Tafarndai Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| Llinell 13: | Llinell 13: | ||
Am fwy o fanylion am y tafarndai unigol, gweler yr erthyglau amdanynt. | Am fwy o fanylion am y tafarndai unigol, gweler yr erthyglau amdanynt. | ||
Ceir sôn hefyd fod tafarn o'r enw "Traveller's Rest" ger [[Treddafydd]] a thafarn gyferbyn â'r Red Lion.<ref>Gwefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-pen-y-groes-hen-siopau.htm], adalwyd 10.9.2018</ref> | Ceir sôn hefyd fod tafarn o'r enw "Traveller's Rest" ger [[Treddafydd]] a thafarn gyferbyn â'r Red Lion.<ref>Gwefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-pen-y-groes-hen-siopau.htm], adalwyd 10.9.2018</ref> Ceir cyfeiriad weithiau at y "Brynkir Arms", er efallai mai'r Pembroke Arms oedd honno, gan ei bod yn eiddo i [[Ystad Bryncir]]. | ||
Tafarn yr Afr yw'r unig dafarn sydd yn dal yn agored. Rhaid cofio, fodd bynnag, am Glwb y Cyn-filwyr yn y pentref sydd yn gwasanaethu fel clwb yfed ymysg pethau eraill. | Tafarn yr Afr yw'r unig dafarn sydd yn dal yn agored. Rhaid cofio, fodd bynnag, am Glwb y Cyn-filwyr yn y pentref sydd yn gwasanaethu fel clwb yfed ymysg pethau eraill. | ||
Fersiwn yn ôl 15:36, 14 Hydref 2025
Yn ystod cyfnod twf poblogaeth Dyffryn Nantlle rhwng, dyweder, 1860 a 1900, roedd o leiaf saith, os nad naw, o dafarndai ym mhentref Pen-y-groes yn y 19g. Datblygodd sawl un ar dir a oedd yn eiddo i Ystad Bryncir, ond gyda thwf y mudiad dirwest, cododd gwrthwynebiad cynyddol i'r ddiod cadarn ac nid oedd yr ynadon a roddai drwyddedau i dafarndai yn gwbl fyddar i'w dadleuon.
Enwau'r tafarndai a fu'n gwasanaethu Pen-y-groes oedd:
- Tafarn yr Afr (neu'r Goat), ger Gorsaf reilffordd Pen-y-groes. Yn dal yn agored.
- Tafarn y Pembroke Arms, gyferbyn â Thafarn y Stag. Caewyd 1891-2.
- Tafarn y Prince Llewelyn ger safle'r Ganolfan Hamdden heddiw. Caewyd 1903.
- Tafarn y Prince of Wales ger safle Neuadd y Farchnad. Caewyd 1903.
- Gwesty'r Red Lion, ar ben uchaf Heol y Dŵr, gyferbyn â Capel Soar. Caewyd 1956.
- Tafarn y Stag, hen dafarn o oes y goets fawr, a safai wrth hen groesffordd y dyffryn, ac sydd bellach yn eiddo i gwmni Siop Griffiths fel caffi'r Orsaf
- Gwesty Victoria, adeilad sy'n dal i sefyll ar gornel prif groesffordd y pentref. Caewyd 2010.
Am fwy o fanylion am y tafarndai unigol, gweler yr erthyglau amdanynt.
Ceir sôn hefyd fod tafarn o'r enw "Traveller's Rest" ger Treddafydd a thafarn gyferbyn â'r Red Lion.[1] Ceir cyfeiriad weithiau at y "Brynkir Arms", er efallai mai'r Pembroke Arms oedd honno, gan ei bod yn eiddo i Ystad Bryncir.
Tafarn yr Afr yw'r unig dafarn sydd yn dal yn agored. Rhaid cofio, fodd bynnag, am Glwb y Cyn-filwyr yn y pentref sydd yn gwasanaethu fel clwb yfed ymysg pethau eraill.