Tyddyn Parthle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Tyddyn Parthle ar y dde oddi ar y lôn gul sy'n mynd o gyrion Y Bontnewydd i gyfeiriad gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan ar Reilffordd Eryri. Mae'n enw sydd wedi achosi cryn benbleth. Tyddyn y Barty a gofnodwyd mewn ewyllys ym 1717, ond nid yw o fawr gymorth i ddatrys tarddiad yr enw. Fodd bynnag, ym 1759 (Casgliad Llanfair a Brynodol, LlGC) cofnodwyd Tyddyn Barkley - sy'n awgrymu'n bendant mai'r cyfenw Barkley/Barclay a geir yma. Mewn cofnodion dilynol ceir amrywiaeth helaeth o ffurfiau ar yr enw wrth i'r cyfenw Barkley neu Bartley fynd yn angof ac am gyfnod cafwyd y ffurf ddiystyr partle - Tyddyn Partle sydd yn y Rhestr Pennu'r Degwm ym 1839 ac yng Nghyfrifiad 1851. Daeth rhai i gredu mai gwall am parthle oedd partle - ac felly nodwyd Tyddyn-parthle ar fap Ordnans 1919 ac yng Nghyfeiriadur y Cod Post presennol. Eto ceir rhyw atgof gwan o Bartley yn y Tynbartle a nodwyd ar fap Ordnans 1959. Mae'n bur debyg mai Tyddyn Barkley oedd y ffurf wreiddiol fel yr awgrymir yn y cofnodion cynharaf. Pwy oedd y Barkley hwn tybed - un dirgelwch na ellir fyth ei ddatrys mae'n debyg. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.250-1