Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sefydlwyd '''Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon''' ym 1768 trwy ddeddf seneddol. Gan fod y cyfrifoldeb am gynnal ffyrdd y sir wedi gorwedd gyda phlwyfi...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Sefydlwyd '''Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon''' ym 1768 trwy ddeddf seneddol. Gan fod y cyfrifoldeb am gynnal ffyrdd y sir wedi gorwedd gyda phlwyfi unigol dan arolygaeth yr ynadon heddwch, roedd hi wedi profi'n amhosibl i sicrhau cysondeb neu gydgordio o ran cynnal a chadw'r ffyrdd mewn cyflwr derbyniol. O dipyn i beth, sefydlwyd ymddiriedolaethau ar draws Cymru - a Lloegr - a fyddai'n creu system fodern ac effeithlon o ran ffyrdd. Telid am y gwaith hwn trwy godi tollau ar y sawl a ddefnyddiai'r ffyrdd, a gosodwyd giatiau ar draws y lôn bob hyn a hyn lle bu raid talu'r doll. Gan fod rhai ymddiriedolaethau'n farrus, codwyd gwrthwynebiad ffyrnig a esgorodd yn y diwedd ar Derfysgoedd Rebeca - er nad oes cofnod o drwbl mawr yn Sir Gaernarfon.
Sefydlwyd '''Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon''' ym 1768 trwy ddeddf seneddol. Gan fod y cyfrifoldeb am gynnal ffyrdd y sir wedi cael ei ysgwyddo gan blwyfi unigol dan arolygaeth yr ynadon heddwch, roedd wedi profi'n amhosibl i sicrhau cysondeb neu gydgordio o ran cynnal a chadw'r ffyrdd mewn cyflwr derbyniol. O dipyn i beth, sefydlwyd ymddiriedolaethau ar draws Cymru - a Lloegr - a fyddai'n creu system fodern ac effeithlon o ran ffyrdd. Telid am y gwaith hwn trwy godi tollau ar y sawl a ddefnyddiai'r ffyrdd, a gosodwyd giatiau ar draws y lôn bob hyn a hyn lle byddai'n rhaid talu'r doll. Gan fod rhai ymddiriedolaethau'n farus, cododd gwrthwynebiad ffyrnig a esgorodd yn y diwedd ar Derfysgoedd Rebeca - er nad oes cofnod o drwbl mawr yn Sir Gaernarfon.

Cychwynnodd yr Ymddiriedolaeth ar ei gwaith trwy greu ffordd fawr o Gonwy trwy Fangor a Chaernarfon ac ymlaen am Bwllheli. Ar ôl sicrhau ail ddeddf a ganiataodd i'r Ymddiriedpolaeth adeiladu ffordd o Gonwy i Lanrwst ym 1777, bu'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n galed i orffen y gwaith. Symudodd ymlaen wedyn, gan sicrhau deddf arall eto, hynny ym 1810, i gysylltu eu ffyrdd nhw gyda ffordd dyrpeg Ymddiriedolaeth Dyrpeg Porthdinlläen, a oedd wedi ei hawdurdodi i adeiladu ffordd o Borthdinlläen trwy Bwllheli, Tremadog a Beddgelert i Gapel Curig. Yn ogystal â ffyrdd o Gaernarfon i Ben-y-gwryd a Beddgelert (gyda rhannau o'r ffordd olaf hon yn pasio trwy [[Uwchgwyrfai]] rhwng [[Cwellyn]] a [[Rhyd-ddu]]), cafwyd awdurdod i adeiladu ffordd o [[Glan-rhyd]] trwy [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i Dremadog,ynghyd â ffordd groes o [[Clynnog Fawr|Glynnog]] i [[Berth]] ger [[Llanllyfni]] ac o Ben-y-groes heibio [[Pant Du]] a [[Gelli-ffrydiau]] i Ryd-ddu. Erbyn yr 1820au felly roedd gan Uwchgwyrfai ddwy lôn bost o safon, ynghyd â lôn o Glynnog ar hyd [[Dyffryn Nantlle]].

Er mwyn talu am y gwaith, rhaid oedd codi tollbyrth. Lleolwyd nifer o fewn ffinau'r cwmwd, er y giatiau mwyaf cynhyrchiol oedd giatiau Pont Seiont a Maes Mawr (ychydig uwchben tref Pwllheli, ger Tyddyn Iocws). Wrth basio'r giatiau hyn a thalu'r doll, gellid teithio cryn bellter gan fod y tocyn yn "rhyddhau" giatiau yn nes ymlaen ar y siwrne. Os oedd rhywun yn cychwyn ar daith o fewn y cwmwd, roedd rhaid cofio fod tollborth cyn cyrraedd y dref agosaf. Serch hynny, roedd yna nifer o dollbyrth o fewn ffiniau'r cwmwd i dal y traffig mwy lleol:
Er mwyn talu am y gwaith, rhaid oedd codi tollbyrth. Lleolwyd nifer o fewn ffinau'r cwmwd, er y giatiau mwyaf cynhyrchiol oedd giatiau Pont Seiont a Maes Mawr (ychydig uwchben tref Pwllheli, ger Tyddyn Iocws). Wrth basio'r giatiau hyn a thalu'r doll, gellid teithio cryn bellter gan fod y tocyn yn "rhyddhau" giatiau yn nes ymlaen ar y siwrne. Os oedd rhywun yn cychwyn ar daith o fewn y cwmwd, roedd rhaid cofio fod tollborth cyn cyrraedd y dref agosaf. Serch hynny, roedd yna nifer o dollbyrth o fewn ffiniau'r cwmwd i ddal y traffig mwy lleol:
  * Tollborth [[Dolydd]]
  * Tollborth [[Tyrpeg Dolydd|Dolydd]]
  * Tollborth [[Y Berth]]
  * Tollborth [[Tyrpeg Y Berth|Y Berth]]
  * Tollborth [[Clynnog-fawr]]
  * Tollborth [[Tyrpeg Clynnog Fawr|Clynnog-fawr]]
  * Tollborth [[Llanaelhaearn]] - caewyd pan agorwyd Tollborth Clynnog-fawr.
  * Tollborth [[Tyrpeg Llanaelhaearn|Llanaelhaearn]] - caewyd pan agorwyd Tollborth Clynnog-fawr.
  * Tollborth [[Pant Du]]
  * Tollborth [[Tyrpeg Pant Du|Pant Du]]
  * Tollborth [[Gelli-ffrydiau]]
  * Tollborth [[Tyrpeg Gelli|Gelli-ffrydiau]]
  * Tollborth [[Rhyd-ddu]]
  * Tollborth [[Tyrpeg Rhyd-ddu|Rhyd-ddu]]

Nid oedd y rhai a gadwai'r tollbvyrth yn weision i'r Ymddiriedolaeth. Yn hytrach, gofynnwyd am dendrau bob blwyddyn am redeg y giatiau hyn a chodi'r tollau. Byddai'r sawl a enillai'r tendr yn cael ei elw trwy sicrhau bod pob ceiniog ddyledus yn cael ei thalu.
Nid oedd y rhai a gadwai'r tollbyrth yn weision i'r Ymddiriedolaeth. Yn hytrach, gofynnid am dendrau bob blwyddyn am redeg y giatiau hyn a chodi'r tollau. Byddai'r sawl a enillai'r tendr yn cael ei elw trwy sicrhau bod pob ceiniog ddyledus yn cael ei thalu.

Trwy ganol y 19g. ceisiodd yr Ymddiriedolaeth leihau'r dyledion oedd ganddi. O swm nid ansylweddol o £18,636 ym 1846, llwyddwyd i ostwng y ffigwr i ddim ond £726 ym 1881.<ref>R.T. Pritchard, ''The Caernarvonshire Turnpike Trust'', ''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.17 (1956), tt.62-74</ref>

Ym 1882, diddymwyd yr Ymddiriedolaeth, gan ryddhau ei ffyrdd o dollau. Unig olion y system erbyn hyn yw'r tollbyrth - mae'r rhan fwyaf ag eithrio Dolydd, Llanaelhaearn a Rhyd-ddu  i'w gweld hyd heddiw.
Ym 1882, diddymwyd yr Ymddiriedolaeth, gan ryddhau ei ffyrdd o dollau. Unig olion y system erbyn hyn yw'r tollbyrth - mae'r rhan fwyaf ac eithrio Dolydd, Llanaelhaearn a Rhyd-ddu  i'w gweld hyd heddiw.

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

[[Categori:Ffyrdd]]
[[Categori:Ffyrdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:42, 20 Ionawr 2023

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon ym 1768 trwy ddeddf seneddol. Gan fod y cyfrifoldeb am gynnal ffyrdd y sir wedi cael ei ysgwyddo gan blwyfi unigol dan arolygaeth yr ynadon heddwch, roedd wedi profi'n amhosibl i sicrhau cysondeb neu gydgordio o ran cynnal a chadw'r ffyrdd mewn cyflwr derbyniol. O dipyn i beth, sefydlwyd ymddiriedolaethau ar draws Cymru - a Lloegr - a fyddai'n creu system fodern ac effeithlon o ran ffyrdd. Telid am y gwaith hwn trwy godi tollau ar y sawl a ddefnyddiai'r ffyrdd, a gosodwyd giatiau ar draws y lôn bob hyn a hyn lle byddai'n rhaid talu'r doll. Gan fod rhai ymddiriedolaethau'n farus, cododd gwrthwynebiad ffyrnig a esgorodd yn y diwedd ar Derfysgoedd Rebeca - er nad oes cofnod o drwbl mawr yn Sir Gaernarfon.

Cychwynnodd yr Ymddiriedolaeth ar ei gwaith trwy greu ffordd fawr o Gonwy trwy Fangor a Chaernarfon ac ymlaen am Bwllheli. Ar ôl sicrhau ail ddeddf a ganiataodd i'r Ymddiriedpolaeth adeiladu ffordd o Gonwy i Lanrwst ym 1777, bu'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n galed i orffen y gwaith. Symudodd ymlaen wedyn, gan sicrhau deddf arall eto, hynny ym 1810, i gysylltu eu ffyrdd nhw gyda ffordd dyrpeg Ymddiriedolaeth Dyrpeg Porthdinlläen, a oedd wedi ei hawdurdodi i adeiladu ffordd o Borthdinlläen trwy Bwllheli, Tremadog a Beddgelert i Gapel Curig. Yn ogystal â ffyrdd o Gaernarfon i Ben-y-gwryd a Beddgelert (gyda rhannau o'r ffordd olaf hon yn pasio trwy Uwchgwyrfai rhwng Cwellyn a Rhyd-ddu), cafwyd awdurdod i adeiladu ffordd o Glan-rhyd trwy Ben-y-groes i Dremadog,ynghyd â ffordd groes o Glynnog i Berth ger Llanllyfni ac o Ben-y-groes heibio Pant Du a Gelli-ffrydiau i Ryd-ddu. Erbyn yr 1820au felly roedd gan Uwchgwyrfai ddwy lôn bost o safon, ynghyd â lôn o Glynnog ar hyd Dyffryn Nantlle.

Er mwyn talu am y gwaith, rhaid oedd codi tollbyrth. Lleolwyd nifer o fewn ffinau'r cwmwd, er y giatiau mwyaf cynhyrchiol oedd giatiau Pont Seiont a Maes Mawr (ychydig uwchben tref Pwllheli, ger Tyddyn Iocws). Wrth basio'r giatiau hyn a thalu'r doll, gellid teithio cryn bellter gan fod y tocyn yn "rhyddhau" giatiau yn nes ymlaen ar y siwrne. Os oedd rhywun yn cychwyn ar daith o fewn y cwmwd, roedd rhaid cofio fod tollborth cyn cyrraedd y dref agosaf. Serch hynny, roedd yna nifer o dollbyrth o fewn ffiniau'r cwmwd i ddal y traffig mwy lleol:

* Tollborth Dolydd
* Tollborth Y Berth
* Tollborth Clynnog-fawr
* Tollborth Llanaelhaearn - caewyd pan agorwyd Tollborth Clynnog-fawr.
* Tollborth Pant Du
* Tollborth Gelli-ffrydiau
* Tollborth Rhyd-ddu

Nid oedd y rhai a gadwai'r tollbyrth yn weision i'r Ymddiriedolaeth. Yn hytrach, gofynnid am dendrau bob blwyddyn am redeg y giatiau hyn a chodi'r tollau. Byddai'r sawl a enillai'r tendr yn cael ei elw trwy sicrhau bod pob ceiniog ddyledus yn cael ei thalu.

Trwy ganol y 19g. ceisiodd yr Ymddiriedolaeth leihau'r dyledion oedd ganddi. O swm nid ansylweddol o £18,636 ym 1846, llwyddwyd i ostwng y ffigwr i ddim ond £726 ym 1881.[1]

Ym 1882, diddymwyd yr Ymddiriedolaeth, gan ryddhau ei ffyrdd o dollau. Unig olion y system erbyn hyn yw'r tollbyrth - mae'r rhan fwyaf ac eithrio Dolydd, Llanaelhaearn a Rhyd-ddu i'w gweld hyd heddiw.

Cyfeiriadau

  1. R.T. Pritchard, The Caernarvonshire Turnpike Trust, Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.17 (1956), tt.62-74