Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 20 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Treflan fechan ar lan yr Afon Carrog ac Afon Gwyled sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd ac [[Y Groeslon]] yw'r '''Dolydd'''. Saif ar bobtu'r ffin rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a [[Llandwrog]]. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd yn gorwedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe orwedd y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.
Treflan fechan ar lan [[Afon Carrog]] ac [[Afon Gwyled]], y ddwy afon sy'n cwrdd dan [[Pont Dolydd|Bont Dolydd]], ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y [[Bontnewydd]] a'r [[Groeslon]] yw'r '''Dolydd'''. Saif ar y ffin rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a [[Llandwrog]]. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.


Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos [[Capel Bryn'rodyn]], cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd [[Evan Jones (Plas Dolydd)]] yn adeiladydd a chontractor pwysig yng nghanol y 19g.
Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef [[Plas Dolydd]], wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos [[Capel Bryn'rodyn (MC)]], cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd [[Evan Jones, Plas Dolydd]] yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.


Gerllaw Giât Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd [[Efail Dolydd]], efail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganfif. Olynydd y busnes gwledig hwnnw yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.
Mae cofnodion o 1801 yn dangos y Dolydd fel canolfan creffwyr; claddwyd Richard Lloyd, teiliwr o'r Dolydd, 81 oed; a Mr John Jones, cyweiriwr lledr neu farcwr, Dolydd irion, 41 oed. Tybed ai Plas Dolydd oedd safle gwaith yr olaf o'r rhain.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Dolydd, 1801</ref>


Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.
Ymddengys hefyd fod tanerdy neu farcdy wedi bod yn y Dolydd am gyfnod sylweddol. Mae'n bosibl fod [[Edward Jones]]  o'r Dolydd (?1749-?1786) y cyfansoddwr anthemau, yn farcwr wrth ei waith;<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr Llandwrog, 1786</ref> ac mae cofnod o 1824 fod un Edward Evans, barcwr o'r Dolydd, wedi sefyll yn warantwr ar gyfer crefftwr oedd yn gwella [[Pont y Crychddwr]].<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/190</ref>


Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.
Gerllaw [[Tollborth Dolydd]], tollborth ar y [[Ffyrdd Tyrpeg|ffordd dyrpeg]] (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd [[Efail Dolydd]], gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan [[Dafydd Ddu Eryri]].<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> Dyna, mae'n debyg, cafodd [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]] ei addysg am gyfnod.<ref>Geraint Jones,''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Llanrwst, 2008), tt.8, 17</ref> Olynydd yr efail honno yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.
 
Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef [[Band Dolydd]].
 
Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm [[Cefn Hendre]]) safle [[Melin Cil Tyfu]], a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a [[Hen Gastell]] ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r [[Hendre (Llanwnda)|Hendre]], cartref y Cadben [[Edmund Glynn]], un o feibion plas [[Glynllifon]], ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.
 
Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro [[John Rowlands]].
 
==Cyfeiriadau==
 
[[Categori:Pentrefi a threflannau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:16, 6 Ebrill 2020

Treflan fechan ar lan Afon Carrog ac Afon Gwyled, y ddwy afon sy'n cwrdd dan Bont Dolydd, ac sydd ar yr hen ffordd dyrpeg (A487) rhwng y Bontnewydd a'r Groeslon yw'r Dolydd. Saif ar y ffin rhwng plwyfi Llanwnda a Llandwrog. Cafwyd yr enw o fferm Dolydd Byrion oedd i'r dwyrain o'r ffordd, ac arddelid yr enw hwnnw'n llawn am beth amser fel enw'r dreflan. Dichon, fodd bynnag, mai Dolydd Irion oedd yr enw gwreiddiol; ceir yr enw ar fap John Evans o Ogledd Cymru (1804). Fe saif y Dolydd ar lawr dyffryn bas yr Afon Carrog, ac mae'r tir yn tueddu i aros yn iraidd pan fydd llymder y gaeaf wedi llosgi tyfiant y caeau oddi amgylch.

Mae'r tŷ mwyaf yn y Dolydd, sef Plas Dolydd, wedi arfer bod yn dafarn ac yno y cyfarfu egin gynulleidfa achos Capel Bryn'rodyn (MC), cyn i'r capel gael ei godi tua chwarter milltir i'r de. Roedd Evan Jones, Plas Dolydd yn adeiladydd a chontractwr pwysig yng nghanol y 19g.

Mae cofnodion o 1801 yn dangos y Dolydd fel canolfan creffwyr; claddwyd Richard Lloyd, teiliwr o'r Dolydd, 81 oed; a Mr John Jones, cyweiriwr lledr neu farcwr, Dolydd irion, 41 oed. Tybed ai Plas Dolydd oedd safle gwaith yr olaf o'r rhain.[1]

Ymddengys hefyd fod tanerdy neu farcdy wedi bod yn y Dolydd am gyfnod sylweddol. Mae'n bosibl fod Edward Jones o'r Dolydd (?1749-?1786) y cyfansoddwr anthemau, yn farcwr wrth ei waith;[2] ac mae cofnod o 1824 fod un Edward Evans, barcwr o'r Dolydd, wedi sefyll yn warantwr ar gyfer crefftwr oedd yn gwella Pont y Crychddwr.[3]

Gerllaw Tollborth Dolydd, tollborth ar y ffordd dyrpeg (y chwalwyd ei holion olaf wrth godi tŷ newydd a elwir Y Bwthyn) oedd Efail Dolydd, gefail gynhyrchiol iawn hyd yr ugeinfed ganrif. Mae'n bosibl mai yn yr efail hon yn cynhelid ysgol am gyfnod byr tua 1810 gan Dafydd Ddu Eryri.[4] Dyna, mae'n debyg, cafodd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon ei addysg am gyfnod.[5] Olynydd yr efail honno yw'r modurdy presennol ger y bont, sydd bellach hefyd yn rhedeg swyddfa bost ar gyfer y Groeslon a'r cylch.

Am gyfnod byr cyn diwedd y 19g bu band yn y dreflan, sef Band Dolydd.

Nid nepell o'r Dolydd fe geir (mewn ceunant y tu ôl i fferm Cefn Hendre) safle Melin Cil Tyfu, a fu'n eiddo i deulu Wynniaid Gwedir yn ystod y 16g. Ar hyd y llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r bont i'r gorllewin i gyfeiriad lôn Pwllheli a Hen Gastell ceir olion a all fod yn hen wal gefn plasty'r Hendre, cartref y Cadben Edmund Glynn, un o feibion plas Glynllifon, ynad heddwch ac arweinydd gweinyddiad sirol yn ystod teyrnasiad Cromwell.

Y Goeden Eirin, tŷ a addaswyd o hen adeiladau fferm yr Hendre, oedd cartref olaf y llenor a'r beirniad yr Athro John Rowlands.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Plwyf Dolydd, 1801
  2. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Llandwrog, 1786
  3. Archifdy Caernarfon, XPlansB/190
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  5. Geraint Jones,Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Llanrwst, 2008), tt.8, 17