Chwarel y Fron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:27, 6 Tachwedd 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel y Fron ger Mynydd Mawr, y Fron.

Agorwyd hi o bosibl yn y 18g., er i Dr Lindsay ddweud mai tua 1830 y'i agorwyd. Ar ôl cyfnod o segurdod, fe'i hail-agorwyd ym 1860; erbyn 1872 roedd y cynnyrch blynyddol wedi cyrraedd 1500 tunnell. Erbyn yr amser hynny, roedd Chwarel y Fron a Chwarel Braich-rhydd wedi dod yn un.[1] Ym 1882, fe ddatblygwyd hi'n arw pan unwyd hi â chwarel yr Hen Fraich, pan oedd 62 o ddynionyn cael eu cyflogi. gan gynhyrchu dros 1,000 tunnell y flwyddyn. Yn dilyn dirywiad yn yr ugeinfed ganrif, parhaodd i weithredu dan O.J. Hughes a'i fab; ym 1937 7 o ddynion oedd yn gweithio yno, a pharhaodd ar agor ar raddfa fechan hyd y 1950au.[2][3]

Tan 1881, anfonwyd y llechi i lawr inclein Tramffordd John Robinson i gyrraedd Rheilffordd Nantlle. Wedyn, defnyddiwyd Tramffordd y Fron i anfon cynnyrch i lawr Inclein Bryngwyn i gyrraedd Cangen reilffordd Bryngwyn o gwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

[5]

  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.218
  2. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)
  3. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), t. 319.
  4. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry’’, (Newton Abbot, 1974), t. 319.
  5. Ysgrifennwch droednodyn fan hyn