Tramffordd John Robinson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:04, 1 Tachwedd 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Adeiladwyd Tramffordd John Robinson gan ŵr o'r enw hwnnw i gludo llechi o'i chwarel, Chwarel y Fron i gysylltu â thraciau Rheilffordd Nantlle yn ardal Tal-y-sarn, fel y gellid cludo'r llechi at y cei yng Nghaernarfon; ac wedi agor cangen o'r lein fawr hyd orsaf Nantlle ar hyd y lein fawr at gwsmeriaid ledled Prydain. Weithiau, fe elwir y dramffordd hon yn Dramffordd Fron a Thal-y-sarn neu Reilffordd Tal-y-sarn.[1]

Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth Chwarel Tal-y-sarn yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb fennu ar ddiddordebau cynhyrchwyr llechi eraill. Y bwriad oedd adeiladu tramffordd ryw filltrir o hyd ar led 3' 6" (sef yr un lled â chledrau Rheilffordd Nantlle) a chreu incléin hir 700 llath o hyd o'r ucheldir i lawr trwy Chwarel Tal-y-sarn i gysylltu â thraciau ar waelod y chwarel honno. Cafodd yr hawl, am rent enwol o swllt y flwyddyn, i adeiladu'r lein ar draws tir comin y Goron o Chwarel y Fron. Disgwylwyd mai £1850 fyddai cost y fenter, y gellid ei hagor o fewn tri mis, ac y byddai'n lleihau'r gost o gludo llechi i Gei Caernarfon yn sylweddol.

Mewn gwirionedd, oherwydd anghydweld ynglŷn â ffiniau, yr oedd angen incléin hirach ac ni agorwyd y dramffordd tan 1868. Prynwyd 100 o wagenni i redeg rhwng y chwarel a phen draw'r lein (ac efallai ar y darn o Reilffordd Nantlle rhwng Pant a'r Cei).[2] Yn y diwedd, roedd y lein yn 1½ milltir o hyd, yn rhedeg o Chwarel y Fron/Hen Fraich ar hyd ffordd pentref Y Fron,[3] wedyn ar draws y tir agored rhwng Bwlch-y-llyn a'r Fron,[4] heibio Rhes Bryntwrog a Greenland ac wedyn hyd at Pen-deitsh, lle aeth i dir Chwarel Tal-y-sarn ac at yr incléin.[5] Tynnwyd y wagenni gan geffylau (er bod sôn am ddefnyddio injan stêm a wnaed gan de Winton, Caernarfon, o 1878 ymlaen).[6][7]

Wedi iddi agor, gwelodd H.B. Roberts, rheolwr Chwarel Braich rinwedd yn y fenter, a chytunwyd i adeiladu cangen a agorwyd 1871-2, [8]o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin rhwng Gwyndy a Dyffryn Twrog, gan ymuno â'r brif lein nid nepell o Fwlch-y-llyn a Ffriddlwyd - yr oedd Roberts i ddarparu ei gyffylau ei hun ar gyfer tynnu wagenni o Fraich.[9]

Byrhoedlog oedd oes y dramffordd hon. Fe'i caewyd erbyn 1881, ac adeiladwyd Tramffordd y Fron ar led 2' i gludo cynnyrch i chwareli at ben uchaf Incléin Bryngwyn, lle aeth y wagenni ar hyd cledrau Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru i orsaf Cyffordd Dinas.[10]; codwyd cledrau'r dramffordd 3' 6" ym 1882, gan eu defnyddio i wneud y lein i'r Bryngwyn.[11]


Cyfeiriadau

  1. J.I.C. Boydf, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood, 1981), t.236
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.248, 250
  3. Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.190-1
  4. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.217
  5. Mapiau Ordnans 25" i'r filltir, Caernarvonshire XXI.5 & 9
  6. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.250;
  7. V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
  8. V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
  9. Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.91-2
  10. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.217, 250
  11. V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124