Chwarel Parc Dudley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Chwarel Parc Dudley yn chwarel ithfaen ar lethrau isaf Moel Smytho, ger Gorsaf reilffordd Waun-fawr. Fe'i hagorwyd yn y 1920au ond gweddol fyr fu ei hoes; y perchnogion oedd cwmni o ardal Wolverhampton. Roedd peiriant malu cerrig yn y chwarel, ac arllwysfa islaw i lwytho wagenni rheilffordd tra parhaodd gwasanaethau ar y lein fach. Wedyn defnyddiwyd lorïau i gludo'r cerrig oddi yno. Mae nifer o olion diddorol yn dal yn y chwarel sydd wedi ei diogelu fel gwarchodfa natur ers 1994. Mae llwybrau difyr wedi eu creu er mwyn i'r cyhoedd ddarganfod nodweddion y safle.

Bellach mae'r safle'n warchodfa naur leol, sef Parc Dudley.