Tramffordd John Robinson
Adeiladwyd Tramffordd John Robinson gan ŵr o'r enw hwnnw i gludo llechi o'i chwarel, Chwarel y Fron, gan ffurfio cyswllt efo traciau Rheilffordd Nantlle ger Tal-y-sarn, er mwyn hwyluso cludo'r llechi i'r cei yng Nghaernarfon; ac, wedi i'r gangen o'r lein fawr hyd orsaf Nantlle agor, ar hyd y lein fawr honno at gwsmeriaid ledled Prydain. Weithiau, fe elwir y dramffordd hon yn Dramffordd Fron a Thal-y-sarn neu Reilffordd Tal-y-sarn.[1]
Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth Chwarel Tal-y-sarn yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb ymyrryd â buddion cynhyrchwyr llechi eraill. Y bwriad oedd adeiladu tramffordd rhyw filltir o hyd ar led 3' 6" (sef yr un lled â chledrau Rheilffordd Nantlle) a chreu incléin hir 700 llath o hyd o'r ucheldir i lawr trwy Chwarel Tal-y-sarn a chysylltu â thraciau Rheilffordd Nantlle ar waelod y chwarel honno. Cafodd yr hawl, am rent enwol o swllt y flwyddyn, i adeiladu'r lein ar draws tir comin y Goron o Chwarel y Fron. Y disgwyliad oedd y byddai'r fenter yn costio £1850, y gellid ei hagor o fewn tri mis, ac y byddai'n lleihau'n sylweddol y gost o gludo llechi i Gei Caernarfon.
Yn y pen draw, oherwydd anghydweld ynglŷn â ffiniau, yr oedd angen incléin hirach ac ni agorwyd y dramffordd tan 1868. Prynwyd 100 o wagenni i redeg rhwng y chwarel a phen draw'r lein (ac efallai ar y darn o Reilffordd Nantlle rhwng Pant ger Caernarfon a'r Cei).[2] Wedi ei chwblhau, roedd y lein yn 1½ milltir o hyd, gan redeg o Chwarel y Fron/Hen Fraich ar hyd ffordd pentref Y Fron,[3] wedyn ar draws y tir agored rhwng Bwlch-y-llyn a'r Fron,[4] heibio Rhes Bryntwrog a Greenland ac wedyn hyd at Pen-deitsh, lle aeth i dir Chwarel Tal-y-sarn a chyrraedd yr incléin.[5] Tynnid y wagenni gan geffylau (er bod sôn am ddefnyddio injan stêm a wnaed gan de Winton, Caernarfon, o 1878 ymlaen).[6][7]
Wedi iddi agor, gwelodd Hugh Beaver Roberts, prif berchennog Chwarel Braich rinwedd yn y fenter, a chytunwyd i adeiladu cangen, a agorwyd 1871-2, [8]o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin rhwng Gwyndy a Dyffryn Twrog, gan ymuno â'r brif lein nid nepell o Fwlch-y-llyn a Ffriddlwyd. Trefnwyd y byddai Roberts yn darparu ei gyffylau ei hun ar gyfer tynnu wagenni o Fraich.[9]
Byrhoedlog oedd oes y dramffordd hon. Fe'i caewyd erbyn 1881, ac adeiladwyd Tramffordd y Fron, ar led o 2', i gludo cynnyrch y chwareli at ben uchaf Inclein Bryngwyn, ac o'r pwynt hwnnw rhedai'r wagenni ar hyd cledrau Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru i orsaf Cyffordd Dinas.[10]; codwyd cledrau'r dramffordd 3' 6" ym 1882, gan eu defnyddio i wneud y lein i'r Bryngwyn.[11]
Cyfeiriadau
- ↑ J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood, 1981), t.236
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.248, 250
- ↑ Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.190-1
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.217
- ↑ Mapiau Ordnans 25" i'r filltir, Caernarvonshire XXI.5 & 9
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.250;
- ↑ V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
- ↑ V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
- ↑ Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.91-2
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.217, 250
- ↑ V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124