Y Berth

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Berth)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Berth yw'r fan lle cyfarfyddai'r ffordd dyrpeg gynt o gyfeiriad Clynnog Fawr trwy bentref Tai'n Lôn â'r hen ffordd fawr trwy bentref Llanllyfni i gyfeiriad Pant-glas, ychydig i'r de o dai Pont-y-Crychddwr. Hyd heddiw ceir yno ffermydd Tyddyn-y-berth ac Efail-y-berth. Man addas ddau gan mlynedd yn ôl ar gyfer gefail oedd cyffordd rhwng dwy o ffyrdd pwysicaf y fro. Yn nogfennau Cyfrifiad 1841, sonnir am "Berth" yn lle Tyddyn-y-berth, a "Rhefal". Owen Williams, gof 28 oed, oedd yn byw yn yr Efail, ond roedd o'n ffarmio hefyd. Yn y Berth, roedd William Roberts, ffermwr 69 oed, yn byw; a hefyd yn y Berth, roedd Owen Williams (arall), ffermwr 30 oed. Rhwng yr Efail a'r Berth y pryd hynny safai tŷ tyrpeg, "Turnpike Berth", lle roedd Catherine Williams, 44 oed, yn byw.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau