill yng nghyffiniau'r Fron at ben yr inclein a redodd i lawr at Reilffyrdd Cul Gogledd Cymru yn yr orsaf yn y Bryngwyn, o ba le y teithiai'r wagenni i'r gyffordd yn Dinas. Yn y fan honno, trosglwyddid y llwythi o lechi i dryciau'r lein fawr. Mae'n debyg fod injian stêm yn cael ei ddefnyddio i dynnu'r wagenni rhwng y chwarel a'r inclein; yn sicr, roedd gan Chwarel y Fron ddwy os nad tair injian o 1878 ymlaen.[1]

Cyn hyn, roedd Tramffordd John Robinson wedi cludo llechi'r Fron at Reilffordd Nantlle, ond roedd y dramffordd newydd, a ddefnyddiai'r un lled yr holl ffordd o wyneb y graig a'r melinau hyd at orsaf Dinas, yn fwy hwylus.

Rhedai'r lein ar hyd prif stryd y Fron, heibio Bwlch-y-llyn a thrwy cytin neu hafn a welir hyd heddiw, cyn ymuno ger pen yr inclein â'r tramffyrdd a ddeiai o Chwarel Moel Tryfan, Chwarel Cors-y-bryniau a Chwarel Alexandra yng nghyffiniau Rhgosgadfan.[2]

Roedd y dramffordd yn cael ei defnyddio tra oedd Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru'n weithredol.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), tt.262-3.
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.217, 228.