Llanwnda (plwyf hanesyddol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''. O fewn ffiniau | '''Llanwnda''' yw un o blwyfi hanesyddol [[Uwchgwyrfai]]. Ystyr yr enw yw ''Eglwys Sant Gwyndaf''. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef [[Saron]], [[Dinas]], [[Rhostryfan]],[[Rhosgadfan]], [[Rhos-isaf]], [[Glan-rhyd]], [[Menai View]], rhan o'r [[Dolydd]], a [[Llanwnda(pentref)|Llanwnda]] ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf y 20g, roedd rhan o bentref y [[Bontnewydd]] hefyd o fewn ffiniau'r plwyf. | ||
==Ffiniau a thirwedd== | ==Ffiniau a thirwedd== | ||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf [[Betws Garmon]] ym 1888. Tua 1990 symudwyd ardal [[Belan]] o Lanwnda i blwyf [[Llandwrog]] a ward Bontnewydd i gymuned [[Y Bontnewydd]] a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r [[Afon Gwyrfai]]. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r [[Afon Carrog]] yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng [[Tryfan]] a'r môr. | Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf [[Betws Garmon]] ym 1888. Tua 1990 symudwyd ardal [[Belan]] o Lanwnda i blwyf [[Llandwrog]] a ward Bontnewydd i gymuned [[Y Bontnewydd]] a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r [[Afon Gwyrfai]]. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r [[Afon Carrog]] yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng [[Tryfan]] a'r môr. | ||
Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar [[Y Foryd]] a thraeth ger [[Trwyn Abermenai]], morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is. | Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar [[Y Foryd]] a thraeth ger [[Trwyn Abermenai]], morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a'u mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is. | ||
Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i | Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf coedwig gwern a hynny yn y mannau gwlypaf, a rhywfaint o blanhigfwydd coed bytholwyrdd a grëwyd tua chanol y 20g ar y mynydd. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored hyd nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynod yn cael eu creu gan y chwarelwyr. | ||
==Yr eglwys a'i sant== | ==Yr eglwys a'i sant== | ||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
Rhai o enwogion y plwyf oedd: | Rhai o enwogion y plwyf oedd: | ||
* [[W. Gilbert Williams]], prifathro cyntaf [[Ysgol Felinwnda]], prifathro [[Ysgol Rhostryfan]] wedyn, hanesydd lleol arloesol ac awdur. | * [[W. Gilbert Williams]], prifathro cyntaf [[Ysgol Felinwnda]], prifathro [[Ysgol Rhostryfan]] wedyn, hanesydd lleol arloesol ac awdur. | ||
* [[J Gwenogfryn Williams]], a breswyliodd am gyfnod yn | * [[J Gwenogfryn Williams]], a breswyliodd am gyfnod yn Graeanfryn, Llanwnda. | ||
* [[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas. | * [[Teulu Armstrong-Jones]], Plas Dinas. | ||
* [[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynne]], Yr Hendre, arweinyddion y sir ar adeg Cromwell. | * [[Thomas Bulkeley]] o'r Dinas, ac [[Edmund Glynne]], Yr Hendre, arweinyddion y sir ar adeg Cromwell. | ||
* Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd [[Dafydd Wigley]] ac [[Elinor Bennett]], ei wraig, y delynores. | * Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd [[Dafydd Wigley]] ac [[Elinor Bennett]], ei wraig, y delynores; a'r Prifardd Geraint Lloyd Owen, yr Archdderwydd. | ||
==Y pentref== | ==Y pentref== |
Fersiwn yn ôl 18:13, 18 Rhagfyr 2017
Llanwnda yw un o blwyfi hanesyddol Uwchgwyrfai. Ystyr yr enw yw Eglwys Sant Gwyndaf. O fewn ffiniau'r plwyf ceir sawl pentref a threflan, sef Saron, Dinas, Rhostryfan,Rhosgadfan, Rhos-isaf, Glan-rhyd, Menai View, rhan o'r Dolydd, a Llanwnda ei hun. Hyd at flynyddoedd olaf y 20g, roedd rhan o bentref y Bontnewydd hefyd o fewn ffiniau'r plwyf.
Ffiniau a thirwedd
Dyma blwyf mwyaf gogleddol Uwchgwyrfai. Yn wreiddiol, Afon Gwyrfai oedd ffin plwyf Llanwnda yr holl ffordd o'i darddiad yn Llyn y Gader hyd y môr, ond trosglwyddwyd darn helaeth rhwng yr afon a chopaon y mynyddoedd i blwyf Betws Garmon ym 1888. Tua 1990 symudwyd ardal Belan o Lanwnda i blwyf Llandwrog a ward Bontnewydd i gymuned Y Bontnewydd a ffurfiwyd o'r newydd ar y pryd o bobtu'r Afon Gwyrfai. I'r de, mae'n ffinio â phlwyf Llandwrog, gyda'r Afon Carrog yn ffin rhyngddynt yn y darn isaf rhwng Tryfan a'r môr.
Roedd y plwyf felly yn amrywio o ran tirwedd, gyda glan môr ar Y Foryd a thraeth ger Trwyn Abermenai, morfa wlyb, tir gweddol ffrwythlon a rhostir yn ymestyn i gopaon mynyddoedd gyda'u gweundir a'u mawnogydd. Roedd hefyd â darn sylweddol o un o brif ddyffrynnoedd Eryri hyd 1888. Llechfaen, ac i raddau llai, ithfaen yw'r graig o dan wyneb y tir yn yr ucheldir; tir tywodlyd gyda llawer o fân gerrig yw llawer o'r tir is.
Tir agored sydd yma i raddau helaeth, er bod ambell i glwt o goedwig, yn bennaf coedwig gwern a hynny yn y mannau gwlypaf, a rhywfaint o blanhigfwydd coed bytholwyrdd a grëwyd tua chanol y 20g ar y mynydd. Bu llawer o'r ucheldir yn dir agored hyd nes i'r chwareli agor a llawer o dyddynod yn cael eu creu gan y chwarelwyr.
Yr eglwys a'i sant
Codwyd yr eglwys bresennol mor ddiweddar â 1847, ond mae'r safle'n hen iawn. Mae nifer o greiriau, megis clychau, dodrefn a chofebau niferus sydd wedi dod o'r hen eglwys. Y cynharaf o'r rhai olaf hyn yw olion cist claddu Owen Meredith, a farwodd ym 1612. Nodwedd y gofeb hon yw'r cerflun arni sy'n dangos yr 11 o blant oedd ganddo.
Roedd galeri neu oriel yn yr hen eglwys oedd, mae'n debyg, yn bur hen, gan ei fod wedi ei adfer mor gynnar â 1748.
Cysegrwyd yr eglwys i Sant Gwyndaf ac mae Gwnda (yr elfen a geir yn Llanwnda)yn dalfyriad o'r enw hwnnw.
Tai pwysig ac enwogion
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr oedd wedi preswylio yn yno. Yn eu mysg, teuluoedd plastai Plas Dinas, Plas Bodaden, Plas-yn-Bont a'r Pengwern.
Rhai o enwogion y plwyf oedd:
- W. Gilbert Williams, prifathro cyntaf Ysgol Felinwnda, prifathro Ysgol Rhostryfan wedyn, hanesydd lleol arloesol ac awdur.
- J Gwenogfryn Williams, a breswyliodd am gyfnod yn Graeanfryn, Llanwnda.
- Teulu Armstrong-Jones, Plas Dinas.
- Thomas Bulkeley o'r Dinas, ac Edmund Glynne, Yr Hendre, arweinyddion y sir ar adeg Cromwell.
- Yn fwy diweddar, Llanwnda yw cartref y gwleidydd Dafydd Wigley ac Elinor Bennett, ei wraig, y delynores; a'r Prifardd Geraint Lloyd Owen, yr Archdderwydd.
Y pentref
Yn groes i bob plwyf arall yn Uwchgwyrfai, nid yw'r eglwys yn sefyll yn y pentref sy'n rhannu enw'r plwyf, ond yn hytrach yn nhreflan Dinas. Rhoddwyd yr enw 'Llanwnda' ar y casgliad o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Llanwnda. Yn ogystal â busnes glo, bu yno unwaith gwaith trwsio wagenni rheilffordd, tafarn Yr Afr a swyddfa bost a siop - caeodd y ddwy olaf hyn tua 2005.