Thomas Glynn (y cyntaf)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Yr oedd y Thomas Glynn cyntaf i fod yn benteulu Glynllifon yn fab i William Glynn ac yn dad i Syr William Glynn. Fe'i godwyd yn Uchel Siryf Ynys Môn ym 1584. Etifeddodd yr ystad ar farwolaeth ei dad ym 1594, ac mi farwodd yntau ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Ychydig iawn a wyddys amdano, mwy na'i fod wedi priodi Catherine, merch John ap Richard ap Morris o Lanfwrog ac etifeddes ystad ei thad, gan ychwanegu tiroiedd Môn i Ystad Glynllifon. Cawsant nifer o blant, sef William (a ddaeth yn Syr William), John (a farwodd yn hen lanc), Catherine a briododd Richard Meyrick, Bodorgan, Elin a briododd Richard Madryn a Lowri a briododd Thomas Bodfel. Dengys y sawl a briododd blant Thomas felly ei fod yn cael ei gyfrif ymysg rheng uchaf cymdeithas yr ardal.

Dywedir iddo gynnal tŷ agored i feirdd crwydrol ac yn gallu barddoni ei hun yn y mesurau caeth[1] er, yn ôl Gilbert Williams, "ni ddangosodd....ddim o abledd ei dad".[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.28
  2. W. Gilbert Williams, Glyniaid Glynllifon (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.35