Efail Dolydd
Roedd Efail Dolydd yn un o'r adeiladau cyntaf i'w codi yn yr hyn sydd bellach yn bentref Dolydd, ym mhlwyf Llanwnda.
Mae'r tŷ yn dal i sefyll, gyferbyn â'r tŷ a elwir Y Bwthyn, lle gynt yr oedd prif dollborth y ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Dyffryn Nantlle. Dyma safle strategol bwysig, fel y gallai cwsmeriaid o bobtu'r giât doll gyrraedd y busnes i sicrhau gwasanaeth y gof.
Yn naturiol ddigon, canolbwyntiai'r efail ar wasanaethu'r gymuned amaethyddol, ac fe geir llawer o lidiardau hyd heddiw sydd yn nodi eu bod wedi cael eu gwneud gan Dolydd Smithy.
Ym 1861, Robert Thomas oedd y gof yno, ac yn oedd hefyd yn gweithredu fel groser i'r ardal. Roedd yn 68 oed, ac roedd ei fab, Robert, yn gweithio yn yr efail hefyd.[1] Ym 1889, yn ôl yr hanes yn y cyfarwyddiadur masnach ar gyfer Llanwnda, William R Roberts oedd y gof, ac fe gadwai siop yno hefyd.[2]
Yn ystod ail hanner y 20g, ac ar ôl i'r busnes symud i adeilad newydd lle mae Modurdy Dolydd heddiw, agorwyd caffi yn yr adeilad (The Old Smithy Café) gan Albanes o'r enw Mrs McGregor a'i ferch. Lluniwyd llwyn yn y maes parcio i fod ar siâp eliffant, a oedd yn nodwedd o'r ardal am flynyddoedd. Hyd heddiw, disgrifir llefydd yn y cyffiniau fel rhywle neu'i gilydd 'ger yr eliffant'! Cwmni diogelwch sydd yn gweithredu o'r safle erbyn hyn.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma