Cwellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Cwellyn''' yw enw plasty bach sydd sefyll wrth ben uchaf Llyn Cwellyn. Mae'r llyn, ac hefyd Pont Cwellyn ac Afon Cwellyn yn cymryd eu henwa...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 10 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Cwellyn''' yw enw plasty bach sydd sefyll wrth ben uchaf [[Llyn Cwellyn]]. Mae'r llyn, | '''Cwellyn''' yw enw plasty bach sydd yn sefyll wrth ben uchaf [[Llyn Cwellyn]]. Mae'r llyn, a hefyd [[Pont Cwellyn]] ac [[Afon Cwellyn]], wedi'u henwi, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf [[Llanwnda]], sydd bellach yn rhan o blwyf [[Betws Garmon]] ar gyrion mwyaf dwyreiniol [[Uwchgwyrfai]]. Yr oedd gan y teulu [[Ystad Cwellyn|ystad]] fechan yng nghyffiniau'r llyn. | ||
Sylfaenydd y teulu a ymsefydlodd yng Nghwellyn, gan fabwysiadu'r enw fel cyfenw ar y teulu, oedd Gruffydd ap [[Tudur Goch]] o [[Plas Nantlle|Blas Nantlle]].<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt. 172, 229</ref> | |||
Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "''a very mean building''", a oedd gynt yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi cael perchnogion newydd.<ref>Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.</ref> | |||
Roedd y teulu a oedd wedi mabwysiadu'r cyfenw Quellyn wedi symud o'r plasty rywbryd yn ystod y 18g, efallai i fferm arall, Cwm Bychan, yn yr un plwyf. Rywbryd cyn 1792, roedd ffermwr o'r enw William Jones wedi cymryd y lle ar brydles. Mae rhestr o'i eiddo pan fu farw yn dangos ei fod yn ffermwr ar raddfa weddol fawr o ystyried y cyfnod<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86</ref>. Roedd 5 ystafell yn y tŷ, a'r dodrefn yno'n werth £21.19.0c, ynghyd â gwerth £4.5.0c o fenyn. Roedd yno 100 o ddefaid a 35 o ŵyn, gwerth £36.2.6c i gyd; tarw gwerth £4.3.0c, 10 o fuchod, 10 o fustych, 10 llo blwydd a 9 o loi dwyflwydd, gwerth £108.9.0c; mochyn, gwair, offer fferm a llo arall (a restrwyd ar wahân am ryw reswm - eiddo oedd yn werth £208.9.0c i gyd. Roedd hyn yn swm nid ansylweddol i ffarmwr ar y pryd. | |||
Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail ni wyddys, mai ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.229</ref>, ond mae Glenda Carr o'r un farn â'r Athro J. Lloyd-Jones, sef ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu ''Cawellyn''.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Caernarfon, 2011), t.130.</ref> | |||
Cymerodd y [[Teulu Cwellyn|teulu]] eu cyfenw oddi wrth y lle - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai a wnaeth hynny (ar wahân i [[Glynniaid Glynllifon|deulu Glynllifon]]). | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Plastai]] | [[Categori:Plastai]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:01, 2 Ionawr 2022
Cwellyn yw enw plasty bach sydd yn sefyll wrth ben uchaf Llyn Cwellyn. Mae'r llyn, a hefyd Pont Cwellyn ac Afon Cwellyn, wedi'u henwi, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf Llanwnda, sydd bellach yn rhan o blwyf Betws Garmon ar gyrion mwyaf dwyreiniol Uwchgwyrfai. Yr oedd gan y teulu ystad fechan yng nghyffiniau'r llyn.
Sylfaenydd y teulu a ymsefydlodd yng Nghwellyn, gan fabwysiadu'r enw fel cyfenw ar y teulu, oedd Gruffydd ap Tudur Goch o Blas Nantlle.[1]
Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "a very mean building", a oedd gynt yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi cael perchnogion newydd.[2]
Roedd y teulu a oedd wedi mabwysiadu'r cyfenw Quellyn wedi symud o'r plasty rywbryd yn ystod y 18g, efallai i fferm arall, Cwm Bychan, yn yr un plwyf. Rywbryd cyn 1792, roedd ffermwr o'r enw William Jones wedi cymryd y lle ar brydles. Mae rhestr o'i eiddo pan fu farw yn dangos ei fod yn ffermwr ar raddfa weddol fawr o ystyried y cyfnod[3]. Roedd 5 ystafell yn y tŷ, a'r dodrefn yno'n werth £21.19.0c, ynghyd â gwerth £4.5.0c o fenyn. Roedd yno 100 o ddefaid a 35 o ŵyn, gwerth £36.2.6c i gyd; tarw gwerth £4.3.0c, 10 o fuchod, 10 o fustych, 10 llo blwydd a 9 o loi dwyflwydd, gwerth £108.9.0c; mochyn, gwair, offer fferm a llo arall (a restrwyd ar wahân am ryw reswm - eiddo oedd yn werth £208.9.0c i gyd. Roedd hyn yn swm nid ansylweddol i ffarmwr ar y pryd.
Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail ni wyddys, mai ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn[4], ond mae Glenda Carr o'r un farn â'r Athro J. Lloyd-Jones, sef ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu Cawellyn.[5]
Cymerodd y teulu eu cyfenw oddi wrth y lle - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai a wnaeth hynny (ar wahân i deulu Glynllifon).
Cyfeiriadau
- ↑ J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 172, 229
- ↑ Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.229
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.130.