Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 3: Llinell 3:
Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef [[Plas Dolydd]], wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos [[Capel Bryn'rodyn (MC)]], cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd [[Evan Jones, Plas Dolydd]] yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.
Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef [[Plas Dolydd]], wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos [[Capel Bryn'rodyn (MC)]], cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd [[Evan Jones, Plas Dolydd]] yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.


Mae cofnodion o 1801 yn dangos y Dolydd fel canolfan creffwyr; claddwyd Richard Lloyd, teiliwr o'r Dolydd; a Mr John Jones, cyweiriwr lledr neu farcwr, Dolydd irion. Tybed ai Plas Dolydd oedd safle gwaith yr olaf o'r rhain.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Dolydd, 1801</ref>
Mae cofnodion o 1801 yn dangos y Dolydd fel canolfan creffwyr; claddwyd Richard Lloyd, teiliwr o'r Dolydd, 81 oed; a Mr John Jones, cyweiriwr lledr neu farcwr, Dolydd irion, 41 oed. Tybed ai Plas Dolydd oedd safle gwaith yr olaf o'r rhain.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Dolydd, 1801</ref>


Ymddengys hefyd fod tanerdy neu farcdy wedi bod yn y Dolydd am gyfnod sylweddol. Mae'n bosibl fod [[Edward Jones]]  o'r Dolydd (?1749-?1786) y cyfansoddwr anthemau, yn farcwr wrth ei waith;<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Llandwrog, 1786</ref> ac mae cofnod o 1824 fod un Edward Evans, barcwr o'r Dolydd, wedi sefyll yn warantwr ar gyfer crefftwr oedd yn gwella [[Pont y Crychddwr]].<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/190</ref>
Ymddengys hefyd fod tanerdy neu farcdy wedi bod yn y Dolydd am gyfnod sylweddol. Mae'n bosibl fod [[Edward Jones]]  o'r Dolydd (?1749-?1786) y cyfansoddwr anthemau, yn farcwr wrth ei waith;<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Llandwrog, 1786</ref> ac mae cofnod o 1824 fod un Edward Evans, barcwr o'r Dolydd, wedi sefyll yn warantwr ar gyfer crefftwr oedd yn gwella [[Pont y Crychddwr]].<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/190</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:16, 6 Ebrill 2020

Treflan fechan ar lan Afon Carrog ac Afon Gwyled, y ddwy afon sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r Groeslon yw'r Dolydd. Saif ar y ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.

Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos Capel Bryn'rodyn (MC), cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd Evan Jones, Plas Dolydd yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.

Mae cofnodion o 1801 yn dangos y Dolydd fel canolfan creffwyr; claddwyd Richard Lloyd, teiliwr o'r Dolydd, 81 oed; a Mr John Jones, cyweiriwr lledr neu farcwr, Dolydd irion, 41 oed. Tybed ai Plas Dolydd oedd safle gwaith yr olaf o'r rhain.[1]

Ymddengys hefyd fod tanerdy neu farcdy wedi bod yn y Dolydd am gyfnod sylweddol. Mae'n bosibl fod Edward Jones o'r Dolydd (?1749-?1786) y cyfansoddwr anthemau, yn farcwr wrth ei waith;[2] ac mae cofnod o 1824 fod un Edward Evans, barcwr o'r Dolydd, wedi sefyll yn warantwr ar gyfer crefftwr oedd yn gwella Pont y Crychddwr.[3]

Gerllaw Tollborth Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd Efail Dolydd, gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan Dafydd Ddu Eryri.[4] Dyna, mae'n debyg, cafodd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon ei addysg am gyfnod.[5] Olynydd yr efail honno yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.

Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef Band Dolydd.

Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle Melin Cil Tyfu, a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben Edmund Glynn, un o feibion plas Glynllifon, ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.

Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Dolydd, 1801
  2. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Llandwrog, 1786
  3. Archifdy Caernarfon, XPlansB/190
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  5. Geraint Jones,Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwst, 2008), tt.8, 17