Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:35, 1 Ebrill 2021 gan Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwellyn yw enw plasty bach sydd yn sefyll wrth ben uchaf Llyn Cwellyn. Mae'r llyn, ac hefyd Pont Cwellyn ac Afon Cwellyn, wedi'u henwi, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf Llanwnda, sydd bellach yn rhan o blwyf Betws Garmon ar gyrion mwyaf dwyreiniol Uwchgwyrfai. Yr oedd gan y teulu ystad fechan yng nghyffiniau'r llyn.

Sylfaenydd y teulu a ymsefydlodd yng Nghwellyn gan fabwysiadu'r enw fel cyfenw ar y teulu oedd Gruffydd ap Tudur Goch o Blas Nantlle.[1]

Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "a very mean building", a oedd gynt yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi cael perchnogion newydd.[2]

Roedd y teulu a oedd wedi mabwysiadu'r cyfenw Quellyn wedi symud o'r plasty rywbryd yn ystod y 18g, efallai i fferm arall, Cwm Bychan, yn yr un plwyf. Rywbryd cyn 1792, roedd ffermwr o'r enw William Jones wedi cymryd y lle ar brydles. Mae rhestr o'i eiddo pan farwodd yn dangos ei fod yn ffermwr ar raddfa weddol fawr am y cyfnod[3]. Roedd 5 ystafell yn y tŷ, a'r dodrefn yno'n werth £21.19.0c, ynghyd â gwerth £4.5.0c o fenyn. Roedd yno 100 o ddefaid a 35 o ŵyn, gwerth £36.2.6c i gyd; tarw gwerth £4.3.0c, 10 o fuchod, 10 o fustych, 10 llo blwydd a 9 o loi dwyflwydd, gwerth £108.9.0c; mochyn, gwair, offer fferm a llo arall (a restrwyd ar wahân am ryw reswm - eiddo oedd yn werth £208.9.0c i gyd. Roedd hyn yn swm nid ansylweddol i ffarmwr ar y pryd.

Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail na wyddys, mae ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn[4], ond mae Glenda Carr o'r un farn â'r Athro J Lloyd-Jones, sef ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu Cawellyn.[5]

Cymerodd y teulu eu cyfenw oddi wrth y lle - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai a wnaeth hyn (ar wahân i deulu Glynllifon).


Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 172, 229
  2. Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.229
  5. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.130.