Tramffordd John Robinson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Adeiladwyd '''Tramffordd John Robinson''' gan [[John Robinson|ŵr o'r enw hwnnw]] i gludo llechi o'i chwarel, [[Chwarel y Fron]] | Adeiladwyd '''Tramffordd John Robinson''' gan [[John Robinson|ŵr o'r enw hwnnw]] i gludo llechi o'i chwarel, [[Chwarel y Fron]], gan ffurfio cyswllt efo traciau [[Rheilffordd Nantlle]] ger [[Tal-y-sarn]], er mwyn hwyluso cludo'r llechi i'r cei yng Nghaernarfon; ac, wedi i'r gangen o'r lein fawr hyd [[Gorsaf reilffordd Nantlle|orsaf Nantlle]] agor, ar hyd y lein fawr honno at gwsmeriaid ledled Prydain. Weithiau, fe elwir y dramffordd hon yn ''Dramffordd Fron a Thal-y-sarn'' neu ''Reilffordd Tal-y-sarn''.<ref>J.I.C. Boyd, ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', Cyf. 1, (Oakwood, 1981), t.236</ref> | ||
Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth [[Chwarel Tal-y-sarn]] yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb | Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth [[Chwarel Tal-y-sarn]] yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb ymyrryd â buddion cynhyrchwyr llechi eraill. Y bwriad oedd adeiladu tramffordd ryw filltrir o hyd ar led 3' 6" (sef yr un lled â chledrau Rheilffordd Nantlle) a chreu incléin hir 700 llath o hyd o'r ucheldir i lawr trwy Chwarel Tal-y-sarn a chysylltu â thraciau Rheilffordd Nantlle ar waelod y chwarel honno. Cafodd yr hawl, am rent enwol o swllt y flwyddyn, i adeiladu'r lein ar draws tir comin y Goron o Chwarel y Fron. Y disgwyliad oedd y byddai'r fenter yn costio £1850, y gellid ei hagor o fewn tri mis, ac y byddai'n lleihau'n sylweddol y gost o gludo llechi i Gei Caernarfon. | ||
Yn y pen draw, oherwydd anghydweld ynglŷn â ffiniau, yr oedd angen incléin hirach ac ni agorwyd y dramffordd tan 1868. Prynwyd 100 o wagenni i redeg rhwng y chwarel a phen draw'r lein (ac efallai ar y darn o Reilffordd Nantlle rhwng Pant ger Caernarfon a'r Cei).<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.248, 250</ref> Wedi ei chwblhau, roedd y lein yn 1½ milltir o hyd, gan redeg o Chwarel y Fron/Hen Fraich ar hyd ffordd pentref [[Y Fron]],<ref>Alun John Richards, ''The Slate Railways of Wales'', (Llanrwst, 2001), tt.190-1</ref> wedyn ar draws y tir agored rhwng [[Bwlch-y-llyn]] a'r Fron,<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.217</ref> heibio Rhes Bryntwrog a Greenland ac wedyn hyd at Pen-deitsh, lle aeth i dir Chwarel Tal-y-sarn a chyrraedd yr incléin.<ref>Mapiau Ordnans 25" i'r filltir, Caernarvonshire XXI.5 & 9</ref> Tynnid y wagenni gan geffylau (er bod sôn am ddefnyddio injan stêm a wnaed gan de Winton, Caernarfon, o 1878 ymlaen).<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.250; </ref><ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), t.124</ref> | |||
Wedi iddi agor, gwelodd [[H.B. Roberts]], rheolwr [[Chwarel Braich]] rinwedd yn y fenter, a chytunwyd i adeiladu cangen a agorwyd 1871-2, <ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), t.124</ref>o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin rhwng Gwyndy a Dyffryn Twrog, gan ymuno â'r brif lein nid nepell o Fwlch-y-llyn a Ffriddlwyd | Wedi iddi agor, gwelodd [[H.B. Roberts]], rheolwr [[Chwarel Braich]] rinwedd yn y fenter, a chytunwyd i adeiladu cangen a agorwyd 1871-2, <ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), t.124</ref>o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin rhwng Gwyndy a Dyffryn Twrog, gan ymuno â'r brif lein nid nepell o [[Bwlchc-y-llyn|Fwlch-y-llyn]] a Ffriddlwyd. Trefnwyd y byddai Roberts yn darparu ei gyffylau ei hun ar gyfer tynnu wagenni o Fraich.<ref>Alun John Richards, ''The Slate Railways of Wales'', (Llanrwst, 2001), tt.91-2</ref> | ||
Byrhoedlog oedd oes y dramffordd hon. Fe'i caewyd erbyn 1881, ac adeiladwyd [[Tramffordd y Fron]] ar led 2' i gludo cynnyrch | Byrhoedlog oedd oes y dramffordd hon. Fe'i caewyd erbyn 1881, ac adeiladwyd [[Tramffordd y Fron]] ar led 2' i gludo cynnyrch y chwareli at ben uchaf [[Inclein Bryngwyn]], ac o'r pwynt hwnnw rhedai'r wagenni ar hyd cledrau [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] i [[Gorsaf reilffordd Dinas|orsaf Cyffordd Dinas]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.217, 250</ref>; codwyd cledrau'r dramffordd 3' 6" ym 1882, gan eu defnyddio i wneud y lein i'r Bryngwyn.<ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), t.124</ref> | ||
Fersiwn yn ôl 18:25, 8 Ionawr 2022
Adeiladwyd Tramffordd John Robinson gan ŵr o'r enw hwnnw i gludo llechi o'i chwarel, Chwarel y Fron, gan ffurfio cyswllt efo traciau Rheilffordd Nantlle ger Tal-y-sarn, er mwyn hwyluso cludo'r llechi i'r cei yng Nghaernarfon; ac, wedi i'r gangen o'r lein fawr hyd orsaf Nantlle agor, ar hyd y lein fawr honno at gwsmeriaid ledled Prydain. Weithiau, fe elwir y dramffordd hon yn Dramffordd Fron a Thal-y-sarn neu Reilffordd Tal-y-sarn.[1]
Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth Chwarel Tal-y-sarn yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb ymyrryd â buddion cynhyrchwyr llechi eraill. Y bwriad oedd adeiladu tramffordd ryw filltrir o hyd ar led 3' 6" (sef yr un lled â chledrau Rheilffordd Nantlle) a chreu incléin hir 700 llath o hyd o'r ucheldir i lawr trwy Chwarel Tal-y-sarn a chysylltu â thraciau Rheilffordd Nantlle ar waelod y chwarel honno. Cafodd yr hawl, am rent enwol o swllt y flwyddyn, i adeiladu'r lein ar draws tir comin y Goron o Chwarel y Fron. Y disgwyliad oedd y byddai'r fenter yn costio £1850, y gellid ei hagor o fewn tri mis, ac y byddai'n lleihau'n sylweddol y gost o gludo llechi i Gei Caernarfon.
Yn y pen draw, oherwydd anghydweld ynglŷn â ffiniau, yr oedd angen incléin hirach ac ni agorwyd y dramffordd tan 1868. Prynwyd 100 o wagenni i redeg rhwng y chwarel a phen draw'r lein (ac efallai ar y darn o Reilffordd Nantlle rhwng Pant ger Caernarfon a'r Cei).[2] Wedi ei chwblhau, roedd y lein yn 1½ milltir o hyd, gan redeg o Chwarel y Fron/Hen Fraich ar hyd ffordd pentref Y Fron,[3] wedyn ar draws y tir agored rhwng Bwlch-y-llyn a'r Fron,[4] heibio Rhes Bryntwrog a Greenland ac wedyn hyd at Pen-deitsh, lle aeth i dir Chwarel Tal-y-sarn a chyrraedd yr incléin.[5] Tynnid y wagenni gan geffylau (er bod sôn am ddefnyddio injan stêm a wnaed gan de Winton, Caernarfon, o 1878 ymlaen).[6][7]
Wedi iddi agor, gwelodd H.B. Roberts, rheolwr Chwarel Braich rinwedd yn y fenter, a chytunwyd i adeiladu cangen a agorwyd 1871-2, [8]o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin rhwng Gwyndy a Dyffryn Twrog, gan ymuno â'r brif lein nid nepell o Fwlch-y-llyn a Ffriddlwyd. Trefnwyd y byddai Roberts yn darparu ei gyffylau ei hun ar gyfer tynnu wagenni o Fraich.[9]
Byrhoedlog oedd oes y dramffordd hon. Fe'i caewyd erbyn 1881, ac adeiladwyd Tramffordd y Fron ar led 2' i gludo cynnyrch y chwareli at ben uchaf Inclein Bryngwyn, ac o'r pwynt hwnnw rhedai'r wagenni ar hyd cledrau Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru i orsaf Cyffordd Dinas.[10]; codwyd cledrau'r dramffordd 3' 6" ym 1882, gan eu defnyddio i wneud y lein i'r Bryngwyn.[11]
Cyfeiriadau
- ↑ J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood, 1981), t.236
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.248, 250
- ↑ Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.190-1
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.217
- ↑ Mapiau Ordnans 25" i'r filltir, Caernarvonshire XXI.5 & 9
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.250;
- ↑ V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
- ↑ V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
- ↑ Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.91-2
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.217, 250
- ↑ V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124