Tramffordd John Robinson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Wedi iddi agor, gwelodd [[H.B. Roberts]], rheolwr [[Chwarel Braich]] rinwedd yn y fenter, a chytunwyd i adeiladu cangen a agorwyd 1871-2, <ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), t.124</ref>o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin rhwng Gwyndy a Dyffryn Twrog, gan ymuno â'r brif lein nid nepell o Fwlch-y-llyn a Ffriddlwyd - yr oedd Roberts i ddarparu ei gyffylau ei hun ar gyfer tynnu wagenni o Fraich.<ref>Alun John Richards, ''The Slate Railways of Wales'', (Llanrwst, 2001), tt.91-2</ref> | Wedi iddi agor, gwelodd [[H.B. Roberts]], rheolwr [[Chwarel Braich]] rinwedd yn y fenter, a chytunwyd i adeiladu cangen a agorwyd 1871-2, <ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), t.124</ref>o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin rhwng Gwyndy a Dyffryn Twrog, gan ymuno â'r brif lein nid nepell o Fwlch-y-llyn a Ffriddlwyd - yr oedd Roberts i ddarparu ei gyffylau ei hun ar gyfer tynnu wagenni o Fraich.<ref>Alun John Richards, ''The Slate Railways of Wales'', (Llanrwst, 2001), tt.91-2</ref> | ||
Byrhoedlog oedd oes y dramffordd hon. Fe'i caewyd erbyn 1881, ac adeiladwyd [[Tramffordd y Fron]] ar led 2' i gludo cynnyrch i chwareli at ben uchaf [[ | Byrhoedlog oedd oes y dramffordd hon. Fe'i caewyd erbyn 1881, ac adeiladwyd [[Tramffordd y Fron]] ar led 2' i gludo cynnyrch i chwareli at ben uchaf [[Inclein Bryngwyn]], lle aeth y wagenni ar hyd cledrau [[Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru]] i [[Gorsaf reilffordd Dinas|orsaf Cyffordd Dinas]].<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), tt.217, 250</ref>; codwyd cledrau'r dramffordd 3' 6" ym 1882, gan eu defnyddio i wneud y lein i'r Bryngwyn.<ref>V.J. Bradley, ''Industrial Locomotives of North Wales'', (London, 1992), t.124</ref> | ||
Fersiwn yn ôl 09:26, 27 Tachwedd 2018
Adeiladwyd Tramffordd John Robinson gan ŵr o'r enw hwnnw i gludo llechi o'i chwarel, Chwarel y Fron i gysylltu â thraciau Rheilffordd Nantlle yn ardal Tal-y-sarn, fel y gellid cludo'r llechi at y cei yng Nghaernarfon; ac wedi agor cangen o'r lein fawr hyd orsaf Nantlle ar hyd y lein fawr at gwsmeriaid ledled Prydain. Weithiau, fe elwir y dramffordd hon yn Dramffordd Fron a Thal-y-sarn neu Reilffordd Tal-y-sarn.[1]
Ym 1867 cafodd Robinson ran yn rheolaeth Chwarel Tal-y-sarn yn ogystal â'r Fron, a sylweddolodd fod modd sicrhau tramffordd a fyddai'n cludo llechi o'r Fron heb fennu ar ddiddordebau cynhyrchwyr llechi eraill. Y bwriad oedd adeiladu tramffordd ryw filltrir o hyd ar led 3' 6" (sef yr un lled â chledrau Rheilffordd Nantlle) a chreu incléin hir 700 llath o hyd o'r ucheldir i lawr trwy Chwarel Tal-y-sarn i gysylltu â thraciau ar waelod y chwarel honno. Cafodd yr hawl, am rent enwol o swllt y flwyddyn, i adeiladu'r lein ar draws tir comin y Goron o Chwarel y Fron. Disgwylwyd mai £1850 fyddai cost y fenter, y gellid ei hagor o fewn tri mis, ac y byddai'n lleihau'r gost o gludo llechi i Gei Caernarfon yn sylweddol.
Mewn gwirionedd, oherwydd anghydweld ynglŷn â ffiniau, yr oedd angen incléin hirach ac ni agorwyd y dramffordd tan 1868. Prynwyd 100 o wagenni i redeg rhwng y chwarel a phen draw'r lein (ac efallai ar y darn o Reilffordd Nantlle rhwng Pant a'r Cei).[2] Yn y diwedd, roedd y lein yn 1½ milltir o hyd, yn rhedeg o Chwarel y Fron/Hen Fraich ar hyd ffordd pentref Y Fron,[3] wedyn ar draws y tir agored rhwng Bwlch-y-llyn a'r Fron,[4] heibio Rhes Bryntwrog a Greenland ac wedyn hyd at Pen-deitsh, lle aeth i dir Chwarel Tal-y-sarn ac at yr incléin.[5] Tynnwyd y wagenni gan geffylau (er bod sôn am ddefnyddio injan stêm a wnaed gan de Winton, Caernarfon, o 1878 ymlaen).[6][7]
Wedi iddi agor, gwelodd H.B. Roberts, rheolwr Chwarel Braich rinwedd yn y fenter, a chytunwyd i adeiladu cangen a agorwyd 1871-2, [8]o dwll Chwarel Braich i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd tir sydd hyd heddiw yn llain o gomin rhwng Gwyndy a Dyffryn Twrog, gan ymuno â'r brif lein nid nepell o Fwlch-y-llyn a Ffriddlwyd - yr oedd Roberts i ddarparu ei gyffylau ei hun ar gyfer tynnu wagenni o Fraich.[9]
Byrhoedlog oedd oes y dramffordd hon. Fe'i caewyd erbyn 1881, ac adeiladwyd Tramffordd y Fron ar led 2' i gludo cynnyrch i chwareli at ben uchaf Inclein Bryngwyn, lle aeth y wagenni ar hyd cledrau Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru i orsaf Cyffordd Dinas.[10]; codwyd cledrau'r dramffordd 3' 6" ym 1882, gan eu defnyddio i wneud y lein i'r Bryngwyn.[11]
Cyfeiriadau
- ↑ J.I.C. Boydf, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood, 1981), t.236
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.248, 250
- ↑ Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.190-1
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.217
- ↑ Mapiau Ordnans 25" i'r filltir, Caernarvonshire XXI.5 & 9
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.250;
- ↑ V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
- ↑ V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124
- ↑ Alun John Richards, The Slate Railways of Wales, (Llanrwst, 2001), tt.91-2
- ↑ Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), tt.217, 250
- ↑ V.J. Bradley, Industrial Locomotives of North Wales, (London, 1992), t.124