Gorsaf reilffordd Cyffordd Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Cyffordd Tryfan yn enghraifft brin iawn, os nad unigryw, ym Mhrydain o gyffordd ar reilffordd trac cul lle gallai teithwyr newid trenau. Mae'n sefyll ddwy filltir i'r de o orsaf Dinas yn y man lle'r arferai cangen i Rostryfan, ac o'r fan honno i'r Bryngwyn, wyro oddi wrth brif lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, er prin bod llawer erioed wedi aros yno i newid trenau.

Roedd lŵp yma i drenau basio, signalau a bocs signalau (y mae ei sylfeini i'w gweld gyferbyn â'r platfform).

Ar dafod leferydd, gelwid yr orsaf yn 'Stesion Tyddyn Gwŷdd'.

Mae'r adeilad wedi ei ailgodi'n ddiweddar, gan ddefnyddio'r hen ddefnyddiau hyd y gellid, ac mae trenau'n galw yno ar gais. Yr orsaf nesaf ati yw Waunfawr.

Heddiw mae'n ganolbwynt ar gyfer nifer o lwybrau, gan gynnwys llwybr ar hyd hen gangen y Bryngwyn.

Gorsaf Cyffordd Tryfan yn 2011