Seidin Chwarel Parc Dudley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Seidin Chwarel Parc Dudley yn troi i ffwrdd o brif lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, ychydig lathenni i'r de o orsaf Waun-fawr, i chwarel ithfaen, sef Chwarel Parc Dudley gerllaw. Fe'i hadeiladwyd yn ystod y 1920au pan oedd y lein bellach yn eiddo i gwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru. Croesai'r ffordd fawr gan derfynu o dan arllwysfa a godwyd i ollwng cerrig i dryciau'r rheilffordd. Byr fu'r defnydd ohoni, gan fod y rheilffordd ei hun wedi cau erbyn 1937.

Ffynonellau

  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 1 (Oakwood, 1988), t.194
  • J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in South Caernarvonshire, Cyf. 2 (Oakwood, 1989), t.39