Afon Gwyled

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Gwyled yn codi ger Penrhyn ar lethrau Moel Tryfan, gan fynd heibio i Fod-gadfan, Rhosgadfan a rhedeg trwy geunant bas ac agored ar hyd y lôn a elwir yn Allt Pen Gwrli - neu, yn swyddogol ar y mapiau, Allt Pen-y-gwylwyr. Aiff heibio i bentref Rhostryfan, lle saif pont drosti, sef Pont Cefn Pederau, ac yna llifo ar hyd dyffryn bas (ond un gyda cheunant ger fferm Cefn Hendre) nes ymuno ag Afon Carrog yr ochr orllewinol i'r bont yn y Dolydd. Ar ei glannau yr oedd melin a elwid yn Felin Cil Tyfu ac a oedd yn perthyn i stad Wynniaid Gwedir yn yr 16g.[1] Noda W. Gilbert Williams fod cymysgu wedi bod rhwng afonydd Gwyled a Charrog, ond yr afon a lifai agosaf at eglwys Llanwnda oedd yr Wyled, oherwydd cyfeiriadau ati yn Siartr Mynachlog Aberconwy.[2] Dichon am yr un rheswm, cafwyd enw newydd ar yr Wyled, sef Afon Rhyd. Serch hynny, mae dogfen dyddiedig 1778 yn sôn am Afon Dwyled yr oedd Pont Dwyled yn ei phontio ger Hen Gastell, Llanwnda.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XQS/Misc.
  2. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), t.17
  3. Archifdy Caernarfon XPlansB/160.