Y Bythol Wyrdd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Clwb ar gyfer pobl hŷn pentref Y Groeslon oedd y Bythol Wyrdd. Fe'i sefydlwyd ym 1957 gan William J. Owen, Bryn Teg. Cyfarfyddai'r Clwb ddwywaith y mis yn y Neuadd, a hynny yn ystod y prynhawn. Sgwrs a the pnawn oedd y prif weithgareddau, er bod tripiau'n cael eu trefnu o bryd i'w gilydd, a mynd i rywle i gael cinio hefyd yn boblogaidd. Cynhaliwyd y cyfarfodydd am yn agos i hanner can mlynedd cyn iddynt dod i ben, er mai unwaith y mis y cynhelid hwy erbyn y diwedd.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), t.100