Cwellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Cwellyn''' yw enw plasty bach sydd sefyll wrth ben uchaf [[Llyn Cwellyn]]. Mae'r llyn, ac hefyd [[Pont Cwellyn]] ac [[Afon Cwellyn]] yn cymryd eu henwau, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf [[Llanwnda]], sydd bellach yn rhan o blwyf [[Betws Garmon]] ar gyrion mwyaf dwyreiniol [[Uwchgwyrfai]].

Sylfaenydd y teulu a ymsefydlodd yng Nghwellyn ac yn mabwysiadu'r enw fel cyfenw ar y teulu oedd Gruffydd ap [[Tudur Goch]] o [[Plas Nantlle|Blas Nantlle]].<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 172, 229</ref>

Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "''a very mean building''", a oedd wedi bod yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi pasio i berchnogion newydd.<ref>Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.</ref>

Fersiwn yn ôl 11:32, 21 Ionawr 2020

Cwellyn yw enw plasty bach sydd sefyll wrth ben uchaf Llyn Cwellyn. Mae'r llyn, ac hefyd Pont Cwellyn ac Afon Cwellyn yn cymryd eu henwau, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf Llanwnda, sydd bellach yn rhan o blwyf Betws Garmon ar gyrion mwyaf dwyreiniol Uwchgwyrfai.

Sylfaenydd y teulu a ymsefydlodd yng Nghwellyn ac yn mabwysiadu'r enw fel cyfenw ar y teulu oedd Gruffydd ap Tudur Goch o Blas Nantlle.[1]

Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "a very mean building", a oedd wedi bod yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi pasio i berchnogion newydd.[2]

Roedd y teulu a oedd wedi mabwysiadu'r cyfenw Quellyn wedi symud o'r plasty rywbryd yn ystod y 18g, efallai i fferm arall, Cwm Bychan, yn yr un plwyf. Rywbryd cyn 1792, roedd ffermwr o'r enw William Jones wedi cymryd y lle ar brydles. Mae rhestr o'i eiuddo pan farwodd yn dangos ei fod yn ffermwr ar raddfa weddol fawr am y cyfnod[3]. Roedd 5 ystafell yn y tŷ, a'r dodrefn yno'n werth £21.19.0c, ynghyd a gwerth £4.5.0c o fenyn. Roedd yno 100 o ddefaid a 35 o ŵyn, gwerth £36.2.6c i gyd; tarw gwerth £4.3.0c, 10 o fuchod, 10 o fustych, 10 llo blwydd a 9 o loi dwyflwydd, gwerth £108.9.0c; mocyn, gwair, offer fferm a llo arall (a restrwyd ar wahân am ryw rheswm - eiddo oedd yn werth £208.9.0c i gyd. Roedd hyn yn swm nid ansylweddol i ffarmwr ar y pryd.

Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail na wyddys, mae ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn[4], ond mae Glenda Carr o'r un farn a'r Athro J Lloyd-Jones ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu Cawellyn.[5]

Cymerodd y teulu eu cyfenw oddi wrth y lle - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i deulu Glynllifon).

Cyfeiriadau

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 172, 229
  2. Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.229
  5. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.130.