Cae'r Gors

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:59, 4 Mai 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cae'r Gors yn "furddun rheoledig" tua 1975
Cae'r Gors wedi'i adfer
Cegin Cae'r Gors heddiw


Mae Cae'r Gors yn hen dyddyn yn Rhosgadfan a fu'n gartref plentyndod i Dr. Kate Roberts. Symudodd ei theulu yno'n fuan ar ôl 1891.[1]Saif ar y ffordd o ben Gallt Pen Gwrli i'r groesffordd ger hen gapel. Mae caeau Cae'r Gors erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel meysydd Clwb Pêl-droed Mountain Rangers.

Mae'r tŷ yn cael ei ddangos ar fap degwm 1839 a barn y Comisiwn Brenhinol yw ei fod yn dyddio o'r 19g. cynnar. Mae'n nodweddiadol o fythynnod y cyfnod hwnnw yn yr ardal: sef dwy ystafell a chroglofft, gyda beudy dan yr un to, ond gyda mynedfa iddo o'r buarth ac nid o'r tŷ..[2]

Mae ffilm amatur ddi-sain o'r agoriad ym 1965, sy'n dangos y Ddr Kate Roberts ynghyd â'r Dr. John Gwilym Jones a'i chyflwynodd; mae nifer helaeth o bobl leol, a ffigyrau cenedlaethol megis Elwyn Roberts (Plaid Cymru), Bedwyr Lewis Jones a Dafydd Glyn Jones hefyd i'w gweld yn y ffilm. Mae modd ei gwylio trwy glicio yma:[1]

Erbyn yr 1960au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ ym 1965 a'i gyflwyno i'r genedl er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel adfail rheoledig, gan nad oedd digon o arian i'w adfer yn iawn. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw deugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 2006-7, adferwyd y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Roedd Cyfeillion Cae'r Gors wedi ei ffurfio ym 1997 i geisio adfer y tŷ. Roedd nifer o Gymry amlwg yn aelodau o'r Cyfeillion, gyda'r actor enwog o Ros-lan a oedd wedi ymgartrefu yn y Groeslon, Guto Roberts yn ysgrifennydd cyntaf; trwy sicrhau grantiau, fe wnaed y gwaith, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlwyo a chyfarfod hefyd. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau ym 2013 a maes o law fe'i trosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais grwpiau addysgol sydd am weld y lle, er i'r Cyfeillion ddal i barhau er mwyn rhoi cefnogaeth.[3]

Erbyn hyn, ynghyd â bwthyn sydd wedi symud i Amgueddfa Werin Cymru, Llain Fadyn, dyma bron yr unig adeiladau sy'n tystio i arddull a dull dodrefnu tyddynod y chwarelwyr yn Uwchgwyrfai yn ystod y 19g a dechrau'r 20g.

Darllen pellach

Mae llyfr wedi ysgrifennu gan Dewi Tomos, sydd yn rhoi holl hanes Cae'r Gors a theulu Kate Roberts, sef Llyfr Lloffion Cae;'r Gors, Llyfrau Llafar Gwlad 72 (Llanrwst, 2009).

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Llandwrog, 1891
  2. Gwefan Coflein (cyrchwyd 15.4.2019) [2]
  3. Seiliwyd yr erthygl yn bennaf ar wybodaeth bersonol, Gwefan CADW (cyrchwyd 15.4.2019) [3]