Llanwnda (plwyf hanesyddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''. O fewn ffiniau;r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef [[Saron]], [[Dinas]], [[Rhostryfan]],[[Rhosgadfan]], [[Rhos-isaf]], [[Glan-rhyd]], [[Menai View]], rhan o'r [[Dolydd]], a Llanwnda ei hun.
'''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''. O fewn ffiniau;r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef [[Saron]], [[Dinas]], [[Rhostryfan]],[[Rhosgadfan]], [[Rhos-isaf]], [[Glan-rhyd]], [[Menai View]], rhan o'r [[Dolydd]], a Llanwnda ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf y 20g, roedd rhan o bentref y [[Bontnewydd]] hefyd o fewn ffiniau'r plwyf.


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==
Llinell 23: Llinell 23:
[[J Gwenogfryn Williams]], a breswyliodd am gyfnod yn Gaeanfryn, Llanwnda.
[[J Gwenogfryn Williams]], a breswyliodd am gyfnod yn Gaeanfryn, Llanwnda.
[[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas.
[[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas.
[[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynne]], Yr Hendre, arweinyddion y sir ar adeg Cromwell.
[[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynne]], Yr Hendre, arweinyddion y sir ar adeg Cromwell.
Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd [[Dafydd Wigley]] ac [[Elinor Bennett]], ei wraig, y delynores.


==Y pentref==
==Y pentref==

Fersiwn yn ôl 19:31, 5 Rhagfyr 2017

Llanwnda yw un o blwyfi hanesyddol Uwchgwyrfai. Ystyr yr enw yw Eglwys Sant Gwyndaf. O fewn ffiniau;r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef Saron, Dinas, Rhostryfan,Rhosgadfan, Rhos-isaf, Glan-rhyd, Menai View, rhan o'r Dolydd, a Llanwnda ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf y 20g, roedd rhan o bentref y Bontnewydd hefyd o fewn ffiniau'r plwyf.

Ffiniau a thirwedd

Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf Betws Garmon ym 1888. Tua 1990 symudwyd ardal Belan o Lanwnda i blwyf Llandwrog a ward Bontnewydd i gymuned Y Bontnewydd a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r Afon Gwyrfai. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r Afon Carrog yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng Tryfan a'r môr.

Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar Y Foryd a thraeth ger Trwyn Abermenai, morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.

Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i ddarn o goedwig, yn bennaf coedwig gwern a hynny yn y mannau gwlypaf. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored hyd nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynod yn cael eu creu gan y chwarelwyr.

Yr eglwys a'i sant

Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw olion cist claddu Owen Meredith, a farwodd ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.

Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar â 1748.

Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwyndaf ac mae Gwnda (yr elfen a geir yn Llanwndayn dalfyriad o'r enw hwnnw).

Tai pwysig ac enwogion

Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr oedd wedi preswylio yn yno. Yn eu mysg, teuluoedd plastai Plas Dinas, Plas Bodaden, Plas-yn-Bont a'r Pengwern.

Rhai o enwogion y plwyf oedd: W Gilbert Williams, prifathro cyntaf Ysgol Felinwnda, prifathro Ysgol Rhostryfan wedyn, hanesydd lleol arloesol ac awdur. J Gwenogfryn Williams, a breswyliodd am gyfnod yn Gaeanfryn, Llanwnda. Teulu Armstrong-Jones, Plas Dinas. Thomas Bulkeley o'r Dinas, ac Edmund Glynne, Yr Hendre, arweinyddion y sir ar adeg Cromwell. Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd Dafydd Wigley ac Elinor Bennett, ei wraig, y delynores.

Y pentref

Yn groes i bob plwyf arall yn Uwchgwyrfai, nid yw'r eglwys yn sefyll yn y pentref sy'n rhannu enw'r plwyf, ond yn hytrach yn nhreflan Dinas. Rhoddwyd yr enw 'Llanwnda' ar y casgliad o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Llanwnda. Yn ogystal â busnes glo, bu yno unwaith gwaith trwsio wagenni rheilffordd, tafarn Yr Afr a swyddfa bost a siop - caeodd y ddwy olaf hyn tua 2005.

Nodweddion eraill y plwyf

Hanes diweddar