Llandwrog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
==Tai pwysig ac enwogion== | ==Tai pwysig ac enwogion== | ||
Mae nifer o fân blastai yn y plwyf, megis [[Tryfan-fawr]], [[Llwyngwalch]], [[Bodfan]], [[Plas Newydd]] a [[Collfryn (Mount Hazel)|Chollfryn (Mount Hazel)]] | Mae nifer o fân blastai yn y plwyf, megis [[Tryfan-fawr]], [[Llwyngwalch]], [[Bodfan]], [[Plas Newydd]] a [[Collfryn (Mount Hazel)|Chollfryn (Mount Hazel)]]. | ||
Fodd bynnag, nid oes yr un blasty arall i gymharu o ran statws, hanes na maint â [[Glynllifon]], cartref y [[teulu Glyn (Glynllifon)|teulu Glyn]], a'u holynwyr y Wynniaid a ddyrchafwyd yn y 18g gyda theitl [[Arglwydd Newborough]]. Ymysg aelodau pwysicaf y teulu oedd [[Thomas Glynne (AS a botanegydd]], y Sarsiant [[John Glynne]], [[Edmund Glynne]] - ill dau'n gefnogwyr Cromwell -a [[Thomas Wynn]] yr Arglwydd Newborough cyntaf. Yn y 19g, wnaeth y 3ydd Arglwydd, [[Spencer Bulkeley Wynn]]. lawer i harddu'r ystad a gwella ffermdai'r ardal. | |||
Ymysg unigolion pwysig sydd yn hanu o blwyf Landwrog neu'n fyw yno, neu a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo yr oedd: | |||
* y llenorion [[John Gwilym Jones]], [[Thomas Parry]], [[Gruffudd Parry]], [[Angharad Tomos]], [[Gwenno Hywyn]] a [[John Hywyn]], a [[Gerallt Lloyd Owen]] | |||
* [[y brodyr Francis]] | |||
* [[Griffith Davies (mathemategwr)]] | |||
==Y | |||
Fersiwn yn ôl 19:25, 18 Rhagfyr 2017
Mae Llandwrog yw un o blwyfi Uwchgwyrfai.
Ffiniau a thirwedd
Mae plwyf Llandwrog yn gorwedd rhwng Llanwnda i'r gogledd a Llanllyfni a Chlynnog-fawr i'r de. Yn ei ben mwyaf dwyreiniol, mae bellach yn ffinio ar blwyf Betws Garmon, wedi i'r plwyf hwnnw 'ennill' tir oddi ar Llanwnda ym 1894, pan newidwyd llawer o ffiniau'r plwyfi, gan dorri'r cysylltiad hanesyddol rhwng ffiniau plwyfi eglwysig a ffiniau plwyfi 'sifil' a weinyddid gan gyngor etholedig. Tua diwedd y 20g, ennillwyd y tir ar drwyn penrhyn Abermenai oddi ar Llanwnda, ond dros y ganrif ddiwethaf, collwyd tir lle saif pentref Pen-y-groes, ac wedyn tir o gwmpas Garth Dorwen, (rhwng Pen-y-groes a'r Groeslon, a chwareli a phentref Nantlle, sydd bellach yn rhan o gymuned Llanllyfni.
Fe rannwyd y plwyf eglwysig tua chanol y 19g, gan godi eglwys newydd Sant Thomas rhwng Y Groeslon a Charmel i wasanaethu'r boblogaeth gynyddol ger y chwareli.
Mae'r tirwedd yn amrywio o draethau tywod a cherrig i forfa, tir gweddol ffwrythlon yn yr iseldir o gwmpas plasty Glynllifon, tir pori garw, corsydd a mawnogydd, a chopaon mynyddoedd sylweddol, gan gynnwys rhai creigiau serth megis Craig y Bera uwchben Drws-y-coed. Mae cryn coedwigo wedi digwydd o gwmpas Glynllifon, peth ohono'n blannu addurniadol; ond mae llawer o'r goedwig arall sy'n bodoli'n llwyni gwern a helyg. Efallai mai'r prif goedwig cynhenid a hynafol yw'r coedwig rhwng Gilwern a Thryfan-fawr ger Maes Tryfan, ond dichon y bu llawer mwy o goed cyn i'r tir gael ei glirio gan dyddynwyr ar yr un llaw a pherchnogion chwareli ar y llall.
Yr eglwys a'i sant
Eglwys fodern o ganol y 19g sydd ym mhlwyf Llandwrog, a godwyd ym 1860 (ynghyd â phorth y fynwent) mewn dull addurniadol wrth i'r pentref ei hun gael ei ddatblygu'n rhyw fath o 'bentref model', er mwyn difyrru llygaid yr Arglwydd Newborough, ei deulu a'i wahoddedigion wrth iddynt fynychu gwasanaethau. Yn wir, mae'r eglwys yn ymdebygu i gapel preifat tirfeddiannwr yn hytrach nag eglwys blwyf, oherwydd prinder seddau - er, erbyn hynny, mae'n debyg fod llawer o'r plwyfolion nad oeddynt yn gaeth i dir rhent neu swyddi ar ystad Newborough wedi troi at y capeli anghydffurfiol.
Dywedir fod yr eglwys bresennol wedi ei hadeiladu o gwmpas yr hen eglwys, ac wedi i'r gwaith ar y waliau gael ei gwblhau, chwalwyd yr hen eglwys gan gario'r rwbal allan trwy'r drws. Mae'n amlwg fod eglwys wedi bod ar y safle ers canrifoedd lawer, ac mae lefel y fynwent mewn cymhariaeth â'r tir amgylchynol yn awgrymu hynny. Hefyd, yn yr eglwys newydd, mae nifer o gofebion a chreiriau sy'n dyddio'n ôl mor bell â 1700. Mae'n bosibl fod yr eglwys wedi ei hailadeiladu tua'r adeg honno gan fod nifer o eitemau yn dyddio o 1700-1703, fel pe bai angen gosodiadau newydd.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Twrog, ac mae'r cysegriad hwn yn awgrymu bod eglwys, neu lan, wedi bod ar y safle ers dyddiau cynnar Christnogaeth yng Nghymru.
Tai pwysig ac enwogion
Mae nifer o fân blastai yn y plwyf, megis Tryfan-fawr, Llwyngwalch, Bodfan, Plas Newydd a Chollfryn (Mount Hazel).
Fodd bynnag, nid oes yr un blasty arall i gymharu o ran statws, hanes na maint â Glynllifon, cartref y teulu Glyn, a'u holynwyr y Wynniaid a ddyrchafwyd yn y 18g gyda theitl Arglwydd Newborough. Ymysg aelodau pwysicaf y teulu oedd Thomas Glynne (AS a botanegydd, y Sarsiant John Glynne, Edmund Glynne - ill dau'n gefnogwyr Cromwell -a Thomas Wynn yr Arglwydd Newborough cyntaf. Yn y 19g, wnaeth y 3ydd Arglwydd, Spencer Bulkeley Wynn. lawer i harddu'r ystad a gwella ffermdai'r ardal.
Ymysg unigolion pwysig sydd yn hanu o blwyf Landwrog neu'n fyw yno, neu a hanai o'r plwyf neu a drigai ynddo yr oedd:
- y llenorion John Gwilym Jones, Thomas Parry, Gruffudd Parry, Angharad Tomos, Gwenno Hywyn a John Hywyn, a Gerallt Lloyd Owen
- y brodyr Francis
- Griffith Davies (mathemategwr)
==Y