Siarter Eglwys Clynnog Fawr
Y Ddogfen
Mae’r Siarter a roddwyd i Eglwys Golegol Clynnog Fawr wedi goroesi ar ffurf copi sydd i’w gael yn y Llyfrgell Brydeinig, fel rhan o ddogfen a adwaenir fel Llawysgrif Harley 4776, ac a gyhoeddwyd mewn cyfrol o’r enw Record of Caernarvon.[1] Hyd y gwyddys nid yw’r ddogfen wreiddiol wedi’i goroesi, ac mae lle i gredu y gallai’r fersiwn sydd i’w chael yn Harley 4776 fod wedi ei chopïo o gyfrol goll Llyfr Beuno neu’r Tiboeth.
Amcan y ddogfen oedd gosod awdurdod coron Lloegr, ym mherson y brenin Iorwerth IV, ar hawl rheithor Clynnog Fawr, un Sieffre Trefnant, a oedd yn teimlo bod ei hawliau fel profost, abad neu reithor (defnyddir sawl term i ddisgrifio ei swyddogaeth) dan fygythiad gan wrthwynebwyr iddo. Yn anffodus, nid oes unrhyw ddyddiad wedi goroesi yn nhestun y siarter fel y’i hargraffwyd, ac roedd Iorwerth IV yn teyrnasu (bob yn ail a Harri VI) am gyfnod hir, 1461-83. Gellid amcangyfrif y dyddiad fel o gwmpas 1475.
Nid yw’r siarter hon yn unol â ffurf arferol “inspeximus” (lle mae’r sawl sy’n creu’r ddogfen yn cadarnhau hawliau naill ai rhywun neu sefydliad trwy nodi eu bod wedi gweld dogfen gynharach lle rhoddwyd y cyfryw hawliau). Yn hytrach, mae Siarter Clynnog (os gellir mentro galw’r ddogfen wrth yr enw hwnnw) yn gadarnhad o hawliau dros eiddo a oedd, fe honnwyd, wedi bodoli ers 800 mlynedd. Nid yw’n glir ai traddodiad llafar sydd y tu ôl i’r ffeithiau honedig yn y ddogfen, ynteu fanylion a oedd i’w cael (i raddau mwy neu lai) o fewn cloriau "Llyfr Beuno". Beth bynnag am hynny, mae hi’n ddogfen ryfeddol sydd yn tystio i ymwybyddiaeth o hanes a phersonoliaethau Gwynedd dros amser maith, ac (o bosibl) yn tystio i ddysg hen sefydliad colegol Clynnog Fawr a’i adnoddau ysgrifenedig.
Yr eiddo y sonnir amdano
Mae'r Siarter yn sôn am nifer o ddarnau o dir, rhai cymaint â threfgorddi a grybwyllir yn Stent Uwchgwyrfai 1352 ac eraill y mae pob sôn amdanynt wedi mynd. Y peth a oedd yn gyffredin i'r holl eiddo hwn oedd mai dyma'r eiddo yr honnid gan reithoriaid Eglwys Golegol Clynnog Fawr fod ganddynt hawliau o ryw fath drosto. Rhoddir enw'r sawl a gyflwynodd pob darn o eiddo "i Dduw a Sant Beuno" ac mae'n bosibl adnabod rhai o'r rhain o hen achresi ac ati, ac felly rhoi rhywfaint o ddyddiad i'r rhodd. Dyma faes i ryw hanesydd sy'n ymddiddori yn y Canol Oesoedd gydio ynddo. Diddorol, fodd bynnag, yw nodi bod y rhoddion yn ymestyn dros gyfnod o bedwar can mlynedd a mwy, o tua 600 OC hyd at tua 1050 OC, sef o adeg rhodd y brenin Cadwaladr hyd at gyfnod Gruffydd ap Llywelyn a fu farw ym 1063.[2]
Mae'r tiroedd a'r hawliau dan sylw, er gan nifer o roddwyr, yn sefyll mewn sawl ardal benodol: ardal Clynnog ei hun a Llanllyfni, Llandwrog, Llanwnda Llanfaglan a Charnguwch, sydd yn agos i ffiniau Uwchgwyrfai; ardal Llangaffo yn ne-orllewin Ynys Môn; arfordir deheuol Llŷn; Ardal Trefriw a rhan o'r Creuddyn ger Llandudno. O'r dosbarthiad hwn tyfodd y bum gyfran a oedd yn perthyn i drefniadaeth yr eglwys ar ddiwedd y Canol Oesoedd, sef Clynnog Fawr, Clynnog Fechan neu Langeinwen; Llanwnda a Llanfaglan; a Llangelynnin yn Sir Feirionnydd (nad yw'n cael ei grybwyll yn y Siarter).[3] Byddai'r fam egwys, gyda'i gweithgareddau crefyddol ac addysgol, yn cael ei gwasanaethu gan y profost neu reithor a'r ficer.
Ymwybyddiaeth haneswyr o gynnwys y ddogfen
Defnyddiwyd ffeithiau sy’n deillio o’r ddogfen gan y rhan fwyaf o haneswyr modern yr Eglwys gynnar yn y Gogledd a’r rhai sydd wedi astudio tir-berchnogaeth yn ystod y Canol Oesoedd yng Nghymru, a hynny ers i’r fersiwn yn y "Record of Caernarvon” gael ei chyhoeddi ym 1828, er mwyn canfod peth o hanes clas neu abaty Clynnog Fawr.
Efallai mai’r cyntaf i gyhoeddi disgrifiad o’r ddogfen oedd y Parch Henry Longueville Jones, sylfaenydd a golygydd Archaeologia Cambrensis.[4] Yn ei erthygl mae o’n dibynnu ar wybodaeth a gafwyd gan y Parch. John Jones, Rheithor Llanllyfni a oedd, o bosibl, wedi cael yr wybodaeth allan o hen gopi o’r siarter a wnaed gan Robert Vaughan, Hengwrt.
Ym 1906 cyhoeddodd y bargyfreithiwr Edward Owen bapur yn seiliedig ar achos yn Llys y Trysorlys ym 1537, lle cafwyd ymchwiliad i hawliau’r eglwys a rheithor Clynnog Fawr. Derbyniwyd a chofnodwyd tystiolaeth nifer o bobl y plwyf, ac mae’n amlwg o’u tystiolaeth fod nifer wedi cofio Sieffre Trefnant, ac yn gwybod am y materion sydd yn cael eu hadrodd yn y siarter. [5] Byrdwn y dystiolaeth, cyn belled ag y mae cynnwys yn siarter yn y cwestiwn, yw bod Sieffre Trefnant wedi dangos i nifer beth oedd sail ei hawl i’r fywoliaeth, sydd yn awgrymu bod siarter Edward (neu gopi ohoni) ar gael ganddo. Beth bynnag oedd gwirionedd y ffeithiau yn y siarter lle 'roedd yn adrodd hen hanes, nid oedd cwestiwn bod brenin Lloegr wedi gosod sêl y gyfraith arnynt.
Un hanesydd arall a wnaed defnydd o’r siarter, er mwyn esbonio statws penodol y sefydliad eglwysig yng Nghlynnog (coleg, abaty, canoniaeth, eglwys blwyfol neu beth bynnag) oedd y diweddar Ddr. Colin Gresham.[6].
Diben y siarter
Mae’r siarter ei hun yn awgrymu bod Sieffre Trefnant wedi cael trafferth i fynnu ei hawliau fel deilydd y rheithoriaeth yn wyneb gwrthwynebiad rhai “sydd wedi melltithio Duw ac sydd heb ofni Sant Beuno”. Awgrym rhai haneswyr yw y gallai Sieffre hefyd fod wedi bod yn ceisio arian ar gyfer ailadeiladu’r Eglwys, gwaith y cychwynnwyd arni o c.1480 ymlaen, ac felly’n ceisio ailsefydlu hen hawliau a oedd wedi mynd yn anweithredol, trwy gael awdurdod y brenin y tu ôl iddynt. Yn sicr, y bwriad oedd codi eglwys drawiadol addrudfawr, a byddai angen adnoddau sylweddol.
Cyfieithiad o'r Testun
D.S. Isod ceir cyfieithiad rhydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig sydd yn adysgrif o ran berthnasol llawysgrif Harley 4776 yn y Llyfrgell Brydeinig, a honno ei hun yn gopi o'r gwreiddiol. Nodwyd uchod hefyd fod y testun yn y fersiwn a ddaeth i lawr atom yn un bur garbwl ac yn anodd ei deall a rhaid oedd dewis cyfieithu rhai cymalau mewn modd a fyddai’n gwneud synnwyr yn hytrach na chadw’n gaeth at y geiriau unigol. Cofied hefyd mai cyfeithiad o gopi printiedig sydd yma, a hynny'n argraffiad sydd yn defnyddio ffont cofnodion neu "record type" sydd yn ceisio adlewyrchu pob elfen o'r gwreiddiol, yn cynnwys terfyniadau a nodir gydag arwyddion, llythyrau coll ac ati. Gan fod Lladin yn defnyddio terfyniadau i gyfleu gwrthrych, goddrych neu arddodiadau perthnasol, os nad yw terfyn gair yn glir, mae'n fater o ddeall yr ystyr o'r cyd-destun. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir yn gryf troi at y fersiynau Lladin gwreiddiol (neu at arweiniad gan arbenigwr yn yr iaith Ladin) lle bo'n ymarferol.
CADARNHAD IORWERTH IV O EIDDO A BREINTIAU EGLWYS GOLEGOL CLYNNOG FAWR Cyfieithiad “Record of Caernarvon” tt.257-8 Iorwerth, trwy ras Duw yn frenin Lloegr a Ffrainc ac Arglwydd yr Alban, at y sawl y mae’r llythyrau hyn yn dod i’w dwylo, henffych. Bydded hysbys i chwi, ar ran ein hannwyl Sieffre Trefnant, profost neu rheithor Eglwys Colegol Clynnog Fawr yn Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, yr ymddangosir fod un Gwyddaint, cyn cof dynion yn anffodus, wedi rhoi treflan o’i eiddo, sef Clynnog Fawr, i Dduw a Beuno a oedd yr adeg honno’n abad Abaty Clynnog Fawr, er mwyn ei enaid ac [enaid] ei gefnder Cadwallon, yn rhydd o ddyletswyddau a threthi’r Brenin, a heb unrhyw adfeddiad[7] am gyhyd ag y bydd cerrig ar y ddaear. A bu i’r personau a enwir isod roi’r eiddo neu’r tiroedd i Dduw a Sant Beuno fel y rhoddodd Gwyddeint Glynnog Fawr, sef: • Y Brenin Cadwaladr a roddodd Graeanog • Y Brenin Tegwared a roddodd Porthamel • Y Tywysog Merfyn a roddodd Carnguwch • Cadwgan ap Cynfelyn a roddodd Bodfeilion yn Llŷn a Bodfel • Rhodri mab Merfyn a roddodd Denio • Griffri mab Tunglan a roddodd draean o Maesdref • Idwal a roddodd Penrhos • Rhodri a roddodd draean o Neigwl[8] • Greang a roddodd Derwin • Rhodri mab Idway a roddodd Bodellog • Gweiddeint mab Tridog a roddodd Llanllyfni a Chored Aber Saint • Y Brenin Cadell a roddodd Cilcwrt • Idwal a roddodd Clynnog Fechan • Tridog a roddodd Gored Gwyrfai a choedwig ar lan y môr • Idwal a roddodd Aber Braint • Cadell ap Rhodri a roddodd Brynhyddgen • Anarawd mab Rhodri a roddodd Ysgallen yn Nghreuddyn • Cadell a roddodd Bodwynnog a Llwyndynwal • Rhodri ap Merfyn a roddodd Prysgol a Nant Soch yn Llŷn • Cadell a roddodd Eithinog • Rhodri a roddodd Llannor yn Llŷn • Cynan mab Hynal a roddodd Bodeilias yn Llŷn • Anarawd a roddodd Bodagwn • Anarawd mab Rhodri a roddodd Dolbebin • Grefai mab Iwen a roddodd Dolgoediog • Griffith mab Llywelyn a roddodd Aber Llysyn • Eliud mab Madog a roddodd Maesang o fewn ei ffiniau • Iago mab Idwal a roddodd Llechedern yn Llŷn • Gruffudd ap Cynan a roddodd Boteridd • Trahaearn mab Cradog a roddodd Trefwyn[9] • Iago ap Idwal a roddodd Brynrhirid • Gruffudd ap Llywelyn a roddodd Y Faenol • Cadwaladr a roddodd Llanfawr yn Llŷn • Gruffudd mab Llywelyn a roddodd Trefriw • Llywelyn mab Llewfron a roddodd Hirdref yn Llŷn • Ionab a roddodd Bodegroes • Rhodri mab Merfyn a roddodd Moweddus • Cadell mab Rhodri a roddodd Penhyddgen • Gruffudd mab Llywelyn a roddodd Treflech • Rhodri a roddodd Penrhos yn Nhwrcelyn • Hywel mab Cadell a roddodd dwy allan o dair ran o Lecheiddior • a Gruffudd mab Llyn a roddodd Rhoswen Isaf ac hefyd yn yr un modd cyn yr amser y sonnwyd amdano fe roddodd Gwyddaint rai ryddfreiniau a sawl breintryddid i Dduw a’r dywededig Sant Beuno, abad yr Abaty uchod, a’i olynwyr, yn y geiriau canlynol hyn: “Yr ydym yn datgan ac yn deall trwy enwogrwydd Sant Beuno a’i blwyf yn bell ac agos, fod y rhestr eiddo hon yn cael ei amddiffyn, ei chynnal a’i gweithredu, a hynny ym mhob man. Bydd yr eglwys hon yn rhoi lloches gyda bwyd a diod heb eithriad i’r holl geiswyr lloches a’r rhai ar ffo sydd yn erfyn am hynny rhag pobl rymus (boed i’r rheiny weithredu oherwydd maint asesiad y dreth frenhinol, neu dros ddyledwyr a mechnïyddion) ac i unigolion sydd yn fföedigion neu’n ŵyr preifat, rhag trethi brenhinol, boed [i’r ceiswyr fod] yn rhai cyfiawn neu’n rai anghyfiawn, lladron ac anwariaid, gan i’r Eglwys gael ei phennu’n lle o’r fath, daeth yn amddiffynfa i'r segur eu hunain â'r eiddo a aethant gyda nhw, er i lawer ei chael hi’n anodd credu fod y rhyddid hwn yn cael ei roi iddynt, oherwydd eu [diffyg] llafur. A bwrw eu bod wedi mynd at y Brenin sawl gwaith, ac am y rheswm hwnnw wedyn ddewis mynd at yr Eglwys, gallent gyda'i chymorth da ddyfod yn well, a’u plant, heb unrhyw rwystr, fynd allan yn ddiogel rhag eu herlynyddion, a dewis cael eu hamddiffyn gan gyfraith warchodol Beuno, yn ôl deddfau eglwysig gweddill Ynys Prydain, sef rhodd Gwyddaint i Dduw ac i Sant Beuno, nid er mwyn iddo gael aur nac awdurdod y bywyd hwn, eithr er meddiant tragwyddol yn y nef, ac am ysgrifennu ei enw yn llyfr Sant Beuno.” Fel hyn y rhoddodd yn ffyddlon, fel y gosodasai Duw yn ei galon, heb dreth frenhinol, a heb gonswl a rhaglaw iddo, a heb adfeddiad i’r un person o'r fath, oddieithr i Dduw yn unig ac i Sant Beuno, fel ynys yng nghanol y môr, a chymeradwyodd hyn i'w ddisgynyddion er mwyn iddynt fyw yn dda, a melltithiodd bwy bynnag na chyflawnai'r pethau hyn ar eu hôl, ac na dderbynient iddynt eu hunain ond yr hyn a ddewisasant y Clerigwyr yn unfrydol, yn unol â chyfraith Duw, fel y rhoddwyd hi i'n Harweinydd, felly hwy oll sydd yn offrymu eu helusen, fel y rhoddodd Gwyddaint Glynnog i Dduw, ac fel y bendithiwyd Beuno, yr hwn a ffafriwyd gan Dduw Dad, yr Hwn a wnaeth bob peth gweledig ac anweledig; a'r hwn nid yw yn ei chadw a fydd yn felltigedig, a'i eisteddle ef gyda Judas Isgariot a'r holl bobl a ddinistrir. Ac ar ôl i hyn ddigwydd, ymhen blynyddoedd dinistriwyd yr Abaty dywededig gan y rhyfel a dorrodd allan yng Nghymru yn y dyddiau hynny, Dinistriwyd yr eglwys a chanlyniad hynny oedd ei diddymu fel petai, a chafodd ei thrawsnewid a'i hailadeiladu yn eglwys golegol a hynny ers amser sydd bellach cyn cof. A thrwy gyfrwng y trefniant hyn, y mae’r profostiaid neu’r Rheithorion heb eithriad trwy allu'r Rhoddwr uchod [wedi cael bod] mewn meddiant heddychlon yn yr un modd â’r dywededig Sant Beuno a'i Olynwyr, ac am wyth can mlynedd a mwy, maent wedi bod â’r meddiant yn eu dwylo hwy, a hynny tan ychydig flynyddoedd yn ôl pan gafodd y profost neu’r Rheithor a'i wahanol ragflaenwyr eu cynhyrfu a'u haflonyddu yn ddifrifol o ran eu meddiant o gyfran helaeth o'r eiddo gan amryw bersonau sydd wedi melltithio Duw ac sydd heb ofni Sant Beuno. Ac y mae'r profost neu Reithor hwnnw yn awr yn cael ei gynhyrfu a'i boeni yn ddirfawr gan y ffaith fod perygl amlwg y byddai’r Eglwys golegol a nodwyd uchod yn mynd yn anghyfannedd oni bai ein bod yn rhoi ein cymorth yn y mater ac felly mae’r profost neu’r Rheithor yn ymbilio’n ostyngedig arnom i gydnabod a chadarnhau’r holl ryddfreiniau, breintryddid clerigol a rhoddion, yr hyn y mae’n rhyngu ein bodd i’w wneud. Ystyriwn fod bwriadau a rhoddion duwiol y dywededig [bersonau] wedi eu rhoi fel y dywedwyd eisoes er mawl ac anrhydedd i Dduw a Sant Beuno bendigaid a wnaeth, ym mysg pethau eraill, godi Gwenffrewi o’r meirw; ac yr ydym ni yn dymuno, o’n gras arbennig ni, gynyddu’r rhain yn hytrach na'u lleihau, a hynny’n llwyr oherwydd ein gwybodaeth sicr a'n amcanion pur, fod y rhoddion o’r holl ryddfreiniau, rhoddion a breintryddid clerigol ynghyd â phob eiddo sydd wedi eu cymeradwyo’n ddilys. Rydym ni, ein hetifeddion a'n holynwyr, hyd eithaf ein gallu, yn derbyn, yn ymfodloni, ac yn cymeradwyo [yr hawliau hyn], ac yr ydym yn rhoi ac yn eu cadarnhau hawl y profost neu Reithor a'i olynwyr fel maent yn bresennol hyd byth. Am hynny dymunwn ac yn gorchymyn yn gadarn ar ein rhan ni, ein hetifeddion a'n holynwyr a nodwyd uchod, fod gan y profost neu Reithor a'i olynwyr, pob un ohonynt, yr holl roddion, rhyddfreiniau a breintryddid clerigol a nodwyd uchod, a phob eiddo arall a grybwyllir uchod, i’w dal, i’w defnyddio ac i’w harfer mewn llawn ryddid, uniondeb, tangnefedd a mwynhad tawel yn unol ag arfer Gogledd Cymru a hynny am byth, heb unrhyw rwystr, llesteirio, aflonyddu, ymosod, diflastod na phryder gan ein hetifeddion, neu ein Holynwyr nac ychwaith gan ein Hustusiaid y carchar, Crwneriaid, Siryfion, Meiri, Beilïaid, Cwnstabliaid, Ringylliaid y rhaglaw neu etifeddion neu olynwyr unrhyw un o'n Swyddogion Gweinyddol eraill o gwbl; ac na fydd unrhyw un o'r rhai a grybwyllwyd yn awr yn aflonyddu, mewn unrhyw ffordd, ar y profost neu Reithor, na'i olynwyr, na'i denantiaid, nac ar ei feddiant ar y cyfan o’i eiddo nac ar unrhyw ran ohono, nac yn tarfu arno, o dan boen fforffediad i ni [werth] gan bunt o'u tiroedd a'u nwyddau, a hynny bob tro iddynt wneud hyn yn groes i ddyletswydd ein hetifeddion neu Olynwyr. Wrth sôn am y pethau uchod, sonnir am y gwir werth blynyddol a ganiateir boed hynny am unrhyw barsel pa mor fychan bynnag y bo, heblaw bod rhyw weithred statudol neu reol i’r gwrthwyneb, ac oni fo unrhyw fater neu achos arall wedi ei ragordeinio er gwaethaf hynny. Gan dystio i’r cyfryw &c. Tystiwyd gan &c.
Cyfeiriadau a throednodiadu eraill
- ↑ Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.226-7
- ↑ Anhysbys, "Eglwys Clynnog Fawr yn Arfon", Yr Haul, Cyf III, Rhif 27 (Mawrth 1887), tt.66-7
- ↑ Albert Owen Evans, "Three Old Foundations", Y Cymmrodor, Cyf.42 (1931), tt.98-9.[1]
- ↑ H.L.J. (Henry Longueville Jones), "Arvona Mediaeva. Collegiate Church of Clynnog Fawr, Caernarvonshire”, Archaeologia Cambrensis, Cyf.3, Rhif XI, (Gorffennaf 1848), tt.247-57 [2]
- ↑ Edward Owen, “An Episode in the History of Clynnog Fawr”, Y Cymmrodor, Cyf.19 (1906), tt.68-88 [1333/73#?cv=73&m=14&h=Clynnog%20AND%20Charter&xywh=-2251%2C-198%2C6680%2C3950]
- ↑ Colin A. Gresham, “A Further Episode in the History of Clynnog Fawr”, Trafodion Anrh. Gym. y Cymmrodorion, 1966, Rhan II, , tt.299-315 [3]
- ↑ Defnyddir adfeddiad, sef “appropriation” yn Saesneg, yma i gyfieithu “proprietate” yn y gwreiddiol.
- ↑ "Nevgwlf" yn y fersiwn Ladin.
- ↑ O bosibl, Trewyn, Môn