Melin Cil Tyfu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Melin Cil Tyfu'n sefyll yn y ceunant i'r dwyrain o fferm bresennol Cefn Hendre, Maen Coch. Mewn ewyllys o 1693 gelwir Cefn Hendre yn Kefn alias Kefn Kîl Ddyfi. [1]. Roedd yn cael ei gyrru gan rym dŵr Afon Wyled. Erbyn hyn, nid oes dim i'w weld ohoni.

Roedd y felin hon ym meddiant teulu Wynniaid Gwedir yn ystod ail hanner yr 16g, ac mae'n debyg iddo ei derbyn ar brydles oddi wrth y Goron. Erbyn 1566 roedd ym meddiant Morus Wynn o Wedir ac fe roddodd o brydles ar fferm a melin Cil Tyfu i Wylliam ap Davidd ap Wylliam am gyfnod o 4 blynedd tua'r flwyddyn honno. Nodir yn y brydles honno fod yr eiddo'n gorwedd rhwng Afon Wyled a Gwern y Tryfan.[2] Yn sicr, mae safle Melin Cil Tyfu'n bur hen, a gall ei bod yn dyddio'n ôl i gyfnod y Tywysogion.

Mae'r Record of Carnarvon (1352) yn cofnodi fod melin o'r enw Melin Heilyn yn bodoli o fewn ffiniau trefgordd Dinlle. Er nad yw'n glir ymhle roedd Melin Heilyn, mae fferm gyfagos heddiw o'r enw Tyddyn Heilyn, ac mae'n bosibl felly fod Melin Cil Tyfu yn enw mwy diweddar ar yr hon a elwid ynghynt yn Felin Heilyn.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. LLGC Dogfennau Profiant Esgobaeth Bangor B1693-64W
  2. Archifdy Caernarfon, papurau amrywiol y Llys Chwarter X/QSP/15-16
  3. https://places.library.wales/search/53.093/-4.279/17?alt=&page=1&refine=&query=Llanwnda&sort=score&order=desc&rows=100&parish_facet%5B%5D=Llanwnda Gwefan Llyfgell Genedlaethol Cymru