John Rowlands
Gŵr o Drawsfynydd yn wreiddiol oedd yr Athro Dr John Rowlands (1938-2015), nofelydd a beirniad llenyddol. Priododd â merch gyda chysylltiadau cryf ag Uwchgwyrfai, ac am gyfnod tua 1980, ac wedyn ar ôl iddo ymddeol fel Athro yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth, bu'n byw hyd ei farwolaeth yn Y Goeden Eirin, tŷ ar fferm Hendre (Llanwnda) yn y Dolydd.
Cyhoeddodd saith nofel:
- Lle Bo'r Gwenyn (1960)
- Yn Ôl I'w Teyrnasoedd (1963)
- Ienctid Yw 'Mhechod (1965)
- Llawer Is Na'r Angylion (1968)
- Bydded Tywyllwch (1969)
- Arch Ym Mhrâg (1972)
- Tician, Tician (1978)
Hefyd, roedd yn feirniad llenyddol cynhyrchiol iawn, yn olygydd ar sawl cyhoeddiad ac yn adolygydd cyson. Bu'n feirniad cyson ar y prif gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[1]
Roedd John Rowlands yn gerddor amatur galluog iawn, ac yn arbenigwr ar fwydydd a gwinoedd. Bu'n arddangos coginio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn adolygu bwytai i gwmni enwog. Gyda'i wraig, llwyddodd i redeg bwyty a gwesty moethus o safon uchel am nifer o flynyddoedd yn y Dolydd.
Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.