Cae'r Gors: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Cae'r Gors yn furddun, Rhosgadfan c1975.jpg|bawd|400px|de|Cae'r Gors yn "furddun rheoledig" tua 1975]]
[[Delwedd:Cae'r Gors yn furddun, Rhosgadfan c1975.jpg|bawd|400px|de|Cae'r Gors yn "furddun rheoledig" tua 1975]]
[[Delwedd:Cae'r Gors - the Kate Roberts Heritage Centre, Rhosgadfan - geograph.org.uk - 959903.jpg|bawd|400px|de|Cae'r Gors wedi'i adfer]]
[[Delwedd:Cae-r-gors.jpg|bawd|400px|de|Cegin Cae'r Gors heddiw]]


Mae '''Cae'r Gors''' ynhen dyddyn yn [[Rhosgadfan]] a fu'n gartref plentyndod i Dr. [[Kate Roberts]]. Saif ar y ffordd o ben [[Gallt Pen Gwrli]] i'r groesffordd ger hen [[Capel Rhosgadfan (MC)|gapel]]. Mae caeau Cae'r Gors erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel meysydd [[Clwb Pêl-droed Mountain Rangers]].


Mae'r yn cael ei ddangos ar fap degwm 1839 a barn y Comisiwn Brenhinol yw ei fod yn dyddio o'r 19g. cynnar. Mae'n nodweddiadol o fythynnod y cyfnod hwnnw yn yr ardal: sef dwy ystafell a chroglofft.<ref>Gwefan ''Coflein'' (cyrchwyd 15.4.2019) [https://www.coflein.gov.uk/en/site/26171/details/caer-gorsearly-home-of-dr-kate-roberts]</ref>
Mae '''Cae'r Gors''' yn hen dyddyn yn [[Rhosgadfan]] a fu'n gartref plentyndod i Dr. [[Kate Roberts]]. Symudodd ei theulu yno'n fuan ar ôl 1891.<ref>Cyfrifiad Llandwrog, 1891</ref>Saif ar y ffordd o ben [[Gallt Pen Gwrli]] i'r groesffordd ger hen [[Capel Rhosgadfan (MC)|gapel]]. Mae caeau Cae'r Gors erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel meysydd [[Clwb Pêl-droed Mountain Rangers]].


Mae ffilm amatur ddi-sain o'r agoriad ym 1965, sy'n dangos y Ddr Kate Roberts ynghyd â'r Dr. [[John Gwilym Jones]] a'i chyflwynodd; mae nifer helaeth o bobl leol, a ffigyrau cenedlaethol megis Elwyn Roberts (Plaid Cymru), Bedwyr Lewis Jones a'r Dr. [[Dafydd Glyn Jones]] hefyd i'w gweld yn y ffilm. Mae modd ei gwylio trwy glicio '''yma''':[https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-cyflwyno-caer-gors-ir-genedl-kate-roberts-1971-online]
Mae'r tŷ yn cael ei ddangos ar fap degwm 1839 a barn y Comisiwn Brenhinol yw ei fod yn dyddio o'r 19g. cynnar. Mae'n nodweddiadol o fythynnod y cyfnod hwnnw yn yr ardal: sef dwy ystafell a chroglofft, gyda beudy dan yr un to, ond gyda mynedfa iddo o'r buarth ac nid o'r ..<ref>Gwefan ''Coflein'' (cyrchwyd 15.4.2019) [https://www.coflein.gov.uk/en/site/26171/details/caer-gorsearly-home-of-dr-kate-roberts]</ref>


Erbyn yr 1960au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ ym 1965 a'i gyflwyno i'r genedl er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel ''adfail rheoledig'', gan nad oedd digon o arian i'w hadfer yn iawn. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw deugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 2006-7,  adferwyd y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Roedd ''Cyfeillion Cae'r Gors'' wedi ei ffurfio ym 1997 i geisio adfer y tŷ. Roedd nifer o Gymry amlwg yn aelodau o'r Cyfeillion, gyda'r actor enwog o Ros-lan a oedd wedi ymgartrefu yn y Groeslon, [[Guto Roberts]] yn ysgrifennydd cyntaf; trwy sicrhau grantiau, fe wnaed y gwaith, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlwyo a chyfarfod hefyd. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau ym 2013 a maes o law fe'i drosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais grwpiau addysgol sydd am weld y lle, er i'r Cyfeillion ddal i barhau er mwyn rhoi cefnogaeth.<ref>Seiliwyd yr erthygl yn bennaf ar wybodaeth bersonol, Gwefan CADW (cyrchwyd 15.4.2019) [https://cadw.llyw.cymru/daysout/CaerGors/?lang=cy]</ref>
Mae ffilm amatur ddi-sain o'r agoriad ym 1965, sy'n dangos y Ddr Kate Roberts ynghyd â'r Dr. [[John Gwilym Jones]] a'i chyflwynodd; mae nifer helaeth o bobl leol, a ffigyrau cenedlaethol megis Elwyn Roberts (Plaid Cymru), Bedwyr Lewis Jones a [[Dafydd Glyn Jones]] hefyd i'w gweld yn y ffilm. Mae modd ei gwylio trwy glicio '''yma''':[https://player.bfi.org.uk/free/film/watch-cyflwyno-caer-gors-ir-genedl-kate-roberts-1971-online]
 
Erbyn yr 1960au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ ym 1965 a'i gyflwyno i'r genedl er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel ''adfail rheoledig'', gan nad oedd digon o arian i'w adfer yn iawn. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw deugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 2006-7,  adferwyd y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Roedd ''Cyfeillion Cae'r Gors'' wedi ei ffurfio ym 1997 i geisio adfer y tŷ. Roedd nifer o Gymry amlwg yn aelodau o'r Cyfeillion, gyda'r actor enwog o Ros-lan a oedd wedi ymgartrefu yn y Groeslon, [[Guto Roberts]] yn ysgrifennydd cyntaf; trwy sicrhau grantiau, fe wnaed y gwaith, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlwyo a chyfarfod hefyd. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau ym 2013 a maes o law fe'i trosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais grwpiau addysgol sydd am weld y lle, er i'r Cyfeillion ddal i barhau er mwyn rhoi cefnogaeth.<ref>Seiliwyd yr erthygl yn bennaf ar wybodaeth bersonol, Gwefan CADW (cyrchwyd 15.4.2019) [https://cadw.llyw.cymru/daysout/CaerGors/?lang=cy]</ref>


Erbyn hyn, ynghyd â bwthyn sydd wedi symud i Amgueddfa Werin Cymru, [[Llain Fadyn]], dyma bron yr unig adeiladau sy'n tystio i arddull a dull dodrefnu tyddynod y chwarelwyr yn [[Uwchgwyrfai]] yn ystod y 19g a dechrau'r 20g.
Erbyn hyn, ynghyd â bwthyn sydd wedi symud i Amgueddfa Werin Cymru, [[Llain Fadyn]], dyma bron yr unig adeiladau sy'n tystio i arddull a dull dodrefnu tyddynod y chwarelwyr yn [[Uwchgwyrfai]] yn ystod y 19g a dechrau'r 20g.


{{eginyn}}
==Darllen pellach==
Mae llyfr wedi ysgrifennu gan Dewi Tomos, sydd yn rhoi holl hanes Cae'r Gors a theulu Kate Roberts, sef ''Llyfr Lloffion Cae;'r Gors'', Llyfrau Llafar Gwlad 72 (Llanrwst, 2009).


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 17: Llinell 21:
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Diwylliant]]
[[Categori:Diwylliant]]
[[Categori:Tai nodedig]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:25, 28 Ionawr 2023

Cae'r Gors yn "furddun rheoledig" tua 1975
Cae'r Gors wedi'i adfer
Cegin Cae'r Gors heddiw


Mae Cae'r Gors yn hen dyddyn yn Rhosgadfan a fu'n gartref plentyndod i Dr. Kate Roberts. Symudodd ei theulu yno'n fuan ar ôl 1891.[1]Saif ar y ffordd o ben Gallt Pen Gwrli i'r groesffordd ger hen gapel. Mae caeau Cae'r Gors erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel meysydd Clwb Pêl-droed Mountain Rangers.

Mae'r tŷ yn cael ei ddangos ar fap degwm 1839 a barn y Comisiwn Brenhinol yw ei fod yn dyddio o'r 19g. cynnar. Mae'n nodweddiadol o fythynnod y cyfnod hwnnw yn yr ardal: sef dwy ystafell a chroglofft, gyda beudy dan yr un to, ond gyda mynedfa iddo o'r buarth ac nid o'r tŷ..[2]

Mae ffilm amatur ddi-sain o'r agoriad ym 1965, sy'n dangos y Ddr Kate Roberts ynghyd â'r Dr. John Gwilym Jones a'i chyflwynodd; mae nifer helaeth o bobl leol, a ffigyrau cenedlaethol megis Elwyn Roberts (Plaid Cymru), Bedwyr Lewis Jones a Dafydd Glyn Jones hefyd i'w gweld yn y ffilm. Mae modd ei gwylio trwy glicio yma:[1]

Erbyn yr 1960au, roedd Cae'r Gors yn wag a'r tŷ yn mynd â'i ben iddo. Prynodd Dr Kate Roberts y tŷ ym 1965 a'i gyflwyno i'r genedl er mwyn creu yr hyn a ddisgrifiwyd fel adfail rheoledig, gan nad oedd digon o arian i'w adfer yn iawn. Tynnwyd y to, tacluswyd y tu mewn, a gosod sawl plac llechen gyda dyfyniadau o'i gweithiau ar y muriau. Ryw deugain mlynedd yn ddiweddarach, ym 2006-7, adferwyd y tŷ fel bwthyn o oes ieuenctid Kate Roberts. Roedd Cyfeillion Cae'r Gors wedi ei ffurfio ym 1997 i geisio adfer y tŷ. Roedd nifer o Gymry amlwg yn aelodau o'r Cyfeillion, gyda'r actor enwog o Ros-lan a oedd wedi ymgartrefu yn y Groeslon, Guto Roberts yn ysgrifennydd cyntaf; trwy sicrhau grantiau, fe wnaed y gwaith, gan godi ystafell newydd gydag adnoddau arlwyo a chyfarfod hefyd. Am rai blynyddoedd agorwyd y tŷ i ymwelwyr yn ystod yr haf ond gyda'r nifer yn edwino, caewyd y drysau ym 2013 a maes o law fe'i trosglwyddwyd i ofal CADW, sydd yn agor yr adeilad ar gais grwpiau addysgol sydd am weld y lle, er i'r Cyfeillion ddal i barhau er mwyn rhoi cefnogaeth.[3]

Erbyn hyn, ynghyd â bwthyn sydd wedi symud i Amgueddfa Werin Cymru, Llain Fadyn, dyma bron yr unig adeiladau sy'n tystio i arddull a dull dodrefnu tyddynod y chwarelwyr yn Uwchgwyrfai yn ystod y 19g a dechrau'r 20g.

Darllen pellach

Mae llyfr wedi ysgrifennu gan Dewi Tomos, sydd yn rhoi holl hanes Cae'r Gors a theulu Kate Roberts, sef Llyfr Lloffion Cae;'r Gors, Llyfrau Llafar Gwlad 72 (Llanrwst, 2009).

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Llandwrog, 1891
  2. Gwefan Coflein (cyrchwyd 15.4.2019) [2]
  3. Seiliwyd yr erthygl yn bennaf ar wybodaeth bersonol, Gwefan CADW (cyrchwyd 15.4.2019) [3]