Neuadd Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Neuadd Y Groeslon''' yn sefyll ar allt y pentref.<ref>Saiul yr ethygl hon yw testun llyfr ''Hanes Y Groeslon'' (Caernarfon, 2000), tt.95-105</ref>
Mae '''Neuadd Y Groeslon''' yn sefyll ar allt y pentref.<ref>Sail yr erthygl hon yw testun llyfr ''Hanes Y Groeslon'' (Caernarfon, 2000), tt.95-105</ref>


Bu'r neuadd yn ganolfan werthfawr i'r pentref o'r dechreuad. Ar ôl diwedd y rhyfel cyntaf y penderfynwyd cael neuadd neu 'institiwt', fel rhyw fath o goffád i'r rhai a gollasid yn y rhyfel 1914-1918. Prynwyd darn o dir gan [[Ystâd Glynllifon]] a bu nifer o ddynion yn ei baratoi a chario cerrig. Wedyn prynwyd hen gwt gan y fyddin o Barc Cinmel am £25. Cwt sinc ydoedd gyda dau le tân glo i'w gynhesu ar y dechrau. Rhoddwyd llawer o'r cadeiriau pren yn rhodd gan y pentrefwyr.
Bu'r neuadd yn ganolfan werthfawr i'r pentref o'r dechreuad. Ar ôl diwedd y rhyfel cyntaf y penderfynwyd cael neuadd neu 'institiwt', fel rhyw fath o goffád i'r rhai a gollasid yn y rhyfel 1914-1918. Prynwyd darn o dir gan [[Ystad Glynllifon]] a bu nifer o ddynion yn ei baratoi a chario cerrig. Wedyn prynwyd hen gwt gan y fyddin o Barc Cinmel am £25. Cwt sinc ydoedd gyda dau le tân glo i'w gynhesu ar y dechrau. Rhoddwyd llawer o'r cadeiriau pren yn rhodd gan y pentrefwyr.
Ym misHydref, 1927 prynwyd bwrdd biliards am £66. ‘Roedd yr ystafell biliards ar agor o chwech o'r gloch hyd ddeg a byddai'n llawn bron bob nos. Tâl aelodaeth y clwb oedd 2s ond gan fod nifer yn ddi-waith fe'i gostyngwyd i swllt ym 1932. Y tâl am chwarae oedd tair
Ym mis Hydref, 1927 prynwyd bwrdd biliards am £66. ‘Roedd yr ystafell biliards ar agor o chwech o'r gloch hyd ddeg a byddai'n llawn bron bob nos. Tâl aelodaeth y clwb oedd 2s ond, gan fod nifer yn ddi-waith, fe'i gostyngwyd i swllt ym 1932. Y tâl am chwarae oedd tair
ceiniog am hanner awr.
ceiniog am hanner awr.
Er bod y dull o gynhesu wedi newid I drydan ymhen rhai blynyddoedd 'roedd hi'n oer iawn yno; eto 'roedd defnydd cyson yn cael ei wneud ohoni.
Er bod y dull o gynhesu wedi newid i drydan ymhen rhai blynyddoedd 'roedd hi'n oer iawn yno; eto 'roedd defnydd cyson yn cael ei wneud ohoni.
Ym 1938 dechreuwyd sôn am gael neuadd newydd ond daeth y rhyfel, felly ym 1945 yr aed ati o ddifrif i drafod a phwyllgora. O'r diwedd mentrwyd codi neuadd newydd yn costio tua £3,000. Y pensaer oedd Robert Pierce o Gaernarfon a gwnaed yr adeiladu gan adeiladwyr lleol Jones & Owen.
Ym 1938 dechreuwyd sôn am gael neuadd newydd ond daeth y rhyfel, felly ym 1945 yr aed ati o ddifrif i drafod a phwyllgora. O'r diwedd mentrwyd codi neuadd newydd yn costio tua £3,000. Y pensaer oedd Robert Pierce o Gaernarfon a gwnaed yr adeiladu gan adeiladwyr lleol Jones & Owen.
Nos Fercher, Medi 16, 1953, am saith o'r gloch, agorwyd y neuadd newydd. Yn annerch y cyfarfod yr oedd Syr Ben Bowen Thomas; Mr [[John Gwilym Jones]]; y Fonesig Megan Lloyd George a Mr Mansel Williams; cafwyd cyngerdd gan artistiaid lleol a chanwyd emyn o
Nos Fercher, Medi 16, 1953, am saith o'r gloch, agorwyd y neuadd newydd. Yn annerch y cyfarfod yr oedd Syr Ben Bowen Thomas; Mr [[John Gwilym Jones]]; y Fonesig Megan Lloyd George a Mr Mansel Williams; cafwyd cyngerdd gan artistiaid lleol a chanwyd emyn o eiddo Mr R. H. Griffith, yr oedd newydd ennill arno yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ystod y cyfarfod cyflwynodd y Pensaer allwedd y neuadd i'r llywydd Mr [[Alwyn Hughes-Jones]]. Bu Mr Alwyn Hughes-Jones yn llywydd y neuadd o 1947 hyd 1981 ac, ar wahân i roi o'i amser a'i frwdfrydedd, cyfrannodd yn hael iawn i goffrau'r neuadd trwy fuddsoddi a hefyd drwy dalu'r llogau ar y ddyled.Yn wir fe weithiodd nifer fawr o'r pentrefwyr yn ddiflino am flynyddoedd er mwyn codi arian i dalu am y neuadd.
eiddo Mr R. H. Griffith, yr oedd newydd ennill arni yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ystod y cyfarfod cyflwynodd y Pensaer agoriad y neuadd i'r llywydd Mr [[Alwyn Hughes-Jones]]. Bu Mr Alwyn Hughes-Jones yn llywydd y neuadd o 1947 hyd 1981 ac ar wahân i roi o'i amser a'i frwdfrydedd cyfrannodd yn hael iawn i goffrau'r neuadd trwy fuddsoddi a hefyd drwy dalu'r llogau ar y ddyled.Yn wir fe weithiodd nifer fawr o'r pentrefwyr yn ddiflino am flynyddoedd er mwyn codi arian i dalu am y neuadd.
 
[[Delwedd:Cofebion Y Groeslon.jpg|bawd|de|400px|Cofebion o flaen y Neuadd]]
 
Yn addas, fel sefydliad a ddechreuodd fel modd i goffáu'r rhai a laddwyd yn y ddau Ryfel Byd, mae placiau coffáu a ddaeth o gapeli [[Capel Bryn'rodyn (MC), Y Groeslon|Bryn'rodyn]] a [[Capel Brynrhos (MC), Y Groeslon|Brynrhos]] wedi eu gosod o flaen y Neuadd wedi i'r capeli gau yn 2018.
 
Dathlwyd canmlwyddiant y neuadd wreiddiol fis Tachwedd 2022 trwy gynnal cyngerdd o dalentau lleol a fagwyd mewn digwyddiadau yn y neuadd ac efo arddangosfa am y neuadd trwy'r flynyddoedd.


==Gweithgareddau'r Neuadd==
==Gweithgareddau'r Neuadd==
Llinell 14: Llinell 19:
*Clwb Biliards 1927-1960.
*Clwb Biliards 1927-1960.
*Cymdeithas ddrama.  
*Cymdeithas ddrama.  
*Dosbarth Cymraeg i bobl ifanc. Cymdeithas gorawl gyda Mr Rowland Thomas, Y Post.  Byddent yn cyfarfod bob nos Sul a bob nos Iau ac yn dysgu gweithiau fel y Messiah a Judas Maccabeus ar gyfer mynd I Ŵyl Harlech yn y 1920au.  
*Dosbarth Cymraeg i bobl ifanc. Cymdeithas gorawl gyda Mr Rowland Thomas, Y Post.  Byddent yn cyfarfod bob nos Sul a bob nos Iau ac yn dysgu gweithiau fel y Messiah a Judas Maccabeus ar gyfer mynd i Ŵyl Harlech yn y 1920au.  
*Y Blaid Genedlaethol.  
*Y Blaid Genedlaethol/Plaid Cymru.  
*Dangos Ffilmiau am gyfnod yn y pumdegau.
*Dangos Ffilmiau am gyfnod yn y pumdegau.
*Dawnsfeydd yn fisol yn y chwedegau. [[Aelwyd yr Urdd Y Groeslon]] gydag Emrys Price-Jones, Elwyn Jones- Griffith ac Arthur Evans.
*Dawnsfeydd yn fisol yn y chwedegau. [[Aelwyd yr Urdd Y Groeslon]] gydag [[Emrys Price-Jones]], [[Elwyn Jones-Griffith]] ac Arthur Evans.
*Clwb Badminton o 1972-1981.  
*Clwb Badminton, 1972-1981.  
*Clwb Ieuenctid l987-1991 o dan ofal Hywel Williams a Bryn Williams.  
*Clwb Ieuenctid l987-1991 o dan ofal Hywel Williams a Bryn Williams.  
*Sioe Gwningod am rai blynyddoedd yn yr wythdegau o dan ofal Kenneth Pritchard.
*Sioe Gwningod am rai blynyddoedd yn yr wythdegau o dan ofal Kenneth Pritchard.
*Clinig Plant hyd 1971.
*Clinig Plant hyd 1971.
*[[Sefydliad y Merched Y Groeslon]] o 1931-1995]].
*[[Sefydliad y Merched Y Groeslon]], 1931-1995]].
*[[Clwb Garddio’r Groeslon]] a’r Sioe, 1941 ymlaen.
*[[Clwb Garddio’r Groeslon]] a’r Sioe, 1941 ymlaen.
*Dosbarth Cymdeithas Addysg y gweithwyr o tua 1941 ymlaen.
*Dosbarth Cymdeithas Addysg y Gweithwyr o tua 1941 ymlaen.
*[[Y Bytholwyrdd]], 1957 ymlaen.
*[[Y Bythol Wyrdd]], 1957 ymlaen.
*Clwb y Gwragedd Ifanc, 1975-80.
*Clwb y Gwragedd Ifanc, 1975-80.
*[[Merched y Wawr Y Groeslon]], 0 1977 ymlaen.
*[[Merched y Wawr Y Groeslon]], o 1977 ymlaen.
*Y Groes Goch yn y 1950au.
*Y Groes Goch yn y 1950au.
*[[Eisteddfod Y Groeslon]] o 1965 ymlaen.
*[[Eisteddfod Y Groeslon]] o 1965 ymlaen.
*[[Ysgol Feithrin Y Groeslon]] o 1974 ymlaen  
*Ysgol Feithrin Y Groeslon o 1974 ymlaen  
*Dechrau'r Clwb Snwcer ym 1983.  
*Dechrau'r Clwb Snwcer ym 1983.  
*Dosbarth gwaith lledr 1988.  
*Dosbarth gwaith lledr 1988.  
Llinell 38: Llinell 43:
*Clwb Karati 1991.  
*Clwb Karati 1991.  
*Dawnsio Llinell 1998-1999.
*Dawnsio Llinell 1998-1999.
*Y fenter ddiweddaraf yw’r sesiynau I ddysgwyr sy’n cael eu trefnu gan bwyllgor y Neuadd, a ddechreuodd yn 2018.
*Y fenter ddiweddaraf yw’r sesiynau i ddysgwyr sy’n cael eu trefnu gan bwyllgor y Neuadd, a ddechreuodd yn 2018.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:15, 20 Medi 2023

Mae Neuadd Y Groeslon yn sefyll ar allt y pentref.[1]

Bu'r neuadd yn ganolfan werthfawr i'r pentref o'r dechreuad. Ar ôl diwedd y rhyfel cyntaf y penderfynwyd cael neuadd neu 'institiwt', fel rhyw fath o goffád i'r rhai a gollasid yn y rhyfel 1914-1918. Prynwyd darn o dir gan Ystad Glynllifon a bu nifer o ddynion yn ei baratoi a chario cerrig. Wedyn prynwyd hen gwt gan y fyddin o Barc Cinmel am £25. Cwt sinc ydoedd gyda dau le tân glo i'w gynhesu ar y dechrau. Rhoddwyd llawer o'r cadeiriau pren yn rhodd gan y pentrefwyr. Ym mis Hydref, 1927 prynwyd bwrdd biliards am £66. ‘Roedd yr ystafell biliards ar agor o chwech o'r gloch hyd ddeg a byddai'n llawn bron bob nos. Tâl aelodaeth y clwb oedd 2s ond, gan fod nifer yn ddi-waith, fe'i gostyngwyd i swllt ym 1932. Y tâl am chwarae oedd tair ceiniog am hanner awr. Er bod y dull o gynhesu wedi newid i drydan ymhen rhai blynyddoedd 'roedd hi'n oer iawn yno; eto 'roedd defnydd cyson yn cael ei wneud ohoni. Ym 1938 dechreuwyd sôn am gael neuadd newydd ond daeth y rhyfel, felly ym 1945 yr aed ati o ddifrif i drafod a phwyllgora. O'r diwedd mentrwyd codi neuadd newydd yn costio tua £3,000. Y pensaer oedd Robert Pierce o Gaernarfon a gwnaed yr adeiladu gan adeiladwyr lleol Jones & Owen. Nos Fercher, Medi 16, 1953, am saith o'r gloch, agorwyd y neuadd newydd. Yn annerch y cyfarfod yr oedd Syr Ben Bowen Thomas; Mr John Gwilym Jones; y Fonesig Megan Lloyd George a Mr Mansel Williams; cafwyd cyngerdd gan artistiaid lleol a chanwyd emyn o eiddo Mr R. H. Griffith, yr oedd newydd ennill arno yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ystod y cyfarfod cyflwynodd y Pensaer allwedd y neuadd i'r llywydd Mr Alwyn Hughes-Jones. Bu Mr Alwyn Hughes-Jones yn llywydd y neuadd o 1947 hyd 1981 ac, ar wahân i roi o'i amser a'i frwdfrydedd, cyfrannodd yn hael iawn i goffrau'r neuadd trwy fuddsoddi a hefyd drwy dalu'r llogau ar y ddyled.Yn wir fe weithiodd nifer fawr o'r pentrefwyr yn ddiflino am flynyddoedd er mwyn codi arian i dalu am y neuadd.

Cofebion o flaen y Neuadd

Yn addas, fel sefydliad a ddechreuodd fel modd i goffáu'r rhai a laddwyd yn y ddau Ryfel Byd, mae placiau coffáu a ddaeth o gapeli Bryn'rodyn a Brynrhos wedi eu gosod o flaen y Neuadd wedi i'r capeli gau yn 2018.

Dathlwyd canmlwyddiant y neuadd wreiddiol fis Tachwedd 2022 trwy gynnal cyngerdd o dalentau lleol a fagwyd mewn digwyddiadau yn y neuadd ac efo arddangosfa am y neuadd trwy'r flynyddoedd.

Gweithgareddau'r Neuadd

Gellir rhestru rhai o'r gweithgareddau sydd wedi bod yn y Neuadd dros y blynyddoedd:

  • Cyngherddau, dramâu, gyrfaon chwist, arwerthiannau gwaith, carnifal a mabolgampau.
  • Clwb Biliards 1927-1960.
  • Cymdeithas ddrama.
  • Dosbarth Cymraeg i bobl ifanc. Cymdeithas gorawl gyda Mr Rowland Thomas, Y Post. Byddent yn cyfarfod bob nos Sul a bob nos Iau ac yn dysgu gweithiau fel y Messiah a Judas Maccabeus ar gyfer mynd i Ŵyl Harlech yn y 1920au.
  • Y Blaid Genedlaethol/Plaid Cymru.
  • Dangos Ffilmiau am gyfnod yn y pumdegau.
  • Dawnsfeydd yn fisol yn y chwedegau. Aelwyd yr Urdd Y Groeslon gydag Emrys Price-Jones, Elwyn Jones-Griffith ac Arthur Evans.
  • Clwb Badminton, 1972-1981.
  • Clwb Ieuenctid l987-1991 o dan ofal Hywel Williams a Bryn Williams.
  • Sioe Gwningod am rai blynyddoedd yn yr wythdegau o dan ofal Kenneth Pritchard.
  • Clinig Plant hyd 1971.
  • Sefydliad y Merched Y Groeslon, 1931-1995]].
  • Clwb Garddio’r Groeslon a’r Sioe, 1941 ymlaen.
  • Dosbarth Cymdeithas Addysg y Gweithwyr o tua 1941 ymlaen.
  • Y Bythol Wyrdd, 1957 ymlaen.
  • Clwb y Gwragedd Ifanc, 1975-80.
  • Merched y Wawr Y Groeslon, o 1977 ymlaen.
  • Y Groes Goch yn y 1950au.
  • Eisteddfod Y Groeslon o 1965 ymlaen.
  • Ysgol Feithrin Y Groeslon o 1974 ymlaen
  • Dechrau'r Clwb Snwcer ym 1983.
  • Dosbarth gwaith lledr 1988.
  • Dosbarth cadw'n heini 1988.
  • Dechrau Bowlio dan do o 1992.
  • Cylch Ti a Fi 1991.
  • Clwb Karati 1991.
  • Dawnsio Llinell 1998-1999.
  • Y fenter ddiweddaraf yw’r sesiynau i ddysgwyr sy’n cael eu trefnu gan bwyllgor y Neuadd, a ddechreuodd yn 2018.

Cyfeiriadau

  1. Sail yr erthygl hon yw testun llyfr Hanes Y Groeslon (Caernarfon, 2000), tt.95-105