Teulu Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Teulu Wynn (Glynllifon))
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trosolwg

Mae Teulu Glynllifon yn un o'r teuluoedd mwyaf hirhoedlog ymysg uchelwyr cwmwd Uwchgwyrfai, gyda'u hachau'n ymestyn yn ôl yn gadarn i rai o'r uchelwyr dan y Tywysogion Cymreig. Yn ystod yr 16g. mabwysiadodd y teulu'r cyfenw "Glynn" (neu "Glyn" neu Glynne - roedd y sillafiad yn newid o un ddogfen i'r llall fel roedd yn arferol cyn sefydlu orthograffeg enwau). Roedd hyn yn dilyn yr arfer dan frenhinoedd y Tuduriaid o gydymffurfio ag arferion Seisnig eu cymheiriaid yn Lloegr.

Methodd y llinach ar yr ochr wrywaidd ar farwolaeth John Glynn ym 1685, a bu i ferch hynaf y plas briodi ag aelod o deulu Boduan, Llŷn a oedd yn arddel y cyfenw "Wynn" ym 1700.[1] Ers yr adeg honno, Wynn yw cyfenw'r teulu. Er 1776, mae mab hynaf y teulu wedi etifeddu teitl, sef Arglwydd Newborough. Mae yna Arglwydd Newborough o hyd, sydd yn dal i fod yn berchennog ar dir yn Uwchgwyrfai.[2]

Penteuluoedd Glynllifon

Y Glynniaid

Yr achres gynnar, lled ansicr

  • Cilmin Droed-ddu, sylfaenydd y teulu a'i gyfoeth yn ôl y chwedl
  • Lleon
  • Llowarch
  • Iddig
  • Iddon
  • Dyfnaint
  • Gwrydyr

Yr achres weddol gadarn o ddiwedd y 13g ymlaen

  • Ednowain, y ffigwr hanesyddol sicr cyntaf yn yr achres, trydydd mab Gwrydyr yn ôl yr achresi. Roedd ei frawd hŷn, Morgeneu Ynad, ail fab Gwrydyr, yn hen hen hen hen daid i Morfudd ferch Hywel a briododd â Tudur Goch o Blas Nantlle.
  • Ystrwyth ab Ednowain
  • Iorwerth Goch
  • Ieuan ab Iorwerth
  • Einion ab Ieuan, a briododd ag Efa, merch ac etifeddes Ifan ap Trahaearn ab Iorwerth o'r Garthmyl, Sir Drefaldwyn
  • Goronwy ab Einion, a briododd â Generis ferch Gwyn ab Ednowain ab Eginir ap Meredydd ap Collwyn
  • Tudur Goch o Blas Nantlle, a briododd â Morfudd ferch Hywel, ei gyfnither o'r chweched ach, sef ei chweched cyfnither. Roedd hi'n gyd-etifeddes cangen Morgeneu Ynad o deulu Cilmin Droed-ddu (a oedd yn cynnwys Glynllifon),[3] ac felly daeth dwy ran o etifeddiaeth Cilmin (a bwrw bod Cilmin yn berson go iawn) at ei gilydd, gan gryfhau eiddo'r teulu.

Y teulu y gwyddys yn sicr eu bod wedi byw yng Nglynllifon

  • Hwlcyn Llwyd, y cyntaf i'w ddisgrifio fel "o Lynllifon". Priododd â Nest ferch Cynwrig ap Meredydd Ddu, Porthamel, Môn
  • Meredydd ap Hwlcyn, yn fyw ym 1456
  • Robert ap Meredydd, yn fyw ym 1440
  • Edmund Llwyd, yn marw ym 1540 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Ef oedd ail fab Robert ap Meredydd; roedd ei frawd hŷn, a fabwysiadodd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anghymwys i etifeddu ystâd
  • William Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1562
  • Thomas Glynn, Uchel Siryf Ynys Môn, 1584, gŵr Catherine, merch ac aeres John ap Richard ap Morris o'r Glynn, Llanfwrog, Môn - a ddaeth â thiroedd Môn i'r ystâd
  • Syr William Glynn, Uchel Siryf Môn 1597, a wnaed yn farchog ym 1606 ar sail ei lwyddiant fel milwr yn Iwerddon. Bu farw 1620.
  • Thomas Glynn, Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1622, Aelod Seneddol sawl gwaith o 1623-1640. Botanegydd cynnar. Bu farw 1647.
  • John Glynn, a aned tua 1644; Uchel Siryf Sir Gaernarfon 1668-9. Fe briododd ag Elizabeth, merch Syr Hugh Owen, Orielton, Sir Benfro. Bu farw 1685.

Ni chafodd fab i'w olynu; priododd yr hynaf o'i ddwy ferch, Frances Glynn â Thomas Wynn, Boduan, Llŷn.

Dyma'r llinach wrywaidd wreiddiol a feddiannodd Glynllifon rywbryd yn ystod y Canol Oesoedd Cynnar nes i'r llinach wrywaidd fethu yn niwedd yr 17g. Rhestrir y penteuluoedd yn nhrefn amser. Mae erthyglau unigol yn Cof y Cwmwd am y rhai mwyaf nodedig ohonynt.

Y Wynniaid

  • Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af (1678-1749), Aelod Seneddol, barwnig o Foduan a wnaeth Plas Glynllifon yn brif annedd y teulu wedi iddo ef briodi Frances Glynn a oedd wedi etifeddu'r ystad oherwydd i John Glynn farw heb fab.
  • Syr John Wynn (1701-1773), yr ail farwnig, Aelod Seneddol. Fe briododd â Jane, merch John Wynne o'r Melai, Llanfair Talhaearn ac Abaty Maenan, gan gymryd yr ystadau hynny i mewn i Ystad Glynllifon
  • Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough (1736-1807), y trydydd barwnig a wnaed yn farwn yn yr Arglwyddiaeth Wyddelig. Fe briododd â merch Iarll Egmont, ac wedyn â Maria Stella
  • Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough, 1802-1832, Aelod Seneddol 1826 dros Fwrdeistrefi Caernarfon. Bu farw'n ddi-briod ac fe'i holynwyd gan ei frawd
  • Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough (1803-1888)
  • Frederick George Wynn (1853-1920), pedwerydd mab Spencer Bulkeley, a etifeddodd Glynllifon a Boduan gan ei dad. Ni phriododd. Dyma'r aelod olaf o'r teulu i fyw'n barhaol yng Nglynllifon. Wedi ei farwolaeth, defnyddid y plas gan y teulu fel tŷ ar gyfer ymweliadau achlysurol, gwyliau a phartïon saethu, er bod llawer o'r ystad yn dal yn eu meddiant - hyd yn oed heddiw.

Gallai ymddangos yn rhyfedd fod y pedwerydd mab wedi etifeddu'r ystadau, ond rhaid cofio fod ystadau eraill gan y teulu erbyn hynny. Roedd ffermydd ym mhlwyf Ffestiniog a oedd yn eiddo iddynt wedi datblygu dros y 19g yn chwareli hynod o gynhyrchiol, a'r teulu'n cael breindal ar bob tunnell o lechi a gynhyrchid: cyfoeth heb weithio amdano; etifedd y teitl felly gafodd y darn yna o'r ystad. Hefyd roedd gan y teulu diroedd eang ystad y Rhug ger Corwen ar gyfer meibion eraill.

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.36
  2. Mae'r prif ffeithiau yn yr erthygl hon i'w canfod yn J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172-3
  3. W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33