Clynnog Fechan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwelir yr enw Clynnog Fechan weithiau ymysg rhestrau o eiddo Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr neu Glas ac Abaty Sant Beuno fel yr oedd yn ystod y Canol Oesoedd. Dywedir mai gŵr o'r enw Idwal a roddodd yr eiddo hwn i'r sefydliad, ynghyd â Phenrhos (na dywedir yn glir yn y ffynonellau pa Benrhos) ac hefyd Aber Braint. Mae aber yr Afon Braint ger Plas Penrhyn a Rhuddgaer, dau blasty ym mhlwyf Llangeinwen yn Ynys Môn, ac mae'n sicr hefyd fod Clynnog Fechan ym mhlwyf Llangeinwen. Yn wir, Clynnog yw enw'r fferm yn union i'r gorllewin o eglwys y plwyf hwnnw.

Nid oes sicrwydd pwy oedd Idwal, ond gall mai Idwal Foel ap Anarawd ap Rhodri Fawr, brenin Gwynedd rhwng 916 a'i farwolaeth yn 942 ydoedd.[1]

Roedd Eglwys Clynnog Fawr yn eglwys gyfrannogol ("portionary church") yn y Canol Oesoedd hwyr ac roedd ficer yn cael ei benodi i bob cyfran gan reithor y fam egwlys. Clynnog Fechan oedd un o'r pum cyfran hyn, a chyfranogydd Clynnog Fechan oedd ficer Llangeinwen felly.[2]

Nid oedd y ffaith fod Clynnog Fechan yn rhan o eiddo a dylanwad Eglwys a rheithor Clynnog yn golygu bod unrhyw gysylltiad mwy na hynny efo Uwchgwyrfai.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.385; J.E. Lloyd, A History of Wales (Llundain, 1954), tt.335-8
  2. Colin A. Gresham, “A Further Episode in the History of Clynnog Fawr”, Trafodion Anrh. Gym. y Cymmrodorion, 1966, Rhan II, , t.300