Emrys Price-Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Brodor o Lanllechid oedd Dr. Emrys Price-Jones (1940-2020) ac fe raddiodd mewn Mathameteg ym Mangor ym 1962. Treuliodd nifer o flynyddoedd fel athro Mathemateg, ac wedyn fel pennaeth yr adran Fathemateg, yn Ysgol Dyffryn Nantlle, ar ôl cyfnod byr yn dysgu'r pwnc yng Nghaergybi. Ymgartrefodd yn Y Groeslon, hynny'n ddigon naturiol ag ystyried fod ei wraig, Elen, yn ferch i Ifor Hughes, cyn-bennaeth Ysgol Penfforddelen yn y pentref. Am flwyddyn neu ddwy yn y 1970au bu'n bennaeth yn Ysgol Uwchradd Penrallt, Pwllheli, cyn symud yn ôl i Ysgol Dyffryn Nantlle fel pennaeth yn y 1980au cynnar. Yno y bu nes ei ymddeoliad.

Roedd yn arbenigwr mewn dwyieithrwydd plant, pwnc yr enillodd radd Doethur ynddo. Bu'n gefnogol iawn i'r Gymraeg yn yr ysgol yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol amrywiol.

Roedd hefyd yn weithgar yn ei bentref mabwysiedig; bu'n gadeirydd ar gangen leol Plaid Cymru, ac yn gefnogwr brwd i Glwb Garddio'r Groeslon, gan gipio nifer helaeth o wobrau am ei ddahlias, a hynny am flynyddoedd. Roedd yn un o sefydlwyr papur bro Lleu. O ystyried ei sêl dros yr iaith a Chymru, rhyfedd oedd ei benderfynoldeb dros gadw tîm pêl-droed Tref Caernarfon allan o drefn Cynghrair Cymru, gan fynnu aros gyda'r clybiau a ddewisodd chwarae yn y cynghreiriau Seisnig.

Bu farw 25 Hydref 2020, ar ôl cyfnod hir o salwch.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Geraint Lloyd Owen a Dewi Jones,Lleu, Rhif 525, (Rhagfyr 2020), t.6