Cae'r Gors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Cae'r Gors yn furddun, Rhosgadfan c1975.jpg|bawd|400px|de|Cae'r Gors yn "furddun rheoledig" tua 1975]]
[[Delwedd:Cae'r Gors yn furddun, Rhosgadfan c1975.jpg|bawd|400px|de|Cae'r Gors yn "furddun rheoledig" tua 1975]]
[[Delwedd:Cae'r gors.jpg|bawd|400px|de|Cae'r Gors wedi'i adfer]]
[[Delwedd:Cae'r gors.jpg|bawd|400px|de|Cae'r Gors wedi'i adfer]]
[[Delwedd:Cae'r gors tu mewn.jpg|bawd|de|Cegin Cae'r Gors heddiw]]
[[Delwedd:Delwedd:Cae-r-gors.jpg|bawd|400px|de|Cegin Cae'r Gors heddiw]]





Fersiwn yn ôl 17:32, 15 Ebrill 2019

Cae'r Gors yn "furddun rheoledig" tua 1975
Cae'r Gors wedi'i adfer
Delwedd:Delwedd:Cae-r-gors.jpg
Cegin Cae'r Gors heddiw


Mae Cae'r Gors yn hen dyddyn yn Rhosgadfan a fu'n gartref plentyndod i Dr. Kate Roberts. Symudodd ei theulu yno'n fuan ar ôl 1891.[1]Saif ar y ffordd o ben Gallt Pen Gwrli i'r groesffordd ger hen gapel. Mae caeau Cae'r Gors erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel meysydd Clwb Pêl-droed Mountain Rangers.

Mae'r tŷ yn cael ei ddangos ar fap degwm 1839 a barn y Comisiwn Brenhinol yw ei fod yn dyddio o'r 19g. cynnar. Mae'n nodweddiadol o fythynnod y cyfnod hwnnw yn yr ardal: sef dwy ystafell a chroglofft, gyda beudy dan yr un to, ond gyda mynedfa iddo o'r buarth ac nid o'r tŷ..[2]

Mae ffilm amatur ddi-sain o'r agoriad ym 1965, sy'n dangos y Ddr Kate Roberts ynghyd â'r Dr. John Gwilym Jones a'i chyflwynodd; mae nifer helaeth o bobl leol, a ffigyrau cenedlaethol megis Elwyn Roberts (Plaid Cymru), Bedwyr Lewis Jones a'r Dr. Dafydd Glyn Jones hefyd i'w gweld yn y ffilm. Mae modd ei gwylio trwy glicio yma:[1]

Erbyn yr 1960au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ ym 1965 a'i gyflwyno i'r genedl er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel adfail rheoledig, gan nad oedd digon o arian i'w hadfer yn iawn. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw deugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 2006-7, adferwyd y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Roedd Cyfeillion Cae'r Gors wedi ei ffurfio ym 1997 i geisio adfer y tŷ. Roedd nifer o Gymry amlwg yn aelodau o'r Cyfeillion, gyda'r actor enwog o Ros-lan a oedd wedi ymgartrefu yn y Groeslon, Guto Roberts yn ysgrifennydd cyntaf; trwy sicrhau grantiau, fe wnaed y gwaith, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlwyo a chyfarfod hefyd. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau ym 2013 a maes o law fe'i drosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais grwpiau addysgol sydd am weld y lle, er i'r Cyfeillion ddal i barhau er mwyn rhoi cefnogaeth.[3]

Erbyn hyn, ynghyd â bwthyn sydd wedi symud i Amgueddfa Werin Cymru, Llain Fadyn, dyma bron yr unig adeiladau sy'n tystio i arddull a dull dodrefnu tyddynod y chwarelwyr yn Uwchgwyrfai yn ystod y 19g a dechrau'r 20g.

Darllen pellach

Mae llyfr wedi ysgrifennu gan Dewi Tomos, sydd yn rhoi holl hanes Cae'r Gors a theulu Kate Roberts, sef Llyfr Lloffion Cae;'r Gors, Llyfrau Llafar Gwlad 72 (Llanrwst, 2009).

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Llandwrog, 1891
  2. Gwefan Coflein (cyrchwyd 15.4.2019) [2]
  3. Seiliwyd yr erthygl yn bennaf ar wybodaeth bersonol, Gwefan CADW (cyrchwyd 15.4.2019) [3]