Llandwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Llandwrog''' yw un o blwyfi [[Uwchgwyrfai]]. Prif nodwedd y plwyf yw plasty mawreddog Glynllifon a [[Wal Glynllifon|'r wal]] sy'n amgylchynu'r parc ac sydd yn 7 milltir o hyd.
Mae '''Llandwrog''' yw un o blwyfi [[Uwchgwyrfai]]. Prif nodwedd y plwyf yw plasty mawreddog Glynllifon a [[Wal Glynllifon|'r wal]] sy'n amgylchynu'r parc ac sydd yn 7 milltir o hyd. Mae pentref Llandwrog nid nepell o'r môr o gwmpas eglwys y plwyf. Mae'r plwyf hefyd yn cynnwys nifer o bentrefi a threflannau: [[Dinas Dinlle]], [[Tŷ'n Lôn]], [[Bethesda Bach]], [[Y Groeslon]], [[Carmel]], [[Maes Tryfan]], [[Y Fron]], neu Cesarea, [[Cilgwyn]] a (hyd nes i ffiniau plwyfi Llandwrog a [[Llanllyfni]] gael eu newid tua diwedd y 20g), [[Nantlle]]. Fe elwir y darn mynyddig o'r plwyf, lle ceir tyddynod a bythynnod chwarelwyr, rhostir a chwareli, yn [[Llandwrog Uchaf]] weithiau.  


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==
Llinell 38: Llinell 38:
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Fersiwn yn ôl 17:43, 19 Rhagfyr 2017

Mae Llandwrog yw un o blwyfi Uwchgwyrfai. Prif nodwedd y plwyf yw plasty mawreddog Glynllifon a 'r wal sy'n amgylchynu'r parc ac sydd yn 7 milltir o hyd. Mae pentref Llandwrog nid nepell o'r môr o gwmpas eglwys y plwyf. Mae'r plwyf hefyd yn cynnwys nifer o bentrefi a threflannau: Dinas Dinlle, Tŷ'n Lôn, Bethesda Bach, Y Groeslon, Carmel, Maes Tryfan, Y Fron, neu Cesarea, Cilgwyn a (hyd nes i ffiniau plwyfi Llandwrog a Llanllyfni gael eu newid tua diwedd y 20g), Nantlle. Fe elwir y darn mynyddig o'r plwyf, lle ceir tyddynod a bythynnod chwarelwyr, rhostir a chwareli, yn Llandwrog Uchaf weithiau.

Ffiniau a thirwedd

Mae plwyf Llandwrog yn gorwedd rhwng Llanwnda i'r gogledd a Llanllyfni a Chlynnog-fawr i'r de. Yn ei ben mwyaf dwyreiniol, mae bellach yn ffinio ar blwyf Betws Garmon, wedi i'r plwyf hwnnw 'ennill' tir oddi ar Llanwnda ym 1894, pan newidwyd llawer o ffiniau'r plwyfi, gan dorri'r cysylltiad hanesyddol rhwng ffiniau plwyfi eglwysig a ffiniau plwyfi 'sifil' a weinyddid gan gyngor etholedig. Tua diwedd y 20g, ennillwyd y tir ar drwyn penrhyn Abermenai oddi ar Llanwnda, ond dros y ganrif ddiwethaf, collwyd tir lle saif pentref Pen-y-groes, ac wedyn tir o gwmpas Garth Dorwen, (rhwng Pen-y-groes a'r Groeslon, a chwareli a phentref Nantlle, sydd bellach yn rhan o gymuned Llanllyfni.

Fe rannwyd y plwyf eglwysig tua chanol y 19g, gan godi eglwys newydd Sant Thomas rhwng Y Groeslon a Charmel i wasanaethu'r boblogaeth gynyddol ger y chwareli.

Mae'r tirwedd yn amrywio o draethau tywod a cherrig i forfa, tir gweddol ffwrythlon yn yr iseldir o gwmpas plasty Glynllifon, tir pori garw, corsydd a mawnogydd, a chopaon mynyddoedd sylweddol, gan gynnwys rhai creigiau serth megis Craig y Bera uwchben Drws-y-coed. Mae cryn coedwigo wedi digwydd o gwmpas Glynllifon, peth ohono'n blannu addurniadol; ond mae llawer o'r goedwig arall sy'n bodoli'n llwyni gwern a helyg. Efallai mai'r prif goedwig cynhenid a hynafol yw'r coedwig rhwng Gilwern a Thryfan-fawr ger Maes Tryfan, ond dichon y bu llawer mwy o goed cyn i'r tir gael ei glirio gan dyddynwyr ar yr un llaw a pherchnogion chwareli ar y llall.

Yr eglwys a'i sant

Eglwys fodern o ganol y 19g sydd ym mhlwyf Llandwrog, a godwyd ym 1857 (ynghyd â phorth y fynwent) mewn dull addurniadol wrth i'r pentref ei hun gael ei ddatblygu'n rhyw fath o 'bentref model', er mwyn difyrru llygaid yr Arglwydd Newborough, ei deulu a'i wahoddedigion wrth iddynt fynychu gwasanaethau. Yn wir, mae'r eglwys yn ymdebygu i gapel preifat tirfeddiannwr yn hytrach nag eglwys blwyf, oherwydd prinder seddau, ac mae'r seddau sydd yno yn wynebu ei gilydd - er, erbyn hynny, mae'n debyg fod llawer o'r plwyfolion nad oeddynt yn gaeth i dir rhent neu swyddi ar ystad Newborough wedi troi at y capeli anghydffurfiol.

Dywedir fod yr eglwys bresennol wedi ei hadeiladu o gwmpas yr hen eglwys, ac wedi i'r gwaith ar y waliau gael ei gwblhau, chwalwyd yr hen eglwys gan gario'r rwbal allan trwy'r drws. Mae'n amlwg fod eglwys wedi bod ar y safle ers canrifoedd lawer, ac mae lefel y fynwent mewn cymhariaeth â'r tir amgylchynol yn awgrymu hynny. Hefyd, yn yr eglwys newydd, mae nifer o gofebion a chreiriau sy'n dyddio'n ôl mor bell â 1700. Mae'n bosibl fod yr eglwys wedi ei hailadeiladu tua'r adeg honno gan fod nifer o eitemau yn dyddio o 1700-1703, fel pe bai angen gosodiadau newydd.

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Twrog, ac mae'r cysegriad hwn yn awgrymu bod eglwys, neu lan, wedi bod ar y safle ers dyddiau cynnar Christnogaeth yng Nghymru. Credir i Twrog fyw yn ystod y 6-7g, a'i fod yn fab i Ithel Hael, a ddaeth i Gymru o Lydaw. Mae nifer o eglwysi eraill yn gysylltiedig ag ef, sef Maentwrog (Meirionnydd), Bodwrog (Sir Fôn) a chapel (sydd bellach yn furddun) ar Garreg y Capel (Chapel Rock) yn aber yr Afon Hafren ger Beachley, swydd Caerloyw (nid nepell o Gas-Gwent).

Tai pwysig ac enwogion

Mae nifer o fân blastai yn y plwyf, megis Tryfan-fawr, Llwyngwalch, Bodfan, Plas Newydd a Chollfryn (Mount Hazel).

Fodd bynnag, nid oes yr un blasty arall i gymharu o ran statws, hanes na maint â Glynllifon, cartref y teulu Glyn, a'u holynwyr y Wynniaid a ddyrchafwyd yn y 18g gyda theitl Arglwydd Newborough. Ymysg aelodau pwysicaf y teulu oedd Thomas Glynne (AS a botanegydd), y Sarsiant John Glynne ac Edmund Glynne - ill dau'n gefnogwyr Cromwell -a Thomas Wynn yr Arglwydd Newborough cyntaf. Yn y 19g, wnaeth y 3ydd Arglwydd, Spencer Bulkeley Wynn lawer i harddu'r ystad a gwella ffermdai'r ardal.

Ymysg unigolion pwysig a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo yr oedd:

Y pentref

'Pentref plasty' yw Llandwrog ar ei ffurf bresennol yn ôl yr argraff gyntaf a geir ohono. Hyd nes i'r ffordd dyrpeg gael ei wneud, roedd y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli'n pasio trwy'r pentref. Mae darn o'r hen "briffordd", sef y Lôn Gul, yn aros i ddangos mor wael oedd cyfleusterau teithio ddau gan mlynedd yn ôl. Fel y dywedwyd uchod, ailadeiladwyd y pentref i gyd yng nghanol y 19g gan y tirfeddiannwr lleol (gan gynnwys yr eglwys a chodwyd ysgol eglwysig) mewn dull 'pictiwresc' fel addurn ar yr ystad: mae pentref arall tebyg iddo yn Llandygái ger Bangor. Mae un nodwedd diddordol yw'r cytiau pwmp dŵr sy'n dal i sefyll (ond heb eu cyflenwad dwr bellach!).

Erbyn hyn, yr unig gyfleuster yn y pentref yw tafarn y Delyn, neu ar dafod leferydd pawb o'r ardal, "Tŷ'n Llan". Bu swyddfa bost a siop yma tan y 1970au, ond ar ôl iddi gau, aeth pobl leol ati i geisio godi'r arian i agor siop gymunedol newydd ond yn anffodus methiant bu'r fenter ar ôl ychydig o flynyddoedd. Nid oes yma neuadd pentref, a defnyddir yr ysgol ar gyfer ambell i weithgaredd cymunedol.

Roedd yr Arglwydd Newborough yn elyniaethus tuag at godi capeli ar ei dir, ond ar ôl cryn drafferth cafodd y Methodistiaid Calfinaidd dir i godi Capel Bwlan tua hanner milltir o'r pentref. Dywedir i'r Arglwydd blannu coed rhwng y capel a'r olygfa o'r Eifl, naill ai i sbeitio'r saint, neu i guddio'r capel rhag ei olwg pan fynychai wasanaethau yn yr eglwys!